Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST APOSTOLAJDD. EBRILL, 1848. Stogf&tofefeetlu A D F E R I A D Y II II E N D R E F N . Mr. Golygydd,— Wrtii ystyried scfyllfa crefydd yn ein gwlad a'n hamser, ft'n llenwir â syndod a braw, pan y mae pob math o athrawiaeth a allo dychymyg dynion ilygredig eu llunio, a pliob un o'r cyfryw yn cael ei gosod o íiaen dynion fel yr unig foddion achubiaeth 0 fewn eu cyrhaedd. Cymeryd opinion yn lle ffeith- iau yn safon undeb, yw yr aclios penaf o amJâd sect- au. Symud ymaith yr achos, a'n gwareda rhag teimlo yr effaith; a'r unig ffordd i'w symud yw, dychweíyd i'r ymarferiad o Gristionogaeth yn ei hen drefn. Tybiwyf y gall yr hyn a ganlyn, a gymerwyd o'r Saes'neg, fod yn fuddiol i'r neb a'i darlleno ac a'i hystyrio. W. J. W. Mae yn amlwg mai geiriau yr apostol- ion oedd nnig gredo yr eglwysi Ciistion- ogol cyntaf; eu hunig gyfarwyddyd yn eu ffydd, eu haddoliad, a'u hymarferiad; a chyn y gellir dychwelyd pethau i'w hen ddull,'rhaid i gyfansoddiad a chyf- raith yr eglwy'si horeuol gael eu mab- wysiadu a'u harfer. Fel yr oedd y cyf- ansoddiad a'r gyfraith y pryd hwnw yn derbyn holl ddysgyblion ffyddlon eu Harglwydd yn gyd-gyfranogion o'r holl ragorfreintiau, felly, hefyd, os mabwys- iedir yr un gyfraith, yr estynir yr un rhagorfreintiau i holl ddeiliaid rheolaidd y deyrnas. Tra heb y credoan diwcddar niewn sylwedd nac mewn ffurf, yr oedd yr eglwys yn ynol, cyflawn, a dedwydd; a bydd felly eto: oblegyd yv un achos bob amser a gynnyrcha yr un eftaith. Pan ddychwelo y dysgyblion at yr Ar- glwydd, y dychwel ef atynt hwythau. Yn nerbyniad deiliaid, neu ddinasydd- ion i'r deyrnas, ymddengys nad oes dim yn aiighenrheidiol, ac na ofynid dim,ond cydnabyddiaeth, neu dderbyniad o air, neu dystiolaeth Duw, o berthynas i'r Brenin lesu o Nasareth. Hysbysiad neu gyffesiad à'r genau eu bod yn credu â'r galon mai Iesu o N.tsareth oedd y Mesia, Mab y Duw byw, Brenin ac Arglwydd pawb oll. Yn eu hymroddiad i gael eu trochi i'w enw ef, yr oeddent yn ymwrth- od â phob Mesia, Arglwydd, Brenin, a Gwaredwr arall; rhoddent heibio eu crefydd flaenorol, ac ymryddhaent oddi- wrth bob rhwymau o ufydd-dod crefydd- 01 i unrhyw drefn neu awdurdod arall, a derbynient Iesu fel eu Harglwydd a'u ch- dd Brenin. Wrth j-styried yr hen drefn, ymddengys na byddai yr apostolion yn gorchymyn i ddynion i gael eu trochi i'w pioíìad, ond i'r ffydd a draddodwyd i'r saint. Mae yn hollol sicr fod y drefn wreiddiol yn ddoethach, yn sicrach, ac yn fwy anrhydeddus i'r gwirionedd ach- ubol, na'r drefn a arferir yn bresenol. Yn y ddarlith bresenol gwnawn y ydig sylwadau ar beth pwysig arall sy anghenrheidiol er dwyn oddi air.gylch yinarferiad o bethau yn eu trefn gyntefig. Rhaid rhoi heibio yr eiriadaeth newydd, a dwyn yr un ysbrydol yn ei lle; mewn geiriau ereill, rhaid annghofio ieithwedd lygredig a Babilonaidd yr oesau tywyll, a'u darganfyddiadau diweddar yn eu trefn sefydlog o eiriadaeth Gristionogol. Mae hyn yn bwysicach efallai, nac yr ymddengys ar yr olwg gyntaf. Mae geiriau ac enwau, wedi cael eu cysegru, a'u santeiddio, trwy gael eu hir-arfer yn cael dylanwad mawr ar y meddwl dynol. Geiriau sydd genym i ffurfio meddyírith. Mae mor anhawdd fturfio meddwl heb eiriau, ag ydyw siared felly. Y neb sy'n ameu gwnaed brawf. Yn awr, fel y mae pob meddylrith cywir sy genym am Dduw a phethau anweledig yn feddylrithau goruwcli-na- tutiol, nis gall fod geiiiau mor briodol i'w gosod allan â'r geiriau a ddefuydd- iwyd gan yr Ysbryd Glân, pan yn cyfleu y gwirioneddau goruchel hyny i'n cíeall- dwriaeth. Efe, yr hwn a ddysgodd ddyn i lefaru, yn ddiameu, a ddefnyddia y geiriau mwyaf priodol yn ei iaith i ddad- guddio ei hun iddo. Bychanu y terms hyny, trwy ddewis ereill yn cu lle sydd ryí'yg a tbrahausder ar ran dyn. lleblaw hyny, pan ddewisir ymadroddiou, neu eiriau gan ddynion i osod allan wirion- eddau goruwch-naturiol, nid y gwiredd- au eu hunain a fynegir, ond eu medd- yliau hwy am y cyfryw. Dewisant ymadroddion a íyddo gydweddol â'u hamgyftredion hwy o'r gwirionedd dad- guddiedig; yna nid yw y geiriau a arfer- ant ond yn unig gosod allan eu tybiau