Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr XIV.] HYDREF, 1837. [Rhif. 174. BUCHEDDAU ENWOGION YR EGLWYS. REYNOLD PECOCK, ESGOB CHICHESTER. Ni ddylid tybied nad oedd dynion, hyd yn nod cyn i lawn oleu y Diwygiad ym- dori allan, heb weled i ryw raddau gyf- eiliornadau eglwys Rhufain; ac, yn ol y gwybodaeth a feddiannent, i dystiolaethu yn eu herbyn. Yn wir, er nad oedd can- wyll gwirionedd dwyfol i'w gweled ond yu aneglur weithiau, etto ni lwyr ddiíTodd- wyd hi erioed; ac ni adawodd Duw erioed nio hono ei hun yn ddidyst, er eu bod weithiau yn prophwydo mewn sachlian. Ein bwriad presennol ydyw rhoddi hanes am nn y dylai yr erlidigaethau a ddio- ddefodd fod yn fwy adnabyddus i'r cy- flíedin. lîeynold Pecock ydoedd wr hynod am ei alluoedd a'i ddysgeidiaeth. Noddwyd a dygwyd ef ym mlaen gan Humphrey y Dug o Gaerloy w, brawd i'r Brenin Harri y V. a'r hwn ydoedd amddifl'ynwr y deyrn- as tra y bu Harri y VI. dan oed. Trwy ffafr y ty wysog hwn daeth Pecoclc i fod yn olynol yn Esgob Llan Elwy a Chichester, ac a gyhoeddodd yn ddiofn ei farn mewn amrywiol lyfrau a thraethodau ; ond ar ol cwymp a marwolaeth y Dug, collodd y dyn da hwn ei gefnogwr, aeth yn agored i'w elynion, ac yn fuan cawsant matter yn ei erbyn. Nid oedd yr Es'gob Pecoclc mewn un taodd yn cytuno à'r holl atlirawiaethau a gynnelid y pryd hyny gan y Lolardiaid (yr enw cyffredin a roddid ar Brotestaniaid yr amser hwnw). Fel esampl, myntum- ient, nad oedd dim yn gyfreithlon ond a bennodid yn benderfynol gan yr ysgryth- Jrau. Ni ddaliodd Wicliff erioed mo'r ^thrawiaeth hpn: ond haerai y dylai or- dinhadau dynol, os byddent wedi eu seilio ar reswm da, ac er bndd cyffredin y bobl Cristionogol, gael eu derbyn. A dywedai HYDREF, 1837. Pecock, nad oedd D'uw yn ei ddatguddiad yn bwriadu dysgu pethau a ellid eu cael allan heb hyny. Daliai hefyd—a rhaid addef bod ei farn yn y fan hon yn garnsyn- iol—er bod delwau wedi cael eu cam-arfer, nad oeddangenrheidrwydd eu hollol ddis- trywio. Ni lwyr gondemniai bererindod, canys meddyliai y gallai Duw ddewis rhoddi ei ffafr mewn un man yn hytrach na mewn man arall; ond cynghorai y rhai a ewyllysient addysg ysbrydol, i'w geisio yn fwy trwy ddarllen a chlywed gair Duw, " na thrwy ymorol am dano yn wastad, yn y fath arwyddion gweledig." Beiai yn fawr ar bregethau mynachod coel-gref- yddol, pregethau pa rai oeddynt yn llawn o dracldodiadau ynfyd, a'u prif ddiben ydoedd i argraphu y ddyledswydd o arfer gwasanaeth eu hurdd hwy, i weddio am ollyngdod cneidiau allan o'r purdan; etto meddyliai y gallai, a bod hefyd, lawer o fantais ar y cwbl yn tarddu oddiwrth láfur y cyfryw deithwyr; a myntumiai oddiar amryw resymau, mawr fuddioldeb myn- achlogydd. Yr oedd cyhuddiadau wcdi cael eu dwyn yn erbyn yr esgobion, am nad oeddynt yn pregethu nac yn byw yn eu hesgobaethau; ond gwrthwynebai y rhai hyn yn fawr, trwy ddal, nad swydd neillduol esgob ydoedd pregethu, ond cael gwybodaeth pa beth yr oedd yr is-offeiriaid yn ei bregethu a'u cyfarwyddo ynddynt; am eu trigiant, haerai nad oedd gorfod arnynt fod yn eu hesgobaethau, pan y gallant fod yn fwy defnyddiol mewn man- an ereill. Gallesid meddwl y buasai yropiniynau hyn yn cymmeradwyo yr Esgob Pe"cock i sylw ei uwchafiaid eglwysig; ond yr hyn a ddaliai ni ddaliai mcwn yspryd erlidig- aethus. Nid oedd yn awyddus am hela O o