Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'TMY&ÖRFA* m ähif.'I.] MAWRTH, 1809. [llyfr n. BUCH-DRAETHIAD. Èuchweâd a Marwolaeth y Parchedig Griffiíh Jones^, Periglor Uanddowror yn Swydd Gaerfyrddir*, HANIODD Mr. Griffith Jones o deulu crefyddol a pharchus yn mhlwyf Cilrhedin yn swydd Gaerfyrddin. Bu ei dad farw pan oedd yn ieuarie, ä holl ofal ei ddygiad i fÿnu yn ganlynol öedd yn gorphwys ar ei fam. Dangosodd yn fore„bywiogrvvydd cynneddfau, ac awyddfryd i ddysgu. Gwedi bod yn ei febyd mewn ysgol yn y wlad, anfonodd ei fam ef i fod dan addysg athraw dysgedig ÿn mhrif-ysgol yn nhref Caërfyrddin, lle ycynnyddodd yn fuan meẅn gwrybod- aeth helaeth o'r ieithoedd GrOeg a Lladin, er ei fod dan yr anfantais o feddiannu corph llesg ac egwan. Ymddangosodd sobrwydd neillduol ynddo yn yr amser hwn; abyddai arferol yn aml o dynu o'r neilldu i weddi a myfyrdod, yn lle dilyn y difyrwch a'r oferedd a hudant, a lygrant, ae a faglant y rhan fwyaf o ieuenctid y byd. Dangosodd yn fnan düedd- rwydd eryf i waith y weinidogaeth, er ei fod bob amser y»n golygu y swydd o'r pwys a'r canlyniadau mwyaf; Cafodd ei ürddo yn ddíacon gan y dysgedig Esgob Bull, Medi 1Ç), 1708: a chafodd ei gwbl urddau gan yr ün Esgob yn Nghapel Aber-Marlais, Medi 25, 1709- Ymddygodd yf Esgob yu dra thirion tuag ato; rhoddodd iddo lawer o gynghorion ac addysgiadau buddiol, ac yr oedd Mr. G. Jones yn cynnwys parch mawr yn ei feddwl tuag ato o'r herwydd tra y b.u byw.