Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr XIV.] RHAGFYR, 1837. [Rhif. 176. BUCHEDDAU ENWOGION YR EGLWYS. Y GWIR BARCHEDIG Dr. RYDER, ESGOB LICHFIELD A COYENTRY. Dr. Ryder ydoedd fab i Nathaniel, arglwydd cyntaf Harrowby, o Elizabeth, merch i Richard Serrick, Esgob Llun- d.iin, ac a anwyd ar yr 31ain o Orphenaf, 1777. Addysgwyd ef yn Ngholeg St. Ioan, Caergrawnt, lle y cymmerodd y gradd o A. C. yn 1798, ac o G. D. a D. D. yn 1813. Dyrchafwyd ei arglwyddiaeth i Ddeoniaeth Wells yn 1812; a chyssegr- wyd ef yn Esgob Caerloyw yn 1815, pan y symudwyd y Gwir Barchedig Dr. Hun- tingford i Esgobaeth Henflordd. Yn 1824, ar farwolaeth Iarll Cornwallis, sy- mudwyd ef i Esgobaeth Licbfield a Co- ventry. Yn 1831 cyfnewidiodd Ddeon- iaeth Wells am le yn Westminster. Yn 1802 priododd Sophia, merch i Thomas March Phillips, Ysw. o'r hon y ganwyd iddo dri ar ddeg o blant, y rhai ydynt oll yn fyw, oddieithr un mab, Charles, yr hwn a foddwyd yn y roôr, yn 1825. Ei fab hynaf, y Parch. Henry Dudley, A. C. sydd yn Ganonwr yn Lichfield, ac y mae ei ferch hynaf wedi priodi Syr George Grey, Barwniad. Bu y gwr duwiol hwn am agos i ddeng mlynedd yn eistedd yn nghadair Esgob- awl Esgobaeth bwysig a phoblogaidd Lichfield a Coyentry. Yr oedd yn aelod o deulu pendefigaidd; rhoddodd ei ar- glwyddiaeth yn gynnarol y profion mwyaf boddlonol fod ganddo, wrth gymmeryd y swydd bwysig a chyfrifol o fod yn Wein- idog Cristionogol, fwriadau llawer uwch mewn golwg na swydd eglwysig uchel; ac mai ei ymgais ydoedd i fod yn offeryn yn llaw Duw i arwain llawer o eneidiau at y gwirionedd, fel y mae yn yr Iesu. Os golygwn ef mewn neilìduedd fel Gweinidog plwyf Claybrook, neu Lutter- worth—fel yn llywio dros Eglwys Gad- RHAGFYR, 1837- eiriol Wells—neu yn Esgob Esgobaethau Lichfield a Coventry—gwelwn yn y Dr. Ryder yr un ymroddiad dibaid i achos y Prynwr—yr un hyfdra o blaid gwirion- eddau achubol yr efengyl—yr un ymlyn- iad zelog at athrawiaethau a disgyblaeth Eglwys Loegr—a'r un pryderwch sanct- aidd dros ddaioni ysprydol a thragy- wyddol ei frodyr. Gan ei fod yn bleid- iwr zelog i'r holl sefydliadau hyny sydd wedi eu bwriadu er gogoniant Duw, a Uesâd dyn, ac yn aml yn dadleu o'u plaid yn y cyfarfodydd yn y brif ddinas; yn eu cefnogi a'u cynnal trwy ei nawdd yn ei Esgobaeth ei hun, a thrwy gyfranu yn hael tu ag at eu cyllidau—ni ofalai lawer am y gwrthwynebiad flÿrnig awneid iddo yn aml. Yr oedd llwybr union-gyrchol dyledswydd ganddo i'w rodio; ac ni fyddai gwrthwynebiad agored anghrîst- ionogol ac anniffynadwy, yn abl i'w droi o hono. Byddai ei ymddangosiad rheol- aidd yn nghyfarfodydd blynyddol mawr- ion y gwahanol Gymdeithasau Crefyddol yn Llundain, yn wastad yn destun o or- foledd i'r lluoedd y byddai yn eu hanerch. Yr oedd ei zel a'i hyawdledd yn tueddu i wneud argraph dwfn; ac yr oedd llawer calon yn teiinlo yn bruddaidd ac yn alar- us pan y collasaut ei bresennoldeb, ac na chlywent ei lais mwyach yn eu hannog i ddiwydrwydd, a ffyddlondeb, ac ymrodd- iad i Dduw. Ond nid oedd y galar hwn yn ddigymmysg, canys llawenychent wrth feddwl, er bod ei dafod yn awr yn fud yn ystafelloedd anghyfannedd-dra, etto fod ei yspryd wedi ymuno â'r dyrfa fawr na ddichon neb ei rhifo. Yr oedd y Dr. Ryderyn hynod am ei diriondeb at ddynion o bob graddau. Ymddangosai ei fod yn teimlo yn wastad, Y y