Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST APOSTOLAIDD. TACHWEDD, 1846. MigiasMAîî asrw®®a®sr ys asî&w^ MENNO SIMON. (PARHAD O TU DAL. 123.) Nicholas Storcr a Marc Thomas oeddynt ill dau yn Wehyddion, wrth eu galwedigaeth. Honai Nicholas Storck, fod yr angel Gahriel wedi ymddangos iddo liw nos, a'i fod ar ol dadguddio iddo amryw o bethau, y rhai nas gallai efe euhamlygueto; ac wedi dywedyd wrtho, " Tydi a gai eistedd ar dy orseddfainc." Honai Marc Stubner, ei fod ynteu, "Wedi derbyn y ddawn o ddeongli yr Ysgryth- yrau Santaidd, yn uniongyrchol oddi- wrth Dduw." A chan adael ei efryd- iaeth yn Wittenberg, efe a ymunodd yn ddioed â Storck. A Thomas Muncer a'u corpholodd yn nghyd fel math ofrawd- oliaeth Brophwydol. Yr oeddynt yn honi yn gyhoeddus, fod Apostolion a Phrophwydi o'r diwedd, wedi cael eu hadferu i eglwys Dduw. Mewn gair yr oeddynt yn tebygu yn fawr iawn i wŷr y pumed breniniaeth, yn amser Oliyer Cromwel, a Charles II., ac i'r rhai a'u galwant eu hunain yn Seintiau y dyddiau dìweddaf, yn ein hamser ninau. Pa fodd bynag, cafodd y Prophwydi hyn ar ddeall, megys y cawsai llawer ereill o rai cywirach o'u blaen, nad yw Prophwyd yn cael anrhydedd yn ei wlad ei hun. Canys ni chydnabyddaiNicholas Hausomau, Gweinidog Zwickau, na'i ddiaconiaid, eu dawn brophwydol, ac ni chaniatai iddynt ei harfer yn ei eglwys ef. Yna troisant ei min yn ei erbyn ef, a llywodraethwyr ereill yr eglwysi, a chan efelychu yr hen Brophwydi gynt yn eu dull o draddodi eu cenadwri, hwy a waeddent, " Gwae! gwae! yr eglwys a lywodraethir gan ddynion mor llygredig a'r Esgobion nis gall fod yn eglwys i Grist. Rheolwyr drygionus Cristionog- aeth a ddymchwelir cyn hir. Mewn yspaid pump, chwech, neu saith mlyn- edd, annhraith gyflwyr a dyr allan. Y Twrc a gymer feddiant o Germani: a'r holl OfFeiriaid, hyd y iiod y rhai ydynt wedi priodi, a roddir i farwolaeth. Ni arbedir un dyn drwg, ni adewir un pech- adur yn fyw; ac wedi i'r ddaear gael ei phuro trwy waed, Duw a esyd i fynu ei deyrnas ynddi: Storck a roddir yn y meddiant o awdurdod Benaduriaethol, ac efe a adfera y pethau cysegredig, ac a ymddirieda y llywodraeth i ddwylaw santaidd. O hyny allan bydd yn unig un ífydd ac un bedydd. Mae dydd yr Arglwydd wedi neshau. Ac yr ydym ni yn cyffwrdd a diwedd y byd. Gwae! gwae! gwae!" Wedi i'r prophwydi gyfarfod mor an- nisgwyliadwy â'r fath wrthwynebiad yn yr eglwys y pertbynent iddi, hwy a dor- asant allan yn anfoddog, ac a ffurfiasant gynnulleidfaoedd yn y rhai yr oedd eg- wyddorion chwyldroad yn cael eu cy- hoeddi, y bobl a gyffrowyd, gwrthryfel a dorodd allan, ac ymosodwyd ar yr OfF- eiriad oedd yn cario y sacrament oddi amgylch, â chafod o geryg gan y werin- os. Cymerodd y swyddogion gwladol, yn ol eu harfer, blaid yr Offeiriad, a'r rhai mwyaf ffyrnig o ddialwyr y pro- phwydi a daflwyd i garchar. Yn ddi- gofus at y drinfa hon, ac yn awyddus am gyfiawnhau eu hunain, ac arddangos eu gofidiau, ymwnaeth Storck, Marc Thom- as, a Stubner am Wittenberg, prif orsaf