Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST APOSTOLAIDD. CHWEFROR, 1848. BYWGRAFFIAD Y WIR ANRHYDEDDÜS ARGLWYDDES E. PENNANT, 0 DDOWNING, SWYDD CALLESTR. " A beam she was of pure and hallow'd light, Stray'd from a source niore radiant than the sun." Yr ytlym wedi cyfarfod â'r gwaith o ddargoífa hanes bywyd y foneddiges enwog hon yn dra chynar; ac y niae y teiinlad yn llethedig wrth y gorchwyl, gan mor foreu y cwympodd i lwch y bedd! Anfynych y mae cymeriad mor ddysglaer wedj ei gofnodi ar ddalenau hanesyddol ein gwlad. Yr oedd gwrth- ddryeîi y cofiant hwn, yn bedwaredd ferch i Iarll Aberteifi, ac yn ail wraig i David Pennant, Yswain, yr Ieu., ac yn fam i'r Arglwyddes Fielding, yr hon sydd yn trigianu ac yn etifeddu Down- ing, anneddfa ei chyndadau enwog a hyglodus. Ganwyd hi yn y flwyddyn 1803, a bu farw yn y flwyddyn 1846, yn 43 mlwydd oed. Yn ystod y deuddeg mìynedd diweddaf, bu farw pump o'r teulu hyn, a'r diweddaf i'w cnofrestru gyda yr anwylion ymadawedig, yw ein Harglwyddes Emma Pennant. "Thus star by star declines." Yn y flwyddyn 1827, unwyd hi mewn priodas â Mr. David Pennant, yr hwn oedd fab i David Pennant, Yswain, o Ddowning, a Louisa merch i Sjrr Henry Peyton, Barwnig; ac wyr i ThomasPen- nant, Yswain,yr hwn a enwogodd ei hun yn ogymaint drwy ei ysgrifeniadau: yr hwn hefyd adnabyddir hyd yn awr fel awdwr y "Teithiau yn Nghymru," a'r "Alban." " Hanes poblogaidd Llun- dain," ac ereilL ydynt yn dyrchafu ei enw i binacl clod hyd ein dyddiau ni. Ei wraig gyntaf ydoedd Arglwyddes Car- oline Spencer Cburchil, merch i'r Duc o Marlborough, yr hon fu farw, ac a'i gad- awodd yn weddw o fewn y tymhor byr o ddwy flynedd. O honi y cafodd un ferch, yr hon a fu farw yn y flwyddyn 1832. Yn mhen y tair blynedd wedi hyny y priodwyd ef â'r Arglwyddes Emma Brudeneíl, gyda yr hon y bu fyw ychydig gydag wyth mlynedd. Yr dedd y bonheddig hwn yn hanu o linach ben- defigaidd a hynafiaethol ein gwlad; a gallwn olrhain ei achau hyd yn Tudur Trefor, yr hwn oedd fab i Ynger ap Cad- farch, Iarll Caerffawydd, yr hwn oedd yn cyd-oesi â'r teyrn galluog Athelstan, ac Edward Voel, Tywysog Cymru, yti nechreu y ddegfed ganrif; yr hwn hefyd a briododd Anghared, merch i'r enwog Howell Dda, Tywj'sog Cymru. Yr oedd efe a'r teulu hefyd wedi ymuno mewn cysylltiad priodasol â'r pendefigion an- rhydeddusaf yn Lloegr, yr hyn oedd yn eu dyrchafu mewn urddas gyda Saeson a Chymry. Ond nid oedd y bonheddig hwn yn ymgyrhaedd yn ogymaint at fri ac anrhydedd drwy y moddion hyn; ond tybiwyf ei fod yn feddiannol ar syniadau mwy gorucheí am wir ragoroldeb, pan yn ymgeisio mor arwraidd am flaenor- iaeth mewn daioni a rhinwedd, ac ym- lewyrchu yn ragoriaethau gwir grefydd. Yr oedd yn ddilynwiw yn ei ddaioni a'i haelfrydedd at bob achos da, ac yn enw- edig achosion crefyddol; at ba rai y cyf- ranai yn haelionus yn eu holl' gysyílt- iadau. Llafuriai yn enwog yn ei gylch ei hun, agwnai bob ymdrechion personol tuag at ledaenu egwyddorion Cristionog- aeth, yr hyn oedd yn waith hoíFganddo. Yr oedd hefyd yn meddu y teimladau mwyaf tyner; ac achos y tiuan a'r an- nglienus oedd yn agosaf bob amser at ei fynwes. Dynodai ei hun yn gyfaill y tíawd, ac yn ewyllysiwr da i bob achos oedd yn tueddu at lesoli ei gyd-ddyuion, a chwanegu at freintiau tymhorol ac ysbrydol ei gydgenedl. Pe byddai bon- heddigion ein gwlad yn gyíîredinol yn efelychu ei ymarweddiada'i ymddygiad- au clodwiw, byddai agwedd ddysgleiriach idd ei gweled ary cyfiredinolion o feibion Gwyllt Walia. Y maecenedloedd ereill, adnabyddus i ni, yn uwch eu breintiau, oblegyd haelfrydedd y rhan hòno o'r gymdeithas ddynol sydd ganddynt allu i gyfranu tuag at addysg yn gyffredinol, yr hyn sydd yn dyrchafu cenedl yn uwch yn nghlorian anrhydedd a ded- wyddwch. Hyall y canfyddai pawb o gyfoedion y dyn hwn ei fod yn ewyllysio