Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST APOSTOLAIDD. IONAWR, 1848. Y DDYLEDSWYDD O GYFRANU AT ACHOSION CREFYDDOL. " Yn gwneuthur daioni a chyfranu nac annghofiwch.''—Paul. Y mae yn eglur ei bod yn ddyledswydd ar bobl Dduw, yn mbob oes, a tban bob goruchwyliaetb, i gyfranu o'u pethau bydol at wasanaeth Duw. Yr oedd Abel, yn oflrymu o iìaenftrwyth ei ddefaid yn offrwm i'r Arglwydd, ac y mae yn eglur fod mynych aberthu gan y Patriarch- iaid cyn y diluw. Yr oedd Abraham, tad y iiyddloniaid, yn nodedig mewn haelioni. Talodd ddegwm gwirfoddol o'r hyn oll oedd ganddo i Melchisedec— adeiladodd amryw o allorau; ac yr yd- oedd mor hynod o garedig i ddyeithriaid, fel y cafodd y fraint o letya angylion yn ddiarwybod. (,Heb. xiii. 2. Gen. xviii. 3, &rc.) Yr oedd Iob yn mynych oífrymu poethoffrymau dros ei deulu. (Iob i. 5.) Yr ydoedd hefyd yn cyfranu llawer o'i feddiannau i'r tlodion a'r amddifaid. (Pen. xxix 13, &c. xxxi. 16—22.) Os deuwn yn mlaen at yr oruchwyliaeth Foesenaidd, ni a gawn weled fod yno gyfraniadau helaeth iawn. Trwy gyf- raniadau ewyllysgar a gwirfoddol yr adeiladwyd y babell a'r deml. Mor ewyllysgar, ac ìnor baelionus, yr oedd yr lsraeliaid yn cyfranu yn y ddau am- gylchiad hyn. (Exod. xxxv. xxxvi. 3—7. 1 Cron. xxix. 1—20.) Cymerai ormod o le mewn traethawd byr o fath hwn i ol- rhain y gwahanol ddegymau, aberthau, blaenft'rwythau, a chyfraniadau oeddynt yn cael eu cyfranu o dan yr oruchwyl- ìaetb hòno. Y mae yr enwog a'r llafurus T. Hartwell Horne, yn dangos }-n eglur, fod tua y drydydd ran o feddiannau yr Israeliaid yn cael eu gofyn at wahanol achosion.* Y mae yr Arglwydd yn f ,nych o dan yr hen oruchwyliaeth, wedi dangos ei fawr hyfrydwch mewn haelioni. Dyma oedd gogoniant eu hymprydiau cy- *Hom's Introduction, vol. iil. p. 296, 297. 8th Edition. Pike, On Liberality, p. 26. hoeddus; heb hyn nidoeddynt yn amgen narhagrithdirmygedig. (Esai.lviii.5—8.) Yr oedd attal eu cyfraniadau yn yspeilio Duw, (Mal. iii. 8, 9.) a bygythir hwy â barnau dychrynllyd o herwydd hyny. (Hag. i. 4—12.) Y mae hefyd addewid- ion mawrion yn cael eu haddaw i'r rhai haelionus. Edryched y darllenydd Diar. iii. 9, 10. xi. 25. Esai. lviii. 10,11. Mal. iii. 10—12. Y mae y Testament Newydd yn llawn- ach o gymhellion i haelioni na'r Hen, oblegyd fod mwy o haelioni y Duwdod yn cael ei arddangos ynddo. Y mae siampl y Ieboía yn rhoddi ei Fab, a siampl y Mesia yn aberthu ei hunan, yn siampl dragywyddol i drigolion y ddaear o gymhwynasgarwch a haelioni. Mewn gair, y mae pob egwyddor sydd yn per- thyn i'r efengyl, yn collfarnu cybydd- dod a bunanoldeb, ac yn cymeradwyo caredigrwydd a haelfrydedd. Cyn myn- ed yn mhellach i dir y Testament New- ydd, ni agynnygiwn rai cyfarwyddiadau ac annogaethau, yn nghylch y ddyled- swydd bwj'sig hon. 1. Dylai ein holl gyfraniadau fod yn aberthau gwirfoddol. Rhoddi mewn ymostyngiad i ewyllys Duw, ac mewn cariad at Dduw. Yr hyn a gyfrenir trwy yr egwyddor wirfoddol, yio yr unig gyf- raniadau sydd yn gymeradwy ganDauw. Gan hyny, bydded i ni roddi yn llawen, ac nid yn drist; nid trwy gymhell, ond o barodrwydd meddwl; gan gofio mai rboddwr liawen y mae Duw yn ei garu. (2 Cor. ix. 7.) Y mae cyfranu gyda meddwl ewyllysgar, yn un o'r pethau mwyaf hyfryd a all dyn ei gyflawni; y mae yn cyfranogi o ddedwyddwch y Duwdod, j-r hwn sydd yn ymhyfrydu i gyfranu i'w greaduriaid. (1 Cron, xxix. 14. 17.) 2. Dylem gyfranu oddiar ddybenion cywir. Nid cyfranu er mwyn ennill y