Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSOEFA, Rhíf. 4.] GORPHENAF, 1824. [Llyfr' IV. HANES ÉGLWYS CRIST. Ý GANRIF GYNTAF. (Parhad o du dal. 68.) V mae Paul a Silas, yr hWn hefyd aelwir Silfanus (l Thes. 1.1. 2 Thes. 1.1.) yn myned rhagddynt yn eu hail daith, i ymweled â'r eglwysi á blan- asent mewn amrỳw wledydd yn Asia Leiaf, oddeutu pumpneu chwech blyn- edd o'r blaen, ac yn dy^od i Lysíra yn Lycaonia, He yr òedd rbyw ddisgybl ieuangc a'i enw Timotheus. Ÿ raae gan hynny sail dda i gasglu, mai yn y daith gyntaf i'r parthau hyn y bu Paul yn offeryn yn Haw yr Arglwydd i'w ddychwelyd i'r ffydd yn Nghrist, ynghyd â'i nain Lois, a*i fam Eunice, yr hon oedd Iuddewes, ac yn briod â Groegwr. Pa un ai öedd tad Timo- theus yn broselyt i'f grefydd Indd- ewig, nid yw yn ymddangos, ond sicr ydyw i'w fab gael ei addysgu er yn fachgen yn ysgrythyrau yr Hen Des- tament (2 Tim. 3. 15.) yr hyn óedd dra manteisiol iddo i ddeall yr efengyl a bregethid gan Paul; yr hwn, wedi gweled ei gynnydd mewn gras a gwyb- odaeth er pan welsai ef o'r blaen yn «nion ar oì ei droedigaeth, a farnodd y gallai fod yn gynnorthwyol iddo yn ngweinidogaeth yr efengyl. A chan fod Paul yn arfer pregethu i'r Iudd- ewon yn eu synagogau ym mhob din- LLTFB IV, as, rhag iddynt dramgwyddo ẅrtîi Timotheus fel ün dienwaededig, efea'i henwaedodd, rhag bod ei ddienwaed* iad yn rhwystr i lwyddiant yr efeng- yl ym mhlith ei genedl. Ar ol hyn cawn fod Timotheús yn gyfaìll a chyd- ymaith ffyddlon i'r apostol, byd oni sefydlwyd Timotheus yn weinidog i'r eglwys yn Ephesus; ac wedi hynny y bu yn gweini iddo^ ac yn cyd-ym- daith âg ef ar amryw achlysüron. Ymddengys ei fod ỳn ieuangc pan ddechreuodd ar y weinidôgaeth, a thybygid yn holloí ddiargyhoedd o'i febyd o ran ei fuchedd a'i foesau, ac ar ol ei dfoedigaeth yn dangos ar- wyddion boddlongar o symlrẅydd a duwioldeb diffuant. Un gorchwyl á gymmerodd Paul arno, ynghyd â'i gymdeithion, yn y daith hon, oedd hyspysu i'r eglwysi ytn mhob dinas i gadw y gorcbymyniön a ordeiniasîd gan yr apostolion a'r henuriaid yn eu cynghor yn Jerüsalem. Ac Wedi iddynt gadarnhau yr eglwysi yn y ffydd^ a chael gweled a chlywed eü bod yn cynnyddu mewn rhifedi beu- nydd, ar-ol tramwy trwy Phrygia a gwlad Galatia, taleithiau yn Asia Lei- af, gwarafunwyd iddynt gan yr Ys- pryd Glân bregethu y gair mwyach y pryd hyn yn Asia, gan ei fod weéí