Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TTST APOSTOLAIDD. HYDREF, 1848. Utttfteiiìtau lEntooat'ott %x ISslfossí. JOHN GILL, D.D. Nid oes neb o'n darllenwyr, ond odid, na chlywsant lawer o son am y Dr. Gill, er efallai na ŵyr y rlian fwyaf o honynt ond ychydig o'i hanes; tybiwn gan hyny y byddai braslun o'i fywyd yn dderbyn- iol ganddynt, yn enwedig gan fod ei Esboniad llafurfawr ar y Testament New- ydd yn dyfod allan yn awr o Swyddfa "y Bedyddiwr" yn Nghaerdydd. Cym- envn y cofFa canlynoi o'r " Chrìstian Bioyraphy" gan W. Jones, o Lundain. "Ganwyd John Gill, Tachwedd 23, 1697, yn Kettering, swydd Northampton, lle yr oedd ei dad yn ddiacon eglwys o Fedyddwyr. Cynnyddodd yn gyflym mewn llênddysg (classical learning), mewn ysgol ramadegol yn y gymydog- aeth, yn yr hon y rhoddwyd ef pan yn draieuanc; ac hyd y nod y pryd hyny, ymgyrchai yn fynych at lyfrwerthwr er mwyn darllen, nes aeth yn ddiareb i ddweyd, fod rhyw beth mor sicr a bod Joiin Gill yn Shop y llyfrwerthwr. Gwedi iddo gael ei yru o'r jrsgol ramad- egol gan ragfarn yr oíFeiriad oedd yn ei llywodraethu, ymdrechodd ei gyfeillion g;iel lle iddo mewn athrofa at y weinid- ogaeth, drwy anfon enghreifftiau o'i gyn- nydd yn nghwahanol ganghenau dysg- eidiaetn. Effeithiodd hyn jm groes i'w dysgwyliad, canys dyma yr ateb a gaws- ant," Mae efe yn rhy ieuanc, ac os parhâ efe, fel y gellir dysgwyl y gwna, i gyn- nyddu mor gyflym, â drwy y cyîch cyff- redin cyn v bydd efe yn alluog i ofalu am dano eí hun, neu i weini mewn un- rhyw wasanaeth cyhoeddus." Gobeithir fod rbyw eglurhad jrn gjrsylltiedig â'r ateb hwn i'w wneyd i edrych yn ddoeth- ach nac jt ymddengys fel yna; neu gellir meddwl nad oedd gwarcheidwaid jrr athrofa hono yn gofalu fawr am i'r tal- entau penaf gael eu cysegru at yr achos goreu. Heb gael ei ddigaloni gan y gwrthodiad hwn, dilynodd Gill ieuanc ei fyfyrdodau gyda'r fath awch, nes oedd efe cyn cyrhaedd 19 mlwydd oed wedi darllen y prif awdwyr Groeg a Lladin, a myned trwy gylch o resymeg, areitheg, athroniaeth foesol a naturiol, a chyr- haedd gryn wybodaeth yn jt iaith Heb- raeg. Ond mae yn dra hyfryd i ni ddeall fod crefydd o hyd yn anwylach ganddo na dysgeidiaeth; canys jrn lle tebygu i'r ffugddoethion hyny a dybiant mai ar- wydd o dalent yw dibrisio ewjdlys eu Crewr, efe a ddilynodd yr Hwn yn ei ieuengtyd a gyrchai i'r deml fel tý ei Dad, ac yno mewn ymchwiliadau sant- aidd, a synodd bawb o'i amgylch. Yr eglwys Fedyddiedig yn ei dref enedigol a dderbyniodd y gwr ieuanc anarferol hwn jrn aelod, ac jrna gaiwodd ef i waith jr weinidogaeth. Er mwyn y gwaith hwn efe a aeth i fyfyrio at un Mr. Davies, yn Higham Ferrers, ond gwahoddwyd ef yn fuan i bregethu i gynnulleidfa o Fedydd- wyr yn Horsleydown, ger Llundain, ar ba rai yr ordeiniwyf ef yn 1719, pan jm 22 nilwydd oed. Ymroddodd yn awr gydag awyddfryd mawr at lenyddiaeth ddwyreiniol; ac wedi cael cydnabydd- iaetn âg un o'r Rabbiniaid Iuddewig dysgedicaf, darllenodd jr Targuman, y Talmud, a phob llyfr o ddysgeidiaeth Rabbinaidd a allai gael. Dywedir nad oedd ond ychydig o'i gystal yn y peth hyn, ac na ragorwyd arno gan neb y coffeir eu henwau yn nghofnodau llen- yddiaeth. Yn y flwyddyn 1748, cyhoedd- odd ei "Esboniad ar y Testainent New- ydd " yn dair cyfrol unplyg,a'r darlleniad a'r ddysgeidiaeth ddirfawr a ddangosodd, a dueddodd Urdd-ysgol Aberdeen, i an- fon iddo y raddeb (diploma) o üdoctor Duwinyddiaeth, gyda y cyfarchiad can- lynol: "Ar gyfrif ei wybodacth o'r ys- grythyrau, yr ieithocdd dwyreiniol, a hynanon Iuddewig; am ei ddiffyniad dysgedig o'r ysgrythyrau j'n erbyn deist- iaid ac anffyddwyr, a'r parch a enillodd efe drwy ei ysgrifemadau ereill, yr Urdd- ysgol, heb wybod iddo, a gytunodd yn unfrydol i roddi iddo y radd o Ddoctor mewn Dwyfyddiaeth." Cyhoeddodd hef- yd " Esboniad ar yr Hen Destament," yr hwn, gyda yr un ar y Newydd, a ffurna y crugíwyth anferth o naw cyfrol unplyg! 2 c