Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST APOSTOLAIDD. AWST, 1848. ADEEMAD YE HEN DBEFN. Yn awr ymofynwn pa beth oedd hen drefn addoliad yn y cymdeithasau Crist- ionogol. Yn rhagbarotòad i hyn byddai yn fuddiol ystyried a oes addoliad dwyfol awdmdodedig yn nghynnulleidfa'r saint. Gan fod hyn yn destyn o fawr bwys, ac o fawr ddyryswch gan rai, ymdrechwn ei ystyried yn ddyladwy. Yn y lle cyntaf, cynnygir eglurhau, oddiar egwyddorion rhesymol, fod addoliad o ddwyfol osod- iad i gynnulleidfaoedd o ddysgyblion. Mewn trefn i wney7d hyn mor argyiioedd- iadol ag y gellir, a chymeryd arwyneb y dybiaeth, ni chymerir onid dau osodiad, pa rai, hyderwn, a allwn en dal yn am- ddiífynfa ddiogel yn erbyn pob ymgyrcli. Gosodwn hwy allan trwy ddangos y dyr- yswch yr ydym yn myned iddo ar y naill law neu'r llall. Y cyntaf yw, naill ai y niae trefn addoliad o ddwyfol awdurdod i gynnulleidfaoedd Cristionogol, neu nid oes yr un; rhaid i bob dyn ganiatáu hyn neu beidio bod yn ddyn. Yn awr,i sym- ud pob tywyllni o ymadroddiad y gosod- iad, mae yn anghenrheidiol hysbysu mai yr hyn a íeddylir wrth gynnulleidfaoedd Lristionogol yw cynnuìleidfa, neu gym- deithas o ddysgyblion yn cyfarfod yn yr un Ue i gyflawni addoliad cymdeithasol. Yr amser y cytunwyd gan y Cristionog- ion i gydgyfarfod yw y dydd cyntaf o bob wythnos. Wrth yr ymadrodd "trefn addoliadCristionogol,"nid ydyin i ddeall agwedd, neu ystum corphorol yr addol- wyr, na'r awr o'r dydd y mae rhyw beth- au i'w cyflawni; nac ychw-aith fod yr un peth bob amser yn gyntaf, peth arall yn ail, peth arall yn drydydd, &c, er fod trefn yn y pethau yna ac sydd brydferth, addas, a ehydweddol ae anian a natur crefydd, am yr hyn hefyd ceir crybwyll- ion gan yr apostolion; ac efallai mewn rhyw ystyr gellir penderfynu y pethau hyn gyda sicrwydd o berthynas i ymar- feriad y cymdeithasau cyntaf; ond y mae rhyw gyflawniadau cymdeithasol o addoliadCristionogol,yr oll o ba rai sydd raid eu cadw yn y cynnulliad Cristion- ogol, gan fod pob un o honynt yn angh- enrheidiol er mwyn perffeithiad y cwbl, fel y mae pob aelod o'r corph dynol yu anghenrheidiol i wneyd i fyny ddyn; dyna ydym yn ei ddymuno ddangos yn yr ymadrodd "trefn addoliad Cristion- ogol." Gall y sylwadau uchod, hefyd, fod yn fuddiol i ochel camgymeriad; hyderwn y symudir pob amheuaeth yn nygiad yn mlaen ein hymchwil. Ailad- roddaf yu awr y gosodiad cyntaf a gry- bwyllwyd,—naill ai y mae trefn addoliad o ddwyfol awdurdod i gynnulleidfaoedd Cristionogol, neu nid oes yr un. Ar y dybiaeth nad oes yr un, yna y mae yr afresymoldebau canlynol yn an- ocheladwy. Nis gall fod annhrefn yn y gymdeithas Gristionogol; nis gall fod dim bai neu wall, yn yr addoliad cym- deithasol; nis gall fod dim newyddbeth yn nosbarth gwasanaeth; nis gall fod troseddiad o gyfreithiau y Brenin. Am y rhesymau yma,lle nad oes yr un drefn wedi ei sefydlu nis gall fod annhrefn, oblegyd annhrefn yw gweithredu yn groes i drefn osodedig; lle na b'o prof- iedydd nis gall fod bai, oblegyd bai yw crwydriad oddiwrth y profiedydd neu y safon (standardj; lle nad oes dim wedi ei sefydlu nis gall fod dim newyddbeth, oblegyd adnewyddu yw dwyn i mewn bethau newyddion yn mhlith yr hyn oedd eisoes wedi setydlu; a lle nad oes cyf- raith, nid oes canrwedd, oblegyd cam- wedd yw camu dros, neu anafu attalfa gyfreithlon. Gan hyny y neb a haera nad oes trefn addoliad o ddwyfol awdur- dod yn y cymdeithasau Cristionogol, yd- ynt ar yr un pryd yn anocheladwy yn amddiffyn nas gall fod dim annhrefn, dim bai, dim newyddbeth (ìnovation)t dim camwedd yn addoliad yr eglwys Gristionogol—dim, ac nas galí byth fod. Fel hyn dygwydun ochr i ddyryswch ac afresymoldeb pei-ffaith. Ond i wneyd y peth mor eglur i blant