Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYLCHGRAẄÎÍ CYMREI6, ÌONAWR, 1823. BÜCHEDDAÜ ENẄOGION YR EGLWYS. tíANES JOHN HUSS. 1 AN ddienyddiwyd yr ArglWydd Cobham, collodd achos y Diwygiad Crefyddol yn Lloegr ei amddiffynydd pennaf. Ymddangosai buddugoliaeth ÿr Offeiriaid Pabaidd yn gyflawn, pan na feiddiäi neb, na bonheddig na gwreng, addef ar gyhoedd ddaliadau Wiçkliff, heb berygl marŵolaeth. Dechreuodd cymmylau du-dew ai'l* dywytlu y goieuni crefyddöl a le~ wyrchasai dros ennyd fechan; ac'ya ugolwg dyn y fagddu, megis o'r blaen, a orchuddiai feddyliau y bobloedd. Er hynny, yn y cyfeiliorni cyffred- inol hyn, ni adawödd yr Arglwydd mo hono ei hun yn ddi-dyst. Cuddio y goleuni a wnelsid yn hytrach na'i ìwyr ddiffoddi. Er mai yn ddirgel y dysgid athrawiaethau Wicldiff, ni's gallent lai nag arlwyo y ffordd o flaen diwygíad arall mwy llwyddiíinnuj?. Ac nid ým Mrydain yn unig y buoot fuddiol i'r diben hwn; eithr mewn gwledydd tramor hefyd ar gyfandir Ewrop, lle y taenid hwynt trwy lyfrau Wickliff, neu gan ysgolheigion es- tronawl, y rhai a ddysgasid gan y Biwygiwr ei hunyn Rhydychen. Daliasoro sylw eisoes mai yn Rhyd- ychen y dechreuodd diwygiad Wieît- îiff, mai yno y cafodd dros hir amser ionawr, 1823* y cyfeillion ffyddlònaf i'w fwriädad crefyddol, ac mai oddi yno y ffrydiodd y Diwygiad i barthau eraill o'r wlad. Hyn a ddengys nad yw dysgeidiaeth a chelfyddydau dynol yn anghyttunol â meddyüau eywir aro grefydd^ ond yn bytracb, megis tnai anwybodaeth yw àiam pob cyfeüiomi; felly, cyn- nydd gwybodaetb f« y eam cyntaf i wasgarú y tywyllwcb crefyddol, ac i iawn ddeall ewyllys Duw yn ei air* Tra parhaodd annysgeidiaetb, yr oedd y Bibl ya Uyfr seliedig, o herwydd ei fod mewn iaitb ddieitbr: ond pan hel* aethwyd dysg, agorwyd llygaid dyn- ion i ganfod ystrywiau tẅyllodrus y Papistiaid • chwiliwyd allan ewyllys Duw yn ei air sanctaidd ei hun, yn lle ei g-ymmeryd ar goel gan eraill; a ffrwythau cyntaf y *ddysgeidiaeth * B&egis yr oedd dysg yn angenrheidiol i gyfìeithu y Bibl o'r ieithoedd gwreiddiol» íellŷ, heb barhad dysgeidiaeth, ttî's galletn fo<i yn sicr bod y cyfieithiad hẅnnw yri gywir; aC ni's gellir ychwaitb ei esponio mor gyflawn a diwall. Gocheled neb gan hynny ddirmygu dysgeidiaeth; canys er í'od rhai dysgedigion yn gwneuthur dim defnydd cyfattebol, neu,, ysyẅaeth, yn gwneuthur defnydd drwg o'u haddysg, buddiòl iawn, gyd â bendith, yw helaethiad gwybodaeth i bob dyn, yn enwedig i weinidogion yr efengyl, a rhodd werthfaiwr ydylent hw'y a'u gwrandawyr fod yn ddiolch- gar am dani.