Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

á~\ tTT GW •\ ■ ■ . CYLCHGRAWlí CYMRElGj.. EBRILL, 1821. BUCHEDDAU ENWOGION YR EGLWYS. i, HANES ESGOE LATIMER. (ParhaJ o du dul. 67.) XVHODDWYD iddo Blwyf, neu fyw- ìoliaetheglwysig,yn Wiltshire, y pryd hyu, trwy ewyllys da ei gyfeilíion yn y llys brenhinol. Cynghorwyd ef gan rai o'i gydnabyddiaeth i aros y'nghym- mydogaeth y llys, rhag i'r gwyr mawr ei anghofío, neu oeri yn eu serch atto. Eithr Latimer ni wrandawai, ie, am vin inynyd, ar y cyfryw gynghorion. Bod yn fuddiol i'w braidd oedd prif ddymuniad ei galou. Digon oedd ganddo lafurio yn ífyddlon yin mlilith ei bobl, a bod yn brofedig gan Dduw, heb geisio ei oruchafiaeth ei hun. Troes ei gefn dros byth, fel y tybiai ei hun y pryd hwnnw, ar rodres byd- ol, ac ymródd yn ddyfal i'w ddyled- swyddau eglwysig niegis Gweinidog yr efengyl. Ei ddull yn ceryddu pob ihyw bechod, oedd ddewraidd iawn a llym ; a'r un pryd dangosai yn ei ym- arweddiad ei hun esampl o weithred- oedd da. Gan fod anllygredigaeth a phurdeb athrawiaeth yn brin iawn yn y deyrnas yr amseroedd hynny, obleg- id anwybodaeth cyffredin yr Offeir- ìaid, rhoddodd y Brif ysgol iddo awdurdod pennodol (neu Licence) i hregethu niewn Plwyfydd eraill hef- yd, fel y gwelai yn angenrheidiol. Yr oedd ei bregethau yn rhagori cym- EBBlMf, 1824. maint ar ymadroddion eglwysig eraill yn yr oes honno, fel y gwrandawai cynnulleidfaoedd lluosog arno yn ewyllysgar, ac yr aeth sôn mawr am dano hyd Gaerodor, a thrwy holl barthau gorllewinol Lloegr. Ar hynny, digwyddodd iddo ef, yr hyn a ddigwyddasai i ffyddloniaid era.il), ac yn wir iddo ef ei hun o'r blaen î sef, ennynodd digter yr offeir- iaid a goreuon eglwysig yn ei erbyn, a gyrwyd am dano drachefn i Lun- dain i atteb dros ei ymddygiad. Ym- ddangosodd cenfigen a dichellion ei elynion mewn amryw foddion, a bu ei einioes mewn perygl. Eithr Duw yn drugarog a achubodd eí was, ac a amddiifynodd ei achos mawr ei hun. Ni wnaeth ymgeisiadau marwol ei elynion ddim ond hyspysn ei ddoniau a'i rinweddau yn eglurach fyth i'r byd. Barnai y Frenhines, a'r Pen- defigion oedd o blaid y Diwygiad, na weddai iddynt mwy adael gwr mor glodwiw i dreulio ei amser mewn sefyll- fa isel a dirgel; a deisyfasant yn daer ar y Brenhin ei dderchafu i'r swydd esgobawl. Cyttuno a wnaeth «i Fawr- hydi â'r deisyfìadau hyn, a gosodwyd Latimer yn Èsgob yn Ngbaer Wrang- on. Gan nad oedd efe ei hun wedi ymdrafferthu i gaffael y swydd, na chwennych ei derbyn, edrychai ar y cynnyg annisgwyliadwy hwn « honi