Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYSORFA, &c. riiif. 9.] MEHEFIN, 1812. [llyfr n. BUCH-DRAETHIAD. Âm yr Anrhydeid a'r Parch a ddangoswyd i Mr. Whit- field ar ol ei farwolaeth. (Paràad o du dalen 334.) DAETH y newydd athristam farwolaeth Mr. Whitfield i Lundain Tachwedd 5, 1770, mewn llythyrau.at Mr. Keen. Cyhoeddwyd y newydd galarus yn y Babell y noswaith hono, acyn Nghapel Tottenham Courty nosgan- îynoì. Yr oedd Mr. Whitfield wedi penderfynu gyda Mr. Keen, os byddai farw mewn gwlad tramor, mai y Parchedig John Wesìey yr oedd yn ei ddewis i bregethu ei bregeth arwylawl. Yn ganlynol, Sul, Tachwedd y 18, pregethodd Mr. Wesley ar yr achlysur i gynnulleidfaoedd lluosawg a galarus iawn, yn y babell y bore, a'r hwyr yn y Capel Tottenham Court. Gwisgwyd y ddau gapel â brethyn du, yr hwn nis tynwyd i lawr dros chwech mis.------ Yn ei berson yr oedd yn hardd, ei wynebpryd yn landeg: ei lygaid oeddent yn fychain, ond yn fywiog, ac un yn traws-dremiaw, trwy esgeulusdra neu anwybodaeth y fam- maeth oedd yn ei wylied yn y frech goch. Yr oedd el wynebpryd yn wrol, a'iTais yn gryf iawn, ond yn hyfryd ac yn beraidd. Yn ei wisgiad yr oedd bob amser yn lân, yn hardd, ac yn weddaidd. Yn ei ymddygiad yr oedd yn weddus, ac yn esmwytl}: ei ymddygiad boneddigaidd á wnai ei gymdeithas bob amser yn hyfryd. Yn ei ieuenc- lyd yr aedd yn deneu ac yn ysgafn, a'i holl ysgogiadau yn A a a