Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST APOSTOLAIDD. MAI, 1846. Y Tyst Apostolaidd,— " Dofi, dylyn y dystiolaeth, Yr hon o ddynion ni ddaeth; Uwch hên drefn Moesen, drom iau, Oes y gwaed a'r cvsgodau." R. ab G. Ddu. Gorchwyl priodol Tyst yw tystiolaethu i ereill, y pethau a welodd, ac a glywodd efe ei hun. Gelwir Mab Duw yn " Dyst fíýddlawn a chywir," o herwydd i Dduw ei osod eí' yn Dyst i'r bobl, ac iddo yntau dystiolaethu idd- ynt y pethau a welodd, ac a glywodd efe gan y Tad. Gelwir yr Apostolion yn dystion i Grist, (Act. i. 8.) am eu bod yn tystiolaethu i'r byd "yr hyn a glywsant, yr hyn a welsant a'u llygaid, yr hyn a edrychasant arno, ac a deim- lodd eu dwylaw am Air y bywyd." (1 íoan i. 1.) Galwasom ninau ein Cyhoeddiad yn Dyst Apostolaidd, am mai ei amcan yw tystiolaethu gwir- ioneddau y grefydd Apostolaidd i'w Ddarllenwyr. Drwy y weinidogaeth Apostolaidd y perffeithiwyd crefydd Iesu Grist; o herwydd pan esgynodd efe "goruwch yr holl nefoedd, fel y cyflawnai bob peth; efe a roddes rai yn Apostolion, a rhai yn Brophwydi, a rhai yn Efengylwyr, a rhai yn Fugeil- iaid ac yn Athrawon; i berfí'eithio y Saint i waith y weinidogaeth, i adeilad Corph Crist: hyd oni ymgyfarfyddom oll yn undeb fíỳdd a gwybodaeth Mab Duw, yn ŵr perff'aith, atfesur oedran cyflawnder Crist: fel na byddom mwy- ach yn blantos, yn bwhwman, ac yn ein cylcharwain a phob awel dysgeidiaeth, drwy hoced dynion, trwy gyfrwysdra i gynllwyn i dwyllo." (Ehpes. iv. 10— 14.) Pe derbynid y grefydd Apostolaidd, fel cyfundraeth gyflawn yn ei holl ranau; perffeithid y Saint yn y f àn—byddent "yn ŵr perffaith" o ran "mesur oedran" a " chyflawnder " Cristionogol, a " chyfarfyddent oll yn undeb ffydd a gwybodaeth Mab Duw," yn ddynion mewn cyflawn oed a synwyr; ac nid yn blantos bwhwmanllyd ac ansefydlog, fel ag y maent yn awr. Nid yw y grefydd Apostolaidd yn cael sylw dyladwy gan yr oes hon; gor- mod o "Wele yma, neu wele acw," "Llyma Grist, neu llyna" sydd yn ein plith. Y mae ysbryd dallbleidiaeth, ac ymorfoleddu mewn dynion, yn llenwi yr wlad, a chrefyddwyr heb eu santeiddio yn y gwirionedd; oblegyd fod eu ffÿdd yn ormodol yn noethineb dynion, ac nid yn nerth Duw. Camddeallir, a gwyrdröir, y swydd Apostolaidd; a gwneir hi yn esgynfaen i deyrnas yr Offeiriaid; ac yn nythle balchder, uchelgais, a phob gormes ysbrydol. Ond y mae yr athrawiaeth Apostolaidd, yn ddigon nerthol trwy Dduw, i ddarost- wng cyndynrwydd y bobloedd, rheoleiddio yr anhrefn; a dwyn y byd i addoli Arglwydd y lluoedd, mewn prydferthwch santeiddrwydd. Cynnwysa y gref- ydd Apostolaidd dair pennod:— I. Yr Athrawiaeth ; neu y fíỳdd Apostolaidd. Testun yr athrawiaeth yw " Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio." II. Yr Ordinhadau , neu yr addoliad Apostolaidd. III. Moesoldeb Apostolaidd ; neu ymddygiad addas i Efengyl Crist. Cadw pob peth a orchymynodd Iesu Grist i'w Ap- ostolion. Ond gellir cynnwys y cwbl mewn un gair, "ufudd-dod ffydd"