Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y-D-RYS FA. Rhif. 8.] MAWRTH, 1826. [Llyfr IV. HANES EGLWYS CIIIST. Y GANRIF GYNTAF, (Parliad o du dal 197.; Oed Crist 70. Vespasian tt jl n y flwyddyn 70 o oed Crist, yn ol y cyfrif cyffredin, y cyinraerwyd ac y Hosgwyd Jerusalera a'r deml. Gwnawd »y cwbl yn gyd-wastad a'r llawr, ond tri o dyrau a adawyd i ddangos cad- ernid y lle. Titus, mab Yespasian, oedd y blaenor milwraidd ar fyddin y Rhufeiniaid i gyflawni dialeddau yr Arglwydd ar y ddinas annuwiol hon. Yn ol hanes Josephus, bu farw yn y gwarchae trwy gleddyf, newyn, a haint, Un Cant ar Ddeg o Filoedd; cymmerwyd 97,000 yn garcharorion, y rhai a werthwyd yn gaetb-weision; heblaw miloedd dirifedi a laddwyd yn y rhyfel a ragflaenodd ddinystr Jeru- salem trwy oresgyn dinasoedd cedyrn y wlad. Mewn perthynas i'r Crist- ionogion, y mae traddodiad iddynt ffoi Eiewn pryd oddiar ffordd y dinystr i Pella, dinas yn hanner llwyth Ma- nasseh tu hwnt i'r Iorddonen. Euseb. Eccles. Hist. Ond tebygol iddynt ffoi i amryw fannau, Ue yr oedd rhag- •uniaeth yn eu harwain. Cafodd yr eglwys lonyddwch ám °ddeutu25 mlynedd, trabuyespasian, Llyfr iv. a'i fab Titus, yn Ilywodraethu, hyd y rhan o!af o deyrnasiad Domitian, yr hwn oddeutu y flwyddyn 94, neu 95, a gododd yr ail eilidigaéth cyffredinol yn erbyn y Cristionogion; ym mha un ar ol bwrw loan y Difeinydd i bair o olew berwedig, yr hwn, heb dderbyn niweid, a ddeolwyd i ynys Patmos, lle yr ysgrifenodd lyfr y Datguddiad. Yr oedd Domitian yn rhagori mewn creulondeb ar bawb o'i, ragfiaenwyr aM ddilynwyr. Y mae Eusebius yn dywedyd iddo roddi llawer i farwolaeth am atheistiaeth, yr hwn oedd y cy* huddiad cyffredin yn erbyn y Crist- ionogion, am nad addolent y duwiau Paganaidd. Ym mhlith y rhai hyn y dioddefodd y Cynghorydd Fflavius Clemens, cefnder Domitian, yr hwn a briodasai ei gares Domitilla, yr hon a alltudiwyd i'r ynys Pandataria. Yn y flwyddyn 96 y lladdwyd Domitian yn ei ystafell wely, Medi 18, ac ftlly y rhowd terfyn ar yrail erlidigaeth. Dílynwyd ef yn yr ymerodraeth gan Nerfa, hen- afgwr pendefigaidd a hynaws, yr hwn a ddiddymodd gyfreithiau anghyfìawn Domítian, ac adferodd eu meddiannan i lawer, oddi ar ba rai y cymmerasid hwy trwy drais; ond ni alwyd Domi- tilla o'i halhudìaeth, o achos ei pherth» Ee