Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Uyfr XIV.] MAI, 1837. [Rhif. 169. BUCHEDDAU ENWOGION YR EGLWYS. Y DR. ROWLAND TAYLOR, O HADLEIGH. Yr oedd y gwr hynod hwn yn enedigol 0 Rothbury, yn Sir Northumberland. Pan Vm Mhrif Ysgol Caergrawnt, yr oedd yn dra chyfeillgar â'i gydwladwr William Turner, yr hwn, ar ol hyny, a fu yn Ddeon Wells, trwy addysgiadau yr hwn, a thrwy bregethau yr Esgob Latimer, arweiniwyd fcf i goleddu y grefydd Brotestanaidd. Wedi hyny daeth yn Gaplan i'r Arch- esgob Cranmer; ac yn nheyrnasiad Ed- ward IV. pennodwyd ef yn un o'r Dir- prwywyr er gwneud cyfundrefn o gyf- teithiau eglwysig. Pan roddwyd plwyf Hadleigh iddo, gad- awodd deulu yr Archesgob, i fyned i fyw ì blith pobl ei ofal. Yma yr oedd yn dra diwyd yn gwylio ei braidd ; ac felly hys- bysir ni, mai nid ar Suliau a gwyliau yn unig, ond pryd bynag y gallaî ddwyn ei wrandawyr ynghyd, pregethai iddynt air Duw, athrawiaeth eu hiachawdwriaeth. Yn ei fywyd a'i ymarweddiad hefyd yr oedd yn esampl hynod o sancteiddrwydd Cristionogol. Yr oedd mor rydd oddi- Wrth falchder, fel y gallai y dyn tlotaf fyned ato fel at dad; yr oedd mor eofn, fel y ceryddai yn ffyddlon, er yn dirion, y thai cyfoethocaf a mwyaf galluog. Yr oedd o dymher addfwyn, yn rhydd o bob cenfigen, ac yn barod i faddeu i'w elynion chwerwaf. At y claf a'r anghenus ym- ddygai fel mammaeth dyner, gan gymhell ei blwyfolion at weithredoedd o drugar- edd, tra yr oedd efe ei hun, bron yn fwy na'i foddion, yu barod i ddiwallu eu hangenion. Yr oedd ei wraig hefyd yn ddynes ddoeth a duwiol; a chafodd ei blant eu maethu a'u dwyn i fynu yn ofn Duw. Y cyfryw ydoedd nodweddiad y Dr. MAI, 1837. Taylor: ac fel hyn yr oedd efe, fel bugail da, yn Hafurio ym mhlith ei braidd yn Hadleigh. Yr oedd Hadleigh wedi derbyn yr efengyl yn gynnar yn y diwygiad. Yr oedd wedi ei breinnio â gweinidogaeth y merthyr Thoraas Bilney; ac yr oedd y trigolion yn hynod am addurno, trwy eu hymddygiad, eu proffes o'r gwirionedd. Ar farwolaeth y Brenin Edward VI. gosodwyd y grefydd Babaidd i fynu dra- chefn yn Lloegr. Rhoddwyd yr Esgob- ion a'r Offeiriaid duwiol mewn carcharau, neu gorfu arnynt ddiangc; a thorodd allan erlidigaeth gyffredinol yn erbyn y rhai na wadent y ffydd. Darfu i'r Dr. Taylor, pa fodd bynag, ddal ei dir: par- haodd am amryw íisoedd i ddarllen y Gwasanaeth Protestanaidd yn ei Eglwys, a phregethodd yn ffyddlon yn erbyn llygr- edigaethau Pabyddiaeth. Dau Babydd oedd yn byw yn ei blwyf, yn ymgyn- ddeiriogi yn erbyn ei zel, a berswadiasant Offeiriad Aldham, pentref cyfagos, i ddy- fod i Hadleigh, heb yn wybod i'r Doctor Taylor, i ddarllen Gwasanaeth yr Offeren. Ac felly, un diwrnod, tra yr oedd y Dr. da yn ei lyfr-gell yn darllen ei Fibl, efe a glywai glychau yr Eglwys yn canu. Prys- urodd i edrych beth oedd y mater, a chaf- odd yno yr Offeiriad traws-ymwtbiol, wedi ei amgylchu â gwyr arfog, ac ar ddechreu ei wasanaeth eilun-addolgar. Ardystiodd yn hyf yn erbyn hyn ; ond trowyd ef a'i wraig (yr hon a'i dilynasai) allan o'r Eglwys, clowyd y drysau yn ei erbyn, a darllenwyd y gwasanaeth. Ym mhen ychydig ddyddiau, rhoddwyd hysbysiad yn erbyn y Dr. Taylor, o flaen Stephen Gardiner, Esgob Caerwynt, a Phrif Gangellydd Lloegr, yr hwn a an-