Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWYLIEDYDD; SE*, CYLCHGRAWN CYMREIG. EBRILL, 1823. BUCHEDDAÜ ENWOGION YR EGLWYS. HANES MARTIN LUTHER. [Parhad o du dal. 197.] -W I leihaodd y bygythion hyn fymryn ar wroldeb Lutber, eithr parasant iddo chwilio yn fanylach, a holi pasailoedd i'r holl rinweddau rhyfeddol a gyfrifid i'r maddeuant-lythyrau. Yr hyn a ddaeth ei hunan i ddeall am danynt, ni bu hwyrfrydig i ddysgu yn ffÿdd- lon i eraill. Dangosodd mai nid gweithred unigol, rnegis datgan ffurf o eiriau, a derbyn gollyngdod gan yr ofTeiriad, yw yr edifeirwch a orchy- mynir gan Grist; eithr gwir gystudd calon, ynghyd â marweidd-dra allanol, a pharhad mewn buchedd newydd a duwiol, a bod gweithredoedd o gariad yn rhagori yn fawr ar bob rhyw fadd- euant-lythyr. '* Mae y maddeuant- lythyrau," meddai efe, wrth un o'r es- gobion, ** nid yn unig yn fFoledd a gwag-bethau eu hunain, ond hefyd yn dra niweidiol i foesaa y wlad, gan fod y bobl druain yn credu y bydd y sawl a'u pryno yn sicr o gael maddeuant, a gochelyd cospedigaeth. Duw gwyn! yr ydych yn annog i ddistryw yr en- eidiau a ymddiriedwyd i'ch gofal, a thrymed gan hynny yw y cyfrif sydd raid i chwi roddi i'r Arglwydd am danynt l Oblegid hyn, ni's gallwn i aros yn ddistaw mwy ; canys trwy ras Duw yn unig yr ydym yn gadwedig. Prif ddyledswydd esgobion yw dysgu ebiull, 1823. y bobl yn yr efengyl, a chariad an- nrhaethadwy Crist. Ni orchymynodd yr iesu i'w apostolion gyhoeddi inadd- euant-lythyrau, er mai y rhai hyn a brígethir yn y dyddiau hyn yn fwy na duwioldeb a gweithredoedd o gariad. Faint ddychryn, ynte, a deimla y sawl a roddant i'w defaid faddeuant-lythyr- au yn lle eu porthi âg- athrawiaethau purlan yrefengyl." Digwyddodd hyn yn y flwyddyn 1517. Daliasom sylw, nad oedd Luther yn y dechreuad yn bwriadu dim ag oedd wrthwynebol neu niweidiol i lywodr- aeth y Pab. Ei ddiffuant gred ef oedd, na wyddai Pennaeth daearol yr Eg- Iwys ddim am y cam-drefn a wnaed yn ei enw wrth wertbu y ffug inadd- euant i'r bobl. Disgwyliai y gwnai Crist, megis Barnwr, fynegi yr hyn oedd iawn trwy enau y Pab, megis ei ben-gweinidog ef ar y ddaear. Credai hefyd y pryd hyn yn y purdan, ac amryw athrawiaethau sylfaenol eraill Pabyddiaeth. Yn raddol y llewyrch- odd y goleuni arno, ac er ei fod yn rhagori ar agos bawb o'i gyfoeswyr mewn doniau a dysgeidiaeth, yr oedd ei feddyliau mor rhwym gan gadwyni ei gam-ddaliadau dechreuol, fel y bu yn hir iawn yn eu dattod, ac yn diangc rhagddynt. Ond megis yr oedd efe yn defnyddio y wybodaeth oedd gan- ddo, felíy teilyngodd yr Arglwydd yn Ff