Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST APOSTOLAIDD. MEHEFIN, 1846. SW®H3©©&W MW©©2©M ÎB ÍB<B3iW¥ BAENABAS Er y gwyddom yn ddigon da mai trwy gyd-ddylifiad gronynau disglair o'r haul y goleuir ein byd ni; eto, gorchwyl an- nichonadwy a fyddai penu i bob gronyn neillduol ei gyfran wahanol ei hun, yn y goleuad hwn. Mae yn hysbys mai o'r pridd y mae pob hedyn yn derbyn meith- riniaeth addas i'w natur a'i flas priodol ei hun; eto, anhawdd iawn a fyddai gwa- hanu y gwahanol sylweddau yn yr un pentwr pridd, ag sydd addas i feithrin llj'siau o wahanol flas, lliw, ac arogl. Yn debyg i hyn, y mae mewn pethau ysbryd- ol. Yr ydym yn gwybod mai trwy offer- yngarwch gweinidogaeth yr Apostolion, yr Efengylwyr, a Dysgyblion ereill Mab Duw, y dygwyd yn mlaen ryw ddiwygiad rhyfedd ar grefydd; eto, mae priodoli ei ran ei hun i bob person unigol yn y diw- wygiad mawr hwnw, yn orchwyl lled an- hawdd ei gyflawni gyda manyldra. Ein gwaith presenol yw galw sylw ein dar- llenyddion, at y rhan a berthyna i Barna- bas, yn y diwygiad grasol hwn. A chan mai efe yw y cyntaf o'r rhai a elwir mewn hanes Eglwysig, wrth yr enw Tadau Ap- ostolaidd,erfyniaf am le i'r hanes fèr yma am dano yn eich Tyst Apostolaidd. Meddylioád rhai mai yr un gwr yw Ioseph Barnabas yn Act.iv.36.a'r Ioseph yr hwn a enwid Barsabas yn Act. i. 23. ac a ddodwyd gyda Mathias ger bron yr Apostolion, er bwrw arnynt eu coel-bren- au hwy mewn trefn i gael gwybod pa un o'r ddau a ddewisai Duw i gael lle Iudas Iscariot, yn yr apostoliaeth, am fod rhai hen law-yscrifau yn darllen yn Act. i. 23. " Ioseph yr hwn a enwid Barnabas." Dy- wed y rhai sydd o'r dyb hon, er fod yn wir, fod rhai llaw-yscrifau yn galw un o honynt yn loses a'r llall yn loseph, nad yw hyny ddim llawer o beth gan nad yw loses ond amrywiad o'r enwloseph. Ond er bod y dyb hon yn ymddangos a rhyw beth yn debyg i wirionedd ynddi ar yr olwg gyntaf, eto, fe ddengys y sylwydd manylgraff a'r deonglydd digymar, ond llwyr esgeulusedig hwnw, Dr. Gill, tros- edd penaf yr hwn yw, yn fy nhyb i, ei fod wedi ysgrifenu mor helaeth a manwl ar bob mater, fel na adawodd ddim lle i neb a ddeuai ar ei ol, i chwanegu dim o werth ei adrodd. Dengys ef, meddaf, eu bod yn bersonau hollol wahanol; mai Ioseph y Galilead, mab Alpheus a Mair, i'r hwn yr oedd dau frawd, sef Iago a Iudas, eisioes yn mhlith yr Apostolion, oedd IosephBar- sabas, a'i fod fel ei frawd Iago, yn cael ei gyfenwiIustusneu y cyfiawn. Ond am Io- seph Barnabas ei fod yn Lefiad, ac yn en- edigol oYnysCyprys, lle yr ydoeddllawer iawn o Iuddewon yn y dyddiau hyny. Pa mor foreu y derbyniodd Ioseph Barnabas y grefyddGristionogol, nid yw yn hysbys. Haera Clement o Alexan- dria, Strom. lib. 11 c. 20. Eusebius, Eccle. Hist. Book 1. c. 12, ac Epiphanius Hoer. xx. 4.; ei fod ef yn un o'r deg a thri ug- ain. Ond gyda phob dyledus barch i'r gwŷr enwog hyn, rhaid dywedyd nad yw eu haeriad noeth, yn ddigon o sail i ym- ddiried arni. Clement oedd yr hynaf o'r tri, ac oblegyd hyny, mewn gwell cyfleus- dra i wybod ygwir; ond gellir gweled mor Ueied o ymddiried sydd iddo yntau, pan y sylwoch ei fod yn dywedyd am Ce- phas, yr hwn a wrthwynebodd Paul yn Antiochia, mai un o'r deg a thri ugain oedd yntau hefyd. Eusebius, Eccl. Hist. p.29.