Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST APOSTOLAIDD. RHAGFYR, 1846. MENNO SIMON. (PARHAD O Tü DAL. 142.) Moa nerthol oedd dylynwad prophwydi Swickau yn Wittenberg, nes ydoedd ty- wysogion braidd yn barod i adael eu gorseddfeydd, i bobl saint y Goruchaf! Er, mai yn wir, y dywedir fod yr Ethol- ydd a'i ystyriaeth fwy dwys o'r peth, wedi gorchymyn i'w gynghorwyr ddy- wedyd wrth y proffeswyr, fod ganddynt ddigon o drallod ar eu dwylaw yn Ẅit- tenberg, ac, yn ol pob tebygoliaeth, nad oedd honiadau gwŷr Swickau ddim ond hudoliaeth y diafol yn unig; ac mai y peth doethaf a fyddai gadael i'r cwbl fyned ymaith yn ddisylw. Ond ymddengys fod cynghor yr Eth- olydd, os rhoed ef erioed, wedi ei roddi yn rhy ddiweddar. Canys fe ddywedir eu bod wedi dylynwadu yn ddwys ar feddyliau, nid yu uuig y dinasyddion anwybodus, y Myfyrwyr ieuanc, Mel- anchthon bryderus, a'r Etholydd hunan- ymwadol, ond hefyd ar feddyliau yr enwog Dr. Andrew Bodenstein Caralos- tadius, un o'r preffeswyr enwocaf yn Urdd-athrofa y diwygwyr yn Wittenberg. Mae i'w sylwi hefyd, eu bod yn dylyn- wadu mewn modd gwahanol ar ddynion yn ol eu gwahanol sefyllfaoedd. Y werin anwybodus a lawenhaent am fod yr Ar- glwydd yn ymweled â hwynt, i'w dysgu trwy ei Ysbryd yn ddoeth i iechawdwr- iaeth; Melanchthon, er na roddai fawr hyder yn eu gweledigaethau, a ystyriai y rhesymoldeb o'r gweinyddiad newydd o Fedydd, er gwahaniaethu yn àmgen- ach rhwng y byd- a'r Eglwys, nag y gwnai bedydd babanod; yr Etholydd o dan deimlad o'r trais y mae tywysogion yn euog o hono o dan yr esgus mai gweinidogion Duw ydynt, a grynai wrth feddwl am ddynesiad Crist, ac a foddlon- ai i reddi ei orsedd i fynu; Caralostadius er ei fod yn gwrthod yr amryw dybiau hyny, a dderbyniodd y fath ddylynwad ag a'i hyfhaoedd yn ei ymosodiad yn erbyn delwau a choeg arferion ereill o eiddo Eglwys Rhufain. "Maeynangh- enrliaid," ebai ef, "i wneuthur ymosod- iad ar bob rhyw ymarferion annuwiol, a'u dymchwelyd oll mewn un diwrnod." A chan alw i'w gof yr holl Ysgrythyrau yn erbyn delwau, efe a areithiai gyda brwdaniaeth cynyddol yn erbyn delw- addoliaethEglwysRhufain. "Y maent," meddai, "yn ymgrymu ac yn ymostwng i'r eulunod mudion hyn; maent yn gol- euo eu canwylìau, ac yn cyflwyno eu hoffrymau iddynt hefyd. Gadewch i ni gyfodi a'u tynu ymaith oddiwrth yr all- orau." Nid sain ddieffaith a fu y geiriau hyn o enau yr "Hen Broffeswr," yn nghlustiau ei bobl. Ond liwy a gyfod- asant yn selog, ac a aethant i'r eglwysi, ac a lusgasant yr holl ddelwau allan o honynt, gan eu tori yn ddarnau mân, a'u Uosgi yn ulw yn y tân. Yr oedd hyn yn digio Luther yn anfaddeuol. Gwaeddai, " Pa le mae eich Ysgrythyr am ddinystro y delwau?" Dywedir fod Caralostadius hefyd, yn ei sel dros effeithioldeb dysgeidiaeth yr Ysbryd Glân, wedi myned yn ddifater am ddysgeidiaeth—Fel y clybuwyd yr "Hen Broffeswr," a hyny allan o'i gadair broffesol, yn cynghori y Myfyrwyr ieu- aingc i ddychwelyd adref, a chymeryd y 2 A ■'■''■