Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST APOSTOLAIDD. MAI, 1848. 9to£f£ìrìrtxetlu GWEINIDOGAETH ANGYLION. Ychydig iawn a wyddom yn y byd hwn, mewn perthynas i angylion; pa fodd y gweithredant, ac y trosglwyddant ddrychfeddyliau y naill i'r llall sydd i ni yn ddirgelwch mawr. Nid bodau dynol, na dychymygol ydynt; ond ysbrydion gwasanaethgar, wedi eu danfon i was- íinaethu er mwyn y rhai a gant etifeddu iechawdwriaeth. Gosodir hwynt allan yn y gyfrol santaidd, fel côr o bendefig- ion oddiamgylch gorsedd Iôr; y rhai sydd yn gweini yn wastadol ger ei fron. Y maentyn fodau cyflym, nerthol, doeth, santaidd a gwybodus iawn; y maent yn nes at orsedd Duw na ni, a thrwy hyny, y mae ganddynt well mantais i wybod am natur ac helaethrwydd ei lywodraeth fawr. Y maent yn lluosog iawn yn eu rhif; dywed Dafydd fod " cerbydau Duw yn ugain mil, sef miloedd o angylion." (Psalm lxviii: 17.) Dywed Daniel fod " Afon danllyd yn rhedeg oddi ger bron yr Hen ddihenydd, mil miloedd yn ei íbli, a myrdd myrddiwn yn sefyll ger ei fron." (Dan. vii. 10.) Ymddengys fod amrywiol raddau yn eu plith; sonir am gerubiaid, seraphiaid, angylion, thronau, awdurdodau, tywysogaetnau, a meddiau- nau. (Col. i. 16.) Ond beth bynag yw y graddau sydd yn eu plith, geìlir bod yn benderfynol eu bod oll yn fodau defnydd- iol i gyflawni bwriadau Duw yn ei deyrn- as fawr. 1. Ymaent yn gioasanaethu fel gwein- 'ulogion dial yn llywodraeth Duiv. Dau angel a ddinystrasant Sodom a Gomora trwy dân o'r nefoedd; (Gen. xix. 13.) lladdodd un angel, mewn un noswaith, gant a thri ugain a phump o filoedd yn myddin yr Asyriaid. (Esa. xxxvii. 36.) Y mae y bodau yma yn dra eiddigeddus dros ogoniantyr hwn y maent yn ei was- anaethu; tarawodd un o honynt Herod â barn arswydus am briodoli gogoniant y Duwdod iddo ei hun. (Act. xii. 13.) Ac yn nydd y brawdlys diweddaf, deuant gyda y Barnwr mawr, a'u gwaith fydd didoli y drygionus o blith y rhai cyfiawn- ion, a'u tanu i'r ffwrn dân, lle y bydd wylofain arhincian danedd. Fellyymae y creaduriaid yma yn barod bob amser i wneyd beth bynag a orchymyno y Gor- uchaf iddynt. 2. Ymaent yn gwasanaethu er lles y saini mewn dull rhagluniaethoì. Yr oedd yr ysgol fawr a welodd Iacob gynt, yn arwyddlun fod Duw yn defnyddio ei angylion fel offerynau i amddiftyn ei saint mewn modd rhagluniaethol, (Gen. xxviii. 11.) ac y mae genym enghreifFt- iau fod hyn wedi cymeryd lle dan yr hen oruchwyliaeth: angel a arweiniodd was Abraham, i ymofyn gwraig i Isaac mab ei feistr; (Gen. xxiv. 7.) angel hef- yd a borthodd Elias, gwr Duw, pan yr ydoedd yn ffbi rhag ofn Iesebel. (1 Bren. xix. 5—7.) Y maent yn eu gwared allan o beryglon yn y byd hwn. Angel a gau- odd safnau y llewod rhag difa Daniel yn y ftau; gwaredasant Lot rhag cael ei losgi yn Sodom; angel hefyd a waredodd Pedr o'r carchar, mewn atebiad i weddi yr eglwys; a phan y mae y saint yn marw, dygant eu heneidiau trwy yr ëangder mawr i'r drydydd nef: a diau fod y saint yn eael mwynhau llawer iawn o freintiau trwy eu gweinidogaeth yn y byd hwn, er mwyn eu dwyn o'r trallodau a'r gorthrymderau sydd yn eu cyfarfod ar eu taith trwy anialwch prof- edigaethus y byd drwg presenol. 3. Ymaentyn gwasanaethu mewn modd selog a ffyddlon, er dwyn i ben gynllun dwyfol yr iechawdwriaeth. Nid oes un oerfelgarwch na marweidd-dra, yn eu haddoliad; nis gall dim eu-hattaí i fyned yn mlaen â'u gwaith. Byddai mor hawdd attal y gwynt i chwythu, y fellten i fellt- enu, y darau i daranu, a'r haul i dywynu, ag attal y personau yma i gyflawni eu gwasanaeth. Gyda chyflymdra y fellten y cyflawnant eu gwasanaeth. Nid oedd pellder y ffordd o'r nefoedd i'r ddaear, yn rhwystr i'r angeì gynt ddyfod ag at- ebiad i weddi Daniel cyn iddo ddarfod gweddio. (Dan. ix. 20.) Angylion a gy- hoeddasant y newydd am enedigaeth yr Iesu i'r bugeiliaid, a chanasant odl son-