Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST APOSTOLAIDD. GORPHENAF, 1848. DELED DY DEYRNAS. Math. vi. 10. Yn mhlith y cyfarwyddiadau lluosog n roddir i ni yn ngair y gwirionedd o berthynas i weddio ar Dduw, y mae y rhan hyn o'r ysgrythyr, a adwaenir gen- ym yn gyíFredin, wrth yr enw "gweddi yr Arglwydd," yn gynllun perftaith o roddiad gwrandawr gweddi ei lmn o'r modd y mae i ni gyfleu ein hachos ger bron Duw. Nid wyf yn meddwl bod ein Harglwydd gwedi ei bwriadu i'w harfer fel ffurf, gan nad oes genym hanes íbd yr apostolion gwedi ei harfer felly erioed; ac er ei bod yr un o ran sylwedd yn ysgrifeniadau y ddau efengylwr, Mathew a Luc, eto, nid yw yr un niewn ymad- roddion, yr hyn fuasai yn anhebgorol anghenrheidiol, pe buasai i'w harfer fel ffurf. Yn y weddi bwysig hon, y mae ein Harglwydd yn dysgu amryw wersi tra buddiol i'w ganlynwyr: megys 1. Y pri- odoldeb o fod yn fyr a cbynnwysfawr yn ein gweddiau, heb feddwl cael ein gwrando ain ein hainl eiriau. (adn.7—9.) 2. Y priodoldeb o fod yn ostyngedig ac hunan-ymwadol yn ein gweddiau: y mae Duw yn y nefoedd a ninau ar y ddaear. (adn.9.) 3. Mai gogoniant Duw ddylai fod flaenaf yn ein golwg wrth nesu at ei orsedd mewn gweddi. Y deisyfiad cyntaf yma yw, "santeiddier dy enw." (adn.9.) 4. Y dyìem ddysgwyl wrth Dduw am bob bendith dymhorol ac ysbrydol hef- yd: cynghorir ni yma i weddio, nid yn unig am faddeuant pechodau, a gwared- igaeth rhag drwg, ond hefyd am ein bara beunyddiol. (adn. 11, 12.) 5. Fod yn weddus i ni fod yn barod i faddeu i ereill wrth ofyn am faddeuant i ni ein hunain. (adn. 12.14, 15.) 6. Fod yn iawn i ni i weddio, nid yn unig drosom ein hunain, eithr dros ereill hefyd. Flant ydym i'r uu Tad nefol,bawb o honom dros wyneb yr holl ddaear. (adn. 9.) Dyma y gwersi a gyfleuir i'n sylw yn y weddi hon; cof- iwn ac ystyriwn hwyut; bydd hyny yn fwy adeiladol i ni nac adrodd y ft'urí' heb wybod ei dyben na deall ei chynnwysiad. Mae y weddi hon, fel y mae yn sefyll yn y cyfieithiad cyffredin o efengyl Mathew yn dair rban: 1. Arweiniad i mewn," Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd. 2. Deis- yfiadau, pa rai ydynt chwech mewn rhif- edi, ac a gynnwysant bob peth anghen- rheidiol er ein dedwyddwch tymhorol ac ysbrydol. 3. Mawl-wers, "Canys eiddo ti yw y deyrnas,"&c. Gadewir hon allan yn gwbl yn Luc, a barn llawer yw, y dylai fod allan yn Mathew hefyd, am nas gellir profi ei bod yn yr eilun gwreiddiol. Os na roddodd Mathew ei hun hi i fewn, nid dim amgen na rhyfyg oedd i bawb ereill wneyd y cynnyg. Ond dychwelwn bellach at ein testyn, " Deled dy deyrnas." Prif fater y geiriau hyn y w, Fod yn weddus i bob gweddiwr, bob amser, ddwyn gofal gwastadol yn ei feddwl am lwyddiant teyrnas Dduw wrth orsedd gras. Gellir gweled y priodoldeb o hyn wrth ystyried y pethau canlynol: 1. Gogoniant mewnol y deyrnas. Wrth y deyrnas hon y deallwn, yr un a theyrn- as y Mesia, neu yr oruchwyliaeth efeng- ylaidd. Mae y deyrnas hon, 1. Yn ysbrydol yrn ei natur. Gelwir hi teyrnas Dduw, teyrn- as nefoedd, er ei bod yu y byd; eto, fel y dengys Crist ei hun, nid yrw hi ddim o'r byd hwn. Mae ei Brenin, ei chyí'- reithiau, ei bendithion, a'i deiliaid yn ysbrydol. Nid plant y cnawd ydynt, ond meibion Duw, pa rai ydynt yn credu yn Nghrist, wedi eu geni nid o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gwr, eithr o Dduw. Maent wedi eu dewis gan eu Brenin allan o'r byd, ac wedi derbyn nid ysbryd y byd, ond yr ysbryd sydd o Dduw, fel y gwypont V pethau a rad roddwyd iddynt gan Dduw. Mae eu serch.ar y pethau sydd uchod, a'u hymarweddiad yn y nefoedd, o'r lle y maent yn dysgwyl yr Iachawdwr, yr Ar- glwydd Iesu Grist. 2. Teyrnas ysbrydol dda ydyw. Mae