Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST APOSTOLAIDD. MAI, 1847. ÎSutftefctiatt ^ntooston gt lEgitog^* THOMAS DELAUNE. Yn nheyrnasiad Siarl II. a'i frawd, yr oedd athraw ysgol yn hyw yn Llundain, o'r enw Thomas Delaune. Yr oedd efe yn ddyn o alluoedd dirfawr, dysgeidiaeth ëang, a duwioldeh enwog. Yr oedd efe yn ddyoddefwr a merthyr yn achos ym- neillduaeth. Yn anffodus mae ei enw a'i deilyngdod agos yn llwyr anhysbys i Fedyddwyr yr oes hon. Thomas Delaune oedd frodor o'r Iw- erddon, a mah i rieni Pabaidd. Dangos- odd yn foreu fod ganddo dalentau uchel- radd, yn ogystal ag elfenau ardderch- awgrwydd dyfodol; ac yr oedd hyn mor amlwg i'r boneddig y trigai ei rieni ar ei dir, fel y darfuiddo yn haeîionns ddwyn traul ei addysgiaeth, mewn brodordy cyfagos i ddinas Cork. Gwedi gosod sail ei enwogrwydd fel ysgolhaig, aeth pan yn 16 mlwydd oed, i wasanaeth un Mr. Bampfield, yr hwn a fu yn offeryn ei droedigaeth at Dduw, ac at Bi'otestan- iaeth. Nid ydym yn gwybod o dan ba am- gylchiadau pennodol y daeth efe yn Fedyddiwr; ond ar ol Uenwi ei sefylìfa am rai blynyddau, cr anrhydedd iddo ei hun, a boddlonrwydd i'w feistr, darfu i ellyll erledigaeth ei yru o ardal a gwlad ei enedigaeth, i geisio cartref a chyfeill- ion yn Lloegr. Dygwyddasai pethau mawrion y tu hwn i'r culfôr, cyn i Del- aune gyrhaeddyd yma. Gorchfygasai rhyddid orthrymder; ac am y waith gyntaf yn hanes y deyrnas hon, cawsai hawliau cydwybod ei ddiogelu i bob plaid grefyddol oedd yn byw yn hedd- ychol a llonydd mewn pob duwioldeb ac onestrwydd. - Daeth Delaune yma i ymofyn rhyddid i addoli Duw, a chyn- naliodd ei deulu yn Llundain wrth gadw ysgol. Yn y flwyddyn 1683, yn fuan ar ol i Iago II. esgyn i'r orsedd, ail dorodd er- ledigaeth allan yn erbyn yr Annghyd- ffurfwyr. Nid oedd bywyd yn ddiogel. Sethrid rhyddid o dan draed. Gorlen- wid carcharau o ddynion diniwaid. Y barnwyr oeddynt lygredig, a'r rheithwyr yn fudr wobrwyedig. Tywalltai yr es- gobion a'r offeiriaid phiolau eu digofaint ar filoedd na chydffurfient â deíbdau Pabaidd yr Eglwys Wladol, a'r rhai oeddynt gan hyny o dan yr anghen- rheidrwydd o oddef er mwyn cydwybod, neu golli eu rhyddid crefyddol. Dynion a'u ffydd yn Nuw, a'u cariad at y gwir- ionedd, a'u golwg gwastadol ar fyd tragywyddol, a benderfynasant yn ddi- atreg pa lwybr i'w ddilyn, yn ol fel yr oedd eu dyledswydd at Grist, a lles yr oesoedd dyfodol yn gofyn; am hyny gwrthwynebasant bob cynnyg i dreisio eu cydwybodau; honent eu hawl i farnu drostynt eu hunain yn mheíhau crefydd; ymgaslasant oddeutu alior rhyddid, ac ni chyfrifasant eiddo na bywyd yn werthfawr wrth ei amddiffyn. Delaune oedd un o'r dynion gwrol- frydig ac ardderehog hyn. Hawdd yw adrodd hanes ei oddefaint, ond nis gellir ei ddarllen heb ei fawrygu. Yn y flwydd- yn 1683, cyhoeddodd y Dr. Calamy, off- eiriad o Lundain, bregeth ar "Gydwy- bodau Amheus," ac mewn nn rhan o honi gwahoddodd yr Annghydffurfwyr i fynegu, mewn modd cyfeillgar, «seilìau eu neillduad oddiwrth ff^ Eglwyi * * *, **4 * ■ £0 • *