Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Li-yfr XIV.] GORPHENAF, 1837. [Rhif. 171. BUCHEDDAU ENWOGION YR EGLWYS. Y PARCH. DR. DANIEL FEATLEY. Wr.Dr rhoddi hanes am rai o dadau yr íîglwys a fuont yn cydoesi âg amryw o ** Ogoneddus gôr yr-Apostolion," ac wedi rhoddi buchdraethiad o rai o " Ardderch- t>g lu y Merthyri," yr ydym am roddi hanes yn ein Rhifyn presennol am un a ^dioddefodd nid ychydig dros ei eglwys ttiewn dyddiau diweddarach, dyddiau y 'lysgir ni yn awr i edrych arnynt fel rhai ÿ blodeuodd rhyddid cre/yddol fwyaf yn- ddynt, ac y dylid hiraethu am eu dy- chweliad. Daniel Featley, o Fairclough, ydoedd ftil fab i John Featley, yr hwn fu am beth *mser yn gogydd i lywydd Coleg Magda- len, Rhydychain. Ganwyd ef yn Charl- ton, Sir Rhydychain, yn Mawrth, 1582. Addysgwyd ef mewn Ysgol Rammadegol gerllaw Coleg Magdalen, ile yr oedd yn gorydd. Derbyniwyd ef yn Ysgolhaig Coleg Corpus Christi yn 1594, ac yn Aelod (Fellow) yn 1602; yr oedd y pryd hyny yn Wyryf yn y Celfyddydau. Yn fuan wedi hyny fe aeth yn Athraw yn y Celfyddydau, a mawr oedd y clod a dder- byniodd am y dull y cyflawnodd ei wersi. Yna ymroddodd yn hollol i fyfyrio duw- inyddiaeth, a daeth yb hynod o'r dysgedig yn ysgrifeniadau y tadau, y cyngorau, a'r ysgolheigion. Yr oedd ei glod gymmaint fel pregethwr, ysgolhaig, a dadleuwr, fel ag y darfu i Syr Thomas Edinonds, pan bennodwyd ef i fyned yn genadwr i lys Ffraingc, ei ddewis ef fel Caplan i fyned gyd àg ef yno. Treuliodd dair blynedd yn y gwasanaeth hwn, ac ystyrid ef fel wedi dwyn anrhydedd mawr ar ei genedl trwy ei ddadleuon â'r Pabyddion dysg- «dicaf, ac à doctoriaid y Serbonne. Dang- osodd yn y dadleuon hyn gymmaint o GORPHENAF, 1837. dalentau, fel na allai hyd yn nod ei wrth- wynebwyr lai na rhoddi iddo y titlau acutis simus ac acerrimus [y craflaf a'r cyfrwysaf.] Ar ei ddychweliad i Loegr, aeth i'w Goleg, ac yn 1613 cymmerodd ei radd o Wyryf mewn Duwinyddiaeth. Yn fuan wedi hyn cyflwynwyd ef gan ŵr boneddig y bu yn athraw iddo, i Berigloriaeth Norhill, yn Nghernyw. Ond prin yr oedd wedi ymsefydlu yn ei le newydd, pan y derbyniodd wahoddiad oddiwrth Abbot, Archesgob Canterbury, i ddyfod yn Gaplan teuluaidd iddo. Am hyny aeth i Lambeth, a chafodd Berigloriaeth y plwyf hwnw yn gyfnewid am Norhill. Yn 1617, ar ddymuniad yr Archesgob, gwnaed ef yn Ddoctor mewn Duwinydd- iaeth. Ar yr achlysur hwn efe a ddyrys- odd y Doctor Prideaux gymmaint, trwy ei resymau, fel y dechreuodd ymrafael, a gorfu ar yr Archesgob ei hun ymyraeth. Yr oedd Antonio de Dominis, Archesgob Spalatro yn bresennol, a chafodd ei fodd- loni gymmaint yn nghyfrwysdra Fea.tley, fel, ac efe y pryd hyny yn benaeth y Savoy, y rhoddodd iddo le brawd yn yr ysbytty hòno. Yn fuan wedi hyny cyf- Iwynodd yr Archesgob Abbot ef i Berig- loriaeth Allhallows, Bread Street, yrhwn a gyfnewidiodd ar ol hyny am un Acton, Middlesex. Yn ystod ei drigiant yn Lambeth, cynnaliodd amryw ddadleuon â'r Jesuitiaid, ac unwaith cafodd ei oddef i ddadleu yn ysgolheigaidd gyd â'r brenin Iago I. Yn 1625, wedi priodi ychydig cyn hyny, aeth o wasanaeth yr Archesgob, yn amser y pla mawr y flwyddyn hòno, i Kennington, lle yr oedd gan ei wraig dŷ Bb