Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWYLIEDYDÜ; SÎF, CYLCHGRAWN CYMREIG. AWST, 1824. BUCHEDDAU ENWOGION YR EGLWYS. " Pan ymdaenasai athrawiaeth y Traws-sylweddiad mor llydan a dwfn trwy deyrn-' àsoedd Crêd, yr oedd diwydrwydd a dysgeidiaeth nid ychydig yn angenrheidioí i weled na chynnwysir y cyf'ryw athrawiaeth yn y Tcsfament Newydd. Eithr pe gwnaethai ein Diwygwyr ardderchog ddim amgen na diddymmu hygoeledd diniwaid, neu newid rhai o seremoni'au y gwasanaeth cyhoedd, bychan yr haeddasent y diolchgarwch à'rhwn y cofia Eglwysi Protestanaidd eu gwasanaeth clodwiw. Yr hyn a wnaethant hwy i'r hyd oedd hyn—esmwythàu crefydd Crist o faich gorthrwm oeúd yn ei threchtí a'iphwyso i'r Uawr." Dk. Paiey. ŸR ARCHESGOB CRANMER. Vmdrechiadau rhagorol ein Di* «ygwyr, eu heondeb duwiol, eu llafur, a ffrwythau ea dysgeidiaeth, ni's gellir eu parchu yn gymmwys, os na chyd- ystyriwn amgylchiadau priod yr oes honno. Heb y cyfryw gyd-ystyriaeth ni ddichon i ni ychwaitb, gyd a theg- wch gweddus,farnugwendidauabeiau yr enwogion hynny. Yr hyn sydd yn hyspys ddigon i ni, hyd yn oed i'r anneallus, oedd guddiedig y pryd hyn- ny oddi wrth y dysgedigion. Yr ath- rawiaethau a gredir yn gyffredin yn y dyddiau hyn, ni's gellid eu proffesa gynt heb berygl bywyd. Yr amgylch- iadau, trwy y rhai y profwyd y ffydd- lonion hynny, ydynt (1 Dduw y byddo y diolch) yn anadnabyddus i ni. O- blegid hyn maddeued. ein darllenwyr dysgedig, a chymmered pawb yn hy- naws, os ad-grybwyllwn wrthynt am- bell waith amgylchiadau yr amser- oedd yr oedd ein Üiwygwyr yn byw ynddynt. Cyrhaeddasai ílygredigaeth aWST, 1824. eglwysig ac anwybodaeth i radd aug- hredadwy. Dileasid gwir grefydd yn hylwyr, ac ni chedwid i fynu hyd yn oed eu ffurf a'i delw, oddigerth mewn seremoniau ofer, y rhai a ddygent elw i'r Pab a'r Offeiriaid. Dirmygedig yn eu golwg oedd bucheddau duwiol, a lleied gyfrif a wnaent o ymarwedd- iad drwg yr eglwyswyr, f'el y dyfeis- iasant amryw foddion i'w diogelu rhag cospedigaeth y llysoedd gwladol, yn enwedig trwy honni, nad oedd yr off- eiriaid yn attebol i unrhyw awdurdod- aeth, oddieithr eu llys eglwysig eu hunain. Dirwy bychan yn unig a osodid arnynt am lofruddiaeth. Yn y cyflwr gresynus hwn y gor- weddai y byd pan anwyd ac y dyg- wyd i fynu ein Diwygwyr; y cyfryw oedd y rhagfarn cyffredinol, a'r an- wybodaeth y bu raid iddynt hwy, megis yn araf dêg ymbalfalu trwy- ddynt, byd oni chyrhaeddasant y gwirionedd hollol. Yn raddol yn un- ig y gwelsant eu cyfeiliorni o'r blaeo; yn raddol yn umg, a chyd â mawr Ff