Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr XIV.] TACHWEDD, 1837. [Rhif. 175. BUCHEDDAU ENWOGION YR EGLWYS. Y GWIR BARCHEDIG DANIEL SANDFORD, D. D. UN O ESGOBION EGLWYS ESGOBAWL SCOTLAND. GwnTiiDDRYrn y bywgraphiad hwn ydoedd ail fab y Parch. Dr. Sandford, o Sandford Hall, Sir Amwythig, a ganwyd cf yn Delville, gerllaw Dublin, yn 1766. Aeth i Goleg Eglwys Crist, Rhydychain, yn 1784; a thrwy nawdd y Duges o Port- Iand, pennodwyd ef yn Fyfyriwr y Gym- deithas hòno. Yma gwnaeth ei hun yn anwyl i lawer trwy ei hawddgarwch a'i foesau boneddigaidd ;. hynododd ei hun yn y Coleg trwy ei ymarweddiad da, yn gystal a thrwy ei ysgolheigdod; ac ym- ddengys ei fod hyd yr awr olaf o'i fywyd yn coleddu coffadwriaeth serchus o'r dyddiau a dreuliodd yn y Brif Ysgol, a'i fod yn edrych arnynt fel y rhai mwyaf dedwydd a dreuliodd. Cafodd lawer o gyfleusderau o ymsymud ym mhlitli y graddau uwchaf pan yn dra ieuangc, ac yr oedd yr effaith o hyn yn ganfyddadwy trwy ei fywyd. Wedi cael ei ordeinio yn ddiacon gan Esgob Caerlleon, priododd yn 1790 Miss Douglas, o deulu y Douglas o Kelhead, Sir Dumfries (yr hon a fu farw ddechreu y flwyddyn hon) ac yn 1791, ordeiniwyd ef yn Offeiriad, gan y Dr. Porteus, Esgob Llundain. Yn yr hanes difyrus o'i fywyd, a gyhoeddwyd gan ei fab, coffheir, i'r gwasanaetlj effeithio gymmaint arno fel y llesmeir- iodd. Cymmerodd yr Esgob tirion ef adref yn ei gerbyd, a ffurfiwyd cyfeillach rhyngddynt, yr hon a barhaodd yn ddi- leihad hyd farwolaeth Esgob Llundain. Yr oedd Mr. Sandford y pryd hwn yn gwasanaethu Curadaeth Hanworth. Symudodd Mr. Sandford i Edinburgh yn 1792 —gwaith yr oedd llawer o'i gyf- eillion yn wrthwynebol iddo. Meddylid y bnasai byn yn rhwystro ei ddyrchafíad, TACHWEDD, 18:?7. 0 ba un yr oedd golygiad teg. Pa un a dderbyniodd gynnygiad o ddyrchafiad pwysig yn y dehau ai peidio, ni ymadaw- odd byth o Edinburgh. Yr oedd yr Eg- Iwys Esgobawl yn Scotland y pryd hyny wedi ei rhanu yn ddau ddosparth—aelod- au yr hen gymundeb Esgobawl, y rhai oeddynt, ynghyd â'u disgynyddion, yn ymlynwyr diysgog wrth deulu y Stewarts; a'r aelodau hyny o Eglwys Loegr, y rhai tra yr ymwrthodent à golygiadau politic- aidd y blaid arall, etto oeddynt yn glynu yn gadarn wrth y drefn Esgobawl a ffurf- iau yr Eglwys. Er i'r ffurf Bresbyteraidd o ddisgybl- aeth gael ei sefydlu yn aniser y chwyl- droad, etto glynai llawer wrth yr Eglwyg Esgobawl; ac ni ddcchreuodd yr achos Esgobawl adfeilio hyd ddigwyddiadau y flwyddyn 1745. Yr oedd dirwyon trym- ion am gyflawniad y gwasanaeth crefydd- 01 gan yr Offeiriaid oedd heb gymmeryd y Uw o ffyddiondeb; ac oblegid yr am- gylchiad hwn yn benaf yr adeiladwyd Capelau yn y rhai y gweinyddai Offcir- iaid Eglwys Loegr a'r Iwerddon. Ym- gynnullai cynnulleidfa Mr. Sandford, yr hon oedd ar y cyntaf yn dra beclian, yn Nghapel Siarlot, yn 1797. Nid oedd, fel y gellir tybied, yn gyssylltiedig û'r hen Eglwys Esgobawl, ac oblegid hyny nid oedd dan lywodraetb Esgobawl—yr hyn ondd yn gytìwr anghydredawl nr bethau ; oblegid er y gallai Gweinidogion y cyfryw Gapelau fod wedi eu hordeinioyn ol y dnll Esgobawl, nid oedd neb ag yr oeddynt dan ddyledswydd i dalu ufudd-dod canottaidd iddo. Mewn cylch amser, syniHdwyd y deddfau cospawl hyn; nid oedd egwydd» oiion politicaidd yr annbyngwyr yn eu S ,s