BEDYDDIO DROS Y MEIItW. 139 y rhan fwyaf o'i amser yn aelod dichlyn- aidd hefo y Bedyddwyr. Bu farw a'i bwys ar Aberth y groes. Pan glywodd y weddw y cableddhyn,llanwoddei llygaid gan ddagrau, a chynhyrfodd ei natur, ac ymafloda yn y pofcer, tystiodd y mesurai hwynt âg ef, onid ânt allan o'i thŷ mewu moment; allan y rhedasantahithau ar eu liol hyd ganol yr heol. Dyma fedyddio drosy meirw yn ol y dyb Satanaidd. Gwel- ais ynfydrwydd arall cynddrwg a hwn yn ol fy nhyb i yn y "Diwigiwr" am Fawrth diweddaf, tu dal. 97, gan ryw uu a eilw ei hun W. G., Llanharan, mewn cysylltiad a rhyw wraig a "hanodd o lwynau gwahanol barchedigion ;" ond na ymostyngodd ei hun i grefydd, medd Mr. W. G., marw a wnaeth, druan, ar enedig- aeth ei chyntafanedig. Yna chwanega: "Bedyddiwyd ei mab ar glawr ei harch fcoffin), ar ddydd ei hangladd gan yr ys- grifenydd," sef W. G. Yn awr, y gofyn- iad yw, pa un ai Daniel a fwriadai gym- eryd ei fedyddio dros ei dad yn nghyf- raith sydd yn ei fedd, neu y W. G. a nodwyd,yw yr ynfyd-ddyn penaf? barned y doethion. Ac onid oedd dysgyblaeth y poker mor anghenrheidiol i'r naill ag oeddi'rllall? neucymerwn dipyn mwy o bwyllCristionogol,a dywedwn ynnglust- iau y W. G. hwn, mai nid ar gauadon eirch yr oedd Ioan yn bedyddio, a dang- oswn o flacn ei lygaid taw yn yr Ior- ddonen, neu mewn rhyw ddwfr y cyd- gladdwyd pob bedyddiedig yn amser Crist a'i apostolion. Gadawn y dernyn Pabaidd, tìbl, a dwl yna, fan hyn. Bedydd eto, bu teulu rhyfeddol o Satanaidd yn byw yn D------s, cynnwys- edig meddant hwjr, oll yn Seintiau, ac yr oedd llanc yn eu plith yn caru â morwyn Masnachwr (Drapcr, 8çc.) cyfrifol, a plienderfynwyd glân briodi; a chan mai Saint ydoedd y ddau, a bod digon o nwyf- au gan y Masnachwr, a dim ganddynt hwy, ac mai" eiddo yr Arglwydd y ddaear a'i chyflawnder," barnasant ei bod yn gyfiawn iddynt gael eu rhan,&c, ac feìly y bu. Ond daeth dirgelwch y Saint i'r golwg,daliwyd hwynt,buont yn y carchar am dymhor hir, ond bygythiant yn llym yn awr, os sonia neb wrthynt mai drwg y gwnaethant, gan ddywedyd iddynt ddy- oddef cosb cyfraith mewn modd tymhor- ol, ac iddynt gael eu bedyddio wedi dod o'r carchar eilwaith, er golchi eu bai ger bron Duw, &c. Derbyniais lythyrau yn ddiweddar oddiwrth wahanol bersonau yn ymholi, ai gwir a ddywed eu phragodwyr ar hyd a lled y wlad, eu bod yn ddynion cyfriíbl a llwyddiannus iawn yn Dowlais, &c? A chyfeiriasant fi at y pumphìet bawlyd agyhoeddir iddynt gan y Parch. John Jones, Rhydybont, awdwr esboniadau a holwyddoregau yr Independiaid, &c am fis Mawrth diweddaf. Wedi cryn draff- erth cefais olwg arno, ac wrth ei ddar- 11 en, nis gallaswn beidio teimlo yn ofidus o herwydd fod un ysgrifenydd neu ys- grifenyddion Gomeraidd, yn gallu bod mor ddigywilydd mewn caru a gwneuth- ur celwyddau; ie, celwyddau ac y gŵyr pob dyn sy'n byw yn y manau, weled a gwybod mai celwyddau amlwg a diorch- udd ynt. Galwaf sylw difrifol y darllen- ydd, at Dowlais. Dywed y llyfryn aflan a chelwyddog dan sylw, "fod cynnydd y Seintiau yn gymaint mewn gwrandaw- iad yn Dowlais, nes aeth neuadd y Saint yn rhy gyfyng, &c, nes y gorfu iddynt symud i le arall." Gwyddant yn well; trodd Mr. Evan Davies, hwynt allan o'i ystafell mor fuan ag y gallodd wedi iddo fe gymeryd y tŷ, a'r unig reswm ebe fe oedd, am na ddaethai neb dynion cyfrií'- ol, ie, hj-d y nod ei gyfeillion i'r tŷ o achos fod y fath gymeriadau mor isel a gwael yn mhob ystyr o'r gair, jrn ymgryn- hoi ynddo. Buont jm ymofyn am ystaf- ell mewn tafarn arall, ond dywedodd y tafarnwr hwnw, nad oedd un arian a eft'- eithiau arno ef i ollwng y fath ddihirod digymeriad i'w dŷ ef. Ac os oes rhyw un yn amau y ffeithiau uchod, ymofyned â Mr. E. Davies, Dowlais Inn, &c "Bedyddiwyd naw yma er dechreu mis Ionawr, un o ba rai oedd j-n rhight hand man i'r Parch. W. R. Davies. Yr oedd yn ysgrifenydd yn ei dŷ cwrdd, ac yn un o'r Trustees," &c. Nis gallasai yr hen Satan, tad yr holl Sataniaid, fytheir- io celwyddau mwy ufternol. Cofiwch hyny. Diarddelasom ddjrn amser yn ol, aeth hwnw atynt, ac ef yw y gwr y sjmi- udodd yr Ysbryd Glân o'i fol i'w gesail: a fy meddwl yw, y gall ehedeg gystal ag y gall ysgrifenu. Gwn trwy ymholi, wedi gweled y celwydd, nad yw druan, yn alluog i gadw un math o gyfrifon,&c na dim yn debyg, ac iddo fod jm llanw un swydd, neu Trustees. Gallasent gys- tal, ddywedyd mai efe yw perchenog holl waith Dowlais. Eto," Bedyddiwyd dau ereill o aelodau Mr. Davies, ar ei ol yntau, ac amryw cj'ii hyny, serch i Mr. Davies, haeru nad acth ond uu hen fenyw oddiwrtho eí'at y Saint." Pw, pw, paham na ddywedid îoù.ngeiniati,\>\iîis,a.\ dweyd hyny yn llawn mor gywir. Yr wyf yn dywedyd mai un hen fenyw a aeth o Gaersalem, ac un fenyw o Elim, sef gwraig y gwr sydd a'r Ysbryd Glân dan ei gesail. Ond gallwn enwi gwragedd sydd yn awr dan eu clwyfau a'u cleisiau yn Dowlais, a gaw- sant gan eu gwŷr, pe jrn addas eu galw felly; y rhai sy'n wir a phriodol Satan- iaid, a nodir yn gwneyd i fyny y "gyn- nulleidfa foneddigaidd," a hawdd fyddai