Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWYLIEDYDD; SEF, CYLCHGRAWN CYMREIG. . . . ■ '■ IONAWH, 1826. BUCHEDDAU ENWOGION Yft EGLWYS. Mr. Gwyliedydd, Os gwelwch y byrr hanes caulynol, a gesglais o ferthÿrdod y Dr. Ffarrar, yn deilwng o ymddangos ytn mhlith Enwogion eich Eglwys, y mae at eich gwasanaeth. Gwnewch a fynnoch âg ef,——-Ydwyf, eich DarlLenydd. HANES Y Dr. FFARRAR, ESGOB TY DDEWI. Derchafwyd y Dr. Ffarrar i fod yn Esgob Tŷ Ddewi yn y flwydd- yn 1547, pan yr oedd y Duc o So- merset, ewythr Edward VI. roewn hri ac awdurdod dano: a thra hu y gwr hwnnw mewn dyrchafiad, cafodd y Dr. Ffarrar beth lionyddwch i lyw- odraetbu ac iawn drefnu ei Esgob- aeth. Ond ar ol roarwolaeth ei nodd- wr, y Duc o So?nerset, ni chafodd efe ond croes a helbul diorphwys hyd ddiwedd oes y brenbin. Lluniodd ei elynion (ym mhlith y rhai yr oedd un George Constantine, a wnaethai yr EsgoÜ yn gofrestrydd ei Esgobaeth) tín ar bymtheg a deugain o achwyn- ion yn ei erbyn, i ba rai y rboddes attebion a fuasai yn ei ddifeio ym marn pob un diragfam, o ran sylwedd yr achwynion. Eithr nid oedd dim a foddlonai ei elynion ond ei farwolaetb. ionawr, 1826. Chwefror 4, 1555, câfodd ei ddwyn o flaen yr Esgob'Gardiner î'w holi am ei ífydd a'i athrawiaeth, a theby^ol yw y cawsai efe ei gollfarnu y diwrnod hwnnw, ond fod yr amser yn rhy fý'rr* a'r gwaith yn ormod, ar law ei elyn- ion. Chwefror 14, cafodd ei ddwyn o'r carchar i'w holi drachefn; ác wedi hynny danfonwyd ef i waered i Gymru, i gael ei gotlfarnu yno. Ar y 26ain dydd o'r un inis, darfu i Sirydd Sir Gaerfyrddin ei ddwyn ger bron y Dr. üarri Morgan, ac eraill, yr hwn oedd wedi eael Esgobaeth Tý Ddewi ar ol yspeilio y Dr. Ffarrar o honi. Yn eglwys Caerfyrddin yr oedd eu heis- teddiad. Derbyniodd Morgan y carch- aror oddiar ddwylaw y Sirydd, ac a'i traddododd i gadwraeth un Mr. Owen Jones. Wedi hynny hyspysodd iddo fod trugaredd a thiriondeb y brenhin a'r frenhines i gael eu cynnyg iddo, ond ar yr ammod o'i fod ef yn ymos- twng i gyfreithiau y deyrnas, ac yn cyd-ymffurfio â'r Eglwys Gatholic. Cafodd ei ddwyn ger bron yr un gwyr amryw o weithiau, a darllenwyd am- ryw hohadau o'i tìaen; eithr naccaodd y Dr. Ffarrar roddi attebion iddynt, ar y sail nad oedd ganddynt un awd- urdodiad cyfreithlon i fod yn farnwyr arno ef. Felly, Morgan a'i cyhoedd- odd yn ymgyndynwr, ac yn ganlynol, yn un i*w gyfrif pro cònfesso, sef,