Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST APOSTOLAIDD. AWST, 1847. JOHN THOMAS, YR EFENGYLYDD CYNTAF YN BENGAL, (PARHAD O TU DAL. 139.) Dywedasom fod cyfieithiad Mr. John Thomas, o Efengyl Mathew a Marc, Epistol Iago, a rhai rhanau ereill o'r ys- grythyrau santaidd, mewn llawysgrifen, yn nwylaw dau neu dri o'r Paganiaid a arferent wrando arno; a'u bod yn eu darllen yn fanwl, ac yn eu parchu yn fawr, fel yr unig ddadguddiad o fFordd iechawdwriaeth i bechaduriaid colledig. Y tri wỳr hyn oeddynt yn enedigion o raddau neu casts uchel yn eu gwlad, sef Mohun Chund, Ram Ram Boshoo, a Shree Parbotee. Am Mohun Chund, Brahman o radd uchel ydoedd, ac o gyfrifiad mawr, ac iddo rifedi dirfawr o ddysgyblion, y rhai a ymgryment wrth ei draed, pa le bynag y cyfarfyddent ef. Yr oedd yn byw yn Boolahant, o gylch chwe' milldir o Malda. Pan y deuai hwn i wrando John Thomas, byddai yn hawdd ei wahaniaethu oddiwrth y dorf, oddiwrth ei ddyfalwch a'i sylw wrth wrando. Ar un diwrnod, wedi i John Thomas lefaru ar weddi, gofynodd ef yn ddifrifol iawn iddo, gan ddywedyd, "Syr, pan y mae dyn yn gweddio Duw, Pa sawl diwrnod y mae heb gael ei ateb?" Yna Thomas a adroddodd iddo hanes y wraig o Gana- an, ac amryw o amgylchiadau ereill o atebiad i weddi. Parhaodd i wrando, ymddiddan, ac ysgrifenu am bethau yf efengyl, ac ymddangosai o'r diwedd, fel wedi ei argyhoeddi ei fod yn bechadur mawr ger bron Duw,—nad oedd un noddfa iddo gael yn mhlith eu holl shasters hwy,—ac mai yr efengyl yn unig oedd o Dduw,—yn dadguddio ffordd iechawdwriaeth. Deuai hwn yn feun- yddiol i ymweled â Joiin Thomas, a chyfrifid ef gan ti bobl fel dychwelwr at Gristionogaeth; oblegyd rhoddes heibio addoliad a defodau yr Hindwiaid, er mawr golîed iddo ei hun, ac a waharddai y parch coelgrefyddol a dalesid iddo er's amser maith gan y bobl. Llefarai yn gyhoeddus, ac yn fynych gyda mawr ddylanwad, wrth Frahmaniaid ereill, o blaid y Beibl. Mewn gair, bu gan John Thomas feddwl mawr iawn am dano unwaith; ond wedi y cwbl, ei galon a ballodd. Mor anhawdd yr a dynion, ag y mae golud, neu barchedigaeth gandd- ynt, i deyrnas nefoedd! Mae yn haws i gamel fyned drwy grau y nodwydd ddur, nac i'r cyfryw fyned i mewn i deyrnas nefoedd!! Am Barbotee, Brahman oedd yntau hefyd, ag iddo deitl uwch ac anrhydedd- usach na Mohun Chunt. Yr oedd yn arferwr manwl a dyfal iawn o ddefodau a chyfreithiau yr Hindwiaid. Gan godi yn foreu iawn yn feunyddiol, a myned i anial goedydd pellenig, i gasglu rhyw flodau neillduol a berchid yn goelgref- yddol yn eu plith hwy; a'r rhai hyn a offrymai gyda lluaws mawr o ffurfiau, yn afon Mahanutht, yr hon oedd gerllaw iddo; ac a gyrchai ar ryw dymhorau neillduoì mor belled a'r afon gysegredig Ganges, yr hon fel y dywedant hwy a lanhâ oddiwrth bechod. Nid oedd ei ail yn yr holl gymydogaeth, am sel a man-