Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr XIV.] MEHEFIN, 1837. [Rhif. ÌW* BUCHEDDAU ENWOGION YR EGLWYS. Y DR. ROWLAND TAYLOR, O HADLEIGH.* Yr oedd y Pabyddion wedi penderfynu, Cr mwyn brawychu mwy ar y Protestan- ìaid, fod i rai o'r prif Offeiriaid ddioddef öierthyrdod yn y lle y llafuriasant. Am hyny, dygwyd y Dr. Taylor i Hadleigh i farw yn y nian lle y bu fy w. Y diwrnod ■Wedi i'w wraig swpera gyd âg ef, cym- Hierwyd efo'r carchar lle yroedd, oddeu- tu dau o'r gloch yn y boreu, a dygwyd ef, heb ei oleuo, i westdy tu hwnt i Aldgate. Ei wraig, yn ammeu y byddai iddo gael ei gario ymaith yn ddirgel, a wyliodd drwy 'r nos y'mhorth Eglwys St. Botolph, gyda dau o blant, un o honynt oedd ferch i'r Dr. Taylor ei hun, a'r llall ydoedd enetli amddifad a fabwysiadasai. Pan yr oedd y Sirydd a'i gyfeillion yn myned heibio yr Eglwys, gwaeddodd un o'r plant, " Ü fy nhad anwyl! mam, mam, dyma fy nhad yn cael ei arwain ymaith." Yna, meddai ei wraig, " Rowland, Row- land, pa le. yr wyt ti?" canys yr oedd y boreu yn rhy dywyll iddi ei weled. At- ebodd y Dr. Taylor, " Fy ngwraig anwyi, yr wyf íì ynia;" a safodd. Yr oedd gweision y Sirydd am ei yru ym mlaen, ond y Sirydd, yn fwy dynol, a ddywed- odd, " Aroswch, gadewch iddo ymddi- tfdan à'i wraig." Ac felly efe a gymmer- odd y plentyn ieuengaf yn ei freichiau, ac a benliniodd, ac a weddiodd. Yna efe a gusanodd ac a fendithiodd ei wraig, gan ddywedyd, " Ymgysurwch; fe gwyd Duw ì fynu dad i'ni mhlant i. Yr wyf yn erfyn arnoch oll i sefyll yn gryf ac yn sefydlog Wrth Grist a'i air, ac ymgedwch rhag eilun-addoliaeth." Ei wraig a atebodd, u Duw fyddo gyda thi, Rowland anwyl, trwy ras Duw, mi a'th gyfarfyddaf yn * Parhad o du dal. 881. MEHEFIN, 1837. Hadleigh." Toddwyd y Sirydd, a llawer o'i ganlynwyr, i ddagrau wrth yr olygfa gynhyrfiol hon. Tra yr oedd y Dr. Taylor yn cael ei gadw yn y gwestdy, yn aros am Sirydd Essex, ymdrechodd ei wraig drachefn gael golwg arno. Ni allai Sirydd Llundain, pa fodd bynag, oddef hyn ; ond efe a gyn- nygiodd yn dirion roddi lle iddi yn ei dý ei hun. Gwrthododd hyn, ac aeth i dý ei mam, yr hon y darfu i'r swyddogion or- chyrnyn ei chadw hyd oni ddeuenti dra- chefn. Wrth ddyfod allan, yn nghadwr- aeth Sirydd Essex, gwelodd y Dr. Taylor ei fab, a'i ffyddlon was John Hull. Bendithiodd hwynt, a chanodd yn iach iddynt. Yn Brentwood, darfu i ŵr o Hadleigh, yr hwn fu unwaith yn ngwasanaeth y Dr. Taylor, ei gyfarfod, a chan dybicd ei fod yn rhydd, efe a gyd-lawenychodd âg ef. Ceryddodd y Sirydd ef ani liyn, a bygyth- iodd ei gospi. Ac yna, fel nad ellid ad- nabod ei garcharor, efe a wnaetli fath o orchudd i'w roddi tros ei ben, â tliyllau ynddo i'w lygaid a'i geg. Wedi ei wisgo fel hyn, yr oedd yn ammhossibl i neb ei adnabod. Elto yr oedd y nierthyr trwy yr holl ffordd yn dra llawen agorfoleddus, fel un yn myned i wledd neu briodas. Llefarodd lawer wrth y Sirydd a'r ceid- waid, fel ag i wneud iddynt wylo wcith- iau, oblegid ei gynghorion rerchus iddynt, ac weithiau i synu a rhyfeddu wrth ei weled ef mor pyssonachadarn, yn ddiofn, ac yn dda ganddo farw. Yn Chelmsford,cawsantSirydd Snffolíc, yr hwn oedd i fyned gyd âg ef i'w ddien- yddiad. Wrth swpera y noswaith liono, ceisiodd y Siryddion ei berswadio i dtoi