Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWYLIEDYDD; SEF, CYLCHGRAWN CYMHEIŴ. ItHAGFYR, 1823. BUCHEDDAU ENWOGION YR EGLWYS. u A wna doethion y byd, dybygwch chwi, roddi i fynu eu cyfeillion anwylaf a'u plant, sydd brif hoífder eu calon, i ddwylaw eu gelynion, i'w lladd a'u Uosgi? Gwall- gof fyddai hyn iddynt hwy dros ben pob gwallgof. Ac etto, Duw a arfera y drefn hon; a doethineb raawr a rhagorol yn ei olwg ef, yẃ yr hyn a gyfrif y byd yn eithaf gwallgof." JOHN KOGERS. HANES WILLIAM TYNDAL. (Parhad o du dal. 451.) Jl an ganfu y Pabyddion fawr ym- daeniad llyfrau Tyndal, ac yn enwedig ei gyfieithiad o'r Ysgrythyrau, llid- iasant yn ei erbyn â digllonedd a chynddaredd annhraethol; meg"is y cyffröwyd Herod a holl Jerusalem wrth glywed am enedigaeth lesu Grist. Dywedent, nad oedd ddichon cyfieithu yr Ysgrythyri'r Saesoneg; nad cyfreithlon oedd i'r gwyr llëyg ei darllen yn eu tafodiaith eu hunain; ac y gwnai y cyfryw gyfieithiad hwynt oll yu hereticiaid. Ac er eoniil y swyddogion gwladol i'w plaid, haer- ent y parai y llyfr i'r bobl wrthryfela yn erbyn y Brenhin. Yr Offeiriaid, dyledswydd y rhai oedd goleuo eu praidd, ni wnaent na chyfieithu yr Ysgrythyrau eu hunain, na gadael i eraill eu cyfieithu drostynt; eithr chwennychent gadw y bobl mewn ty- wyllwch, er diwallu eu cybydd-dod, eu chwantau, a'u traha annuwiol eu hunain. Mor llidiog a pharhaus oedd eu gelyniaeth, fel na's gorphwysent RHAGFYR, 1823. hyd oni chawsant gennad ac awdur- dod y Brenhin i gydsynio â'u dichell- ion. Nid digon ganddynt wahardd ei lyfrau, bychanu ei ddysgeidiaetb, ac enllibio ei amcanion caredig er Ueshad ei genhedlaeth; eithr hefyd cyd-fẁriadasant ei erlid i farẅolaeth. l'r diben hwn danfonasànt i Antwerp, Ue yr oedd Tyndal yr amsér hwnnw yn cyfanneddu, un Henry Philips, cenaw dichellgar, cyfrwys-ddrwg, yr hwn a wnaeth ei hun yn gydnabyddus â'r gwr duwiol dan rith cyfeillg-arwch a charedigrwydd. Er i un o'i gyf- eillion ei rybuddio nad ymddiriedai ormod i Philips, yr oedd Tyndal ei hun mor anadnabyddus âg arferión bydol a dichellion drygionus, fel nä chredai yn ddrwg am ŵr oedd yn ymddangos mor dèg a chyfeillgar. Trwy hyderu felly arno, efe a syrtb- iodd cyn hir i fagl y gelyn, a darfu am ei einioes. Canys y Philips hwn, wedi cael awdurdod gàn swyddogion y wlad honno i'w ddala, a ddaeth atto ryw ddydd, dan esgus ei wahodd i giniawa gyd âg ef. Eithr cyn cychwyn allan o'r lletty, mor fawr 3N