Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TTST APOSTOLAIDD. IONAWR, 1847. smaaiajDSAiD î8stw®(BH®är îb aoiii'wsrs ADONIRAM JUDSON, D.D. Y mae Cenadiaeth y Bedyddwyr Am- ericanaidd yn Birmah,yn cyfiawn haeddu lle uchel yn hanes Cenadiaethau Crist- ionogol. Y mae yr amgylchiadau o dan ba rai y dechreuodd, yr anhawsderau, y caledi, a'r dyoddefiadau, o dan ha rai,am nifer o flwyddau, y dygwyd hi yn mlaen —doniau enwog a nodwedd uchel ei chen- adon—y Uwyddiant anarferol â'r hwn y coronodd Pen yr eglwys eu lìafur, oll yn cyd-gyfarfod i brofi ei hawl i'r sefyllfa a roddir iddi mor gyfiawn yn nghofnodion anturiaethau Cenadol yr amseroedd di- weddafhyn. I'r Dr. Judson y perthyn yr anrhyd- edd oruchel o ddechreu cymdeithasau Cenadol Tramor yn Unol Daleithiau yr America. Efe oedd y cyntaf a feddyl- iodd yn ddifrifol yn y wlad hòno, am fyned yn genadwr at y paganiaid, a'i aw- yddfryd ef a arweiniodd i ffurfiad Cym- deithas Genadol y Bedyddwyr Americ- aidd. Ganwyd Mr. Judson, yn Malden, ger Boston, Massachusetts, Awst 9fed, 1788. Yn 1807,graddiwyd ef yn Brown Univer- sìty, pryd y coleddai olygiadau deistaidd; pa fodd bynag, yn fuan ar ol hyn, tuedd- wyd ef i wneyd ymchwil manylach i ddwyfol awdurdod yr Ysgrythyrau, yr hyn a'i hargyhoeddodd eu bod yn ddad- guddiad oddiwrth Dduw, a bod yn rhaid iddo ynteu gael ei adnewyddu gan yr Ysbryd Glân cyn y byddai yn gymhwys i ddedwyddwch y nef. Tua yr amser hwnw y sefydlwyd Addysgfa Ddwyfydd- ol Andover, Massachusetts; ysgrifenodd ynteù at y Cyfarwyddwyr i geisio der- byniad i mewn, ond mynegodd na thyb- iai efe ei fod ef yn gristion, yr hyn, yn ol y rheolau, oedd gymhwysder anheb- gorol a geisid yn mhawb a fwynhaent fanteision y sefydliad enwog hwnw. Y Cyfarwyddwyr, pa fodd bynag, a farnas- ant yn wahanol, a derbyniasant ef; ac yn fuan ar ol hyny, cafodd Mr. Judson ei hun brawf boddhaol fod ganddo ran yn Nghrist. Penderfynodd gan hyny, ymgyflwyno i'r weinidogaeth Gristion- ogol. Y flwyddyn ddiweddaf o'i efryd- iaeth yn Audover, darllenodd "Seren yn y Dwyrain," gwaith y Dr. Buchanan, llyfr a effeithiodd yn ddwys ar ei feddwl, ac a drodd ei feddyliau gyntafat Gèn- adiaeth Ddwyreiniol. Dwys deimlai bwysigrwydd y peth, ond os soniai am hyny wrth ei gyfeillion, annghefnogent ef bron i gyd. Gwedi ei ddigaloni gan ej holl gyfeillion yn America, ysgrifen- odd at Gyfarwyddwyr Cymdeithas Gen- adol Llundain, yn Lloegr, y rhai a'i cefn- ogasant, ac a'i gwahoddasant i yrnweled â'r wlad hon. Yn fuan ar ol hyny, pen- derfynodd y Mrd. Nott, Neweìl, a Hall, ac yn ganlynol Mills, Richards, Warren, a Rice hefyd fyned yn genadon y cyf- leusdra cyntaf a gaffent. Yn y flwyddyn 1810, ysgrifenodd Mr. Judson bapyryn ar Genadiaethau at y paganiaid, wedi ei law-nodi ganddo ef a thri ereill, a'i gyflwyno i Gymanfa Mas- sachusetts, ar yr hon y gwnaeth argraíF- iadau mor ddwysion,fel y penderíÿnwyd y flwyddyn hòno, flurfio yr i:J?nericau Board of Commissioners for Foreign Mis- sions." Dyna y gymdeithas gyntaf a ffurfiwyd yn y Byd Newyàd i anfon yr efengyl i'r paganiaid. Yn 1811, daeth Mr. Judson drosodd, ond daliwjrd ef ar y fordaith gan herw-long Ffrengig, a