Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST APOSTOLAIDD i . ■■ EBRILL, 1846. RHAGANEECHIAD. . Ddarllenyddion Cristionogol! Gydag ystyriaeth ddwys o'n cyfrifoldeb, ac o bwysigrwydd y gorchwyl # sydd genym mewn llaw, yr ydym yn cyflwyno y Rhifyn cyntaf o'r Tyst Apostolaidd i'ch nodded. Er mor uchelfreinniog yw Cymru o ran ei Chylchfisolion yn y dyddiau hyn, ac er fod pawb yn gweithio yn egniól yn ol y ddoethineb sydd ganddynt; eto, barnwn yn ostyngedig, fod gwir anghen am y Tyst Apostolaidd ; fod maes ëang wedi ei adael iddo, gorsaf bwysig iddo sefyll arni, a gwaith mawr o'i flaen; sef dadlenu y grefydd Apostolaidd, ac egluro prif Gristionogaeth i'w ddarllenwyr: a bod ganddo, o herwydd da- ionusrwydd ei ddybenion, rhagoroldeb ei dystiolaeth, a rhadlonrwydd ei bris, hawl resymol, i gael gwrandawiad astud a diduedd, a darlleniad manwl a difrifol, gan bawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist o gaìon bur. Gorchwyl penaf y Tyst Apostolaidd, fydd dyrchafu ei lais yn erbyn llyg- redigaethau Crefyddol yr oes, lle bynag y byddont, a hyny mewn ysbryd a thymher Apostolaidd; diswyddo a dadseintio, y rhai a gamenwir yn seintiau ac yn dadau yr eglwys; a dwyn Apostolion yr Oen i fwy o sylw, parch, a phoblogrwydd. Hefyd, gwna ei oreu at ddiorseddu "y dyn pechod," a diar- ddelu "yr anwir hwnw o deml Duw,"—glanhau a phuro y cysegr oddiwrth bob olion Pabaidd, ac amddiflỳn hawliau y Mesiah i fod yn unig ben ar ei gorph ei hun—yn unig Athraw ar ei ddysgyblion ei hun—yn unig Frenin ar deyrnas ei hun—ac yn unig Ofíeiriad a Chyfryngwr rhwng Duw a dynion. Egwyddor fawr a llywodraetliol ein Cyhoeddiad yw, Unig-benogaeth Mab Duw. Ysbrydolrwydd Teymas y Mesiah. " Crist yn bob peth, ac yn mhob peth." Ordeiniwj^d yr Apostolion yn ddechreuol, yn brif-swyddogion teyrnas nef- oedd, a gosodwyd hwy "ar ddeuddeg gorsedd i farnu deuddeg llwyth Israel; " eithr nid hir y bu dynion heb eu diorseddu, dirymu eu hawdurdod, a "thori eu penau am dystiolaeth lesu, ac am air Duw;" a gosod Tadau, Pabau, Cynghorau, a Breninoedd y ddaear, i farnu pethau crefydd yn eu Ue. Gan hyny, y mae breninodd y ddaear, o herwydd eu hymyraeth halogedig âg awdurdod yr unig Benaeth, "yn rhyfela â'r Oen, ond yr Oen a'u gorchfyga hwynt; oblegyd Arglwydd arglwyddi ydyw, a Brenin breninoedd, a'r rhai sydd gydag ef, sydd alwedig, etholedig a flÿddlon." Ni Iwyr foddlonir y Tyst Ápostolaidd, nes cael Eglwys Dduw yn gwbl rydd o'i chaethiwed Babilonaidd, gweled y briodasferch ddihalog, yn sefyll mewn rhyddid ânni- bynol gyda yr Oen ar fynydd Sion, a'i chlywed )ti canu yr orfoledd^SYyall. fuddygoliaethus. Filwyr yr Oen! defîrowch! byddwch fiyddlon dros eich Brenin! ymnerth- wch yn nghadernid y Llew o lwyth Iuda! ymwrolwch dros y gwirionedd!