Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr XIV.] EBRILL, 1837. [Rhif. 168. BUCHEDDAU ENWOGION YR EGLWYS. JOHN NICHOLSON, neu LAMBERT. John Nicholson, a adwaenir yn well wrth enw Larnbert, ydoedd briodor o Swydd Norfolk. Nid oedd efe yn un o rai mawrion a grymus y byd, ac ni ddyrchafwyd ef ychwaith i'r un swydd o harch a dyrchafiad mawr; ond etto, trwy ragluniaeth ddaionus Duw, caniatâwyd ef i sefyll o flaen rheolwyr a thywysogion i dystiolaethu am efengyl Crist. Yr oedd yn ffyddlon, ac fel y cawn weled, hyd angeu, a Duw a roddodd iddo goron y bywyd. Ar ol treulio ei febyd yn ei wlad ei hun, gosodwyd Lambert ym Mhrif Ysgol Caer- grawnt; a thrwy fendith Duw ar addysg- iadau yr enwog ddiwygiwr Bilney, dy- chwelwyd ef i'r ffydd. Ymddengysiddo wneud cryn gynnydd mewn dysgeidiaeth, a chan ei fod yn dra hyddysg yn y Groeg a'r Lladin, iddo gyfieithu amryw o lyfrau o'r ieithoedd hyny i'r Saesoneg. Urddwyd ef yn Esgobaeth Norwich ; ond cyn pen hir amser, ya cael ei gymmell, y mae yn debygol, gan anesmwythdra yr amser- oedd cynhyrfus hyny, pan yr oedd i ddyn a gyffesai y gwirionedd gariaei fywyd yn ei law, ymadawodd à Lloegr, ac a aeth i Antwerp. Yma y mwynhaodd gyfeillach Tindal a Frith, a chafodd trwyddynt hwy wybodaeth mwy perffaith o'r efengyl. Yno pennodwyd ef yn gaplan i'r mar- siandwyr Seisonig yn Antwerp, a phar- haodd i gynnal y swydd hon aui oddeutu blwyddyn a hanner. Ond nid oedd yn ddiogel ynia; canys ar gyhuddiad Bar- low, cafodd, ar orchyrayn Syr Thomas Moore, yr Arglwydd Gangellydd y pryd hyny, ei amddifadu o'i swydd, a dygwyd ef drosodd i Loegr. Warham ydoedd y pryd hyny yn Arch- esgob Caergaiut, ac o flaen yr Archesgob EBRILL, 1837. hwn yr holwyd Lambert, yn 1532, pan y dygwyd pump a deugain o erthyglau yn ei erbyn. Yr oedd Uawer o'r erthyglau hyn yn dra dibwys, ac o natur poenus; fel engraiflft, gofynid iddo fynegi a ydoedd yn cael ei ddrwg dybied o heresi; a thra- chefn, pa un a ddarfu efe erioed weddi'o dros Wicliff a Huss, a Jerom o Prague, neu a ydoedd efe yn eu barnu yn heretic- iaid. Gofynid ef hefyd i ddatgan ei farn am y saith sacrament, traddodiad, y pur- dan, gweddio tros seintiau, cyfiawnhad, awdurdod y Pab, a'r rhan fwyaf o'r pyngciau ereill oddiwrth ba rai y gŵyr- odd Eglwys Rhufain. Yr ydoedd y pryd hyn mewn dalfa yn nhŷ Archesgob Caer- gaint yn Rhydychain, ac nid oedd gan- ddo ddim moddion cynnorthwy oddiwrth lyfrau. Etto, o dan yr anfanteision hyn, ysgrifenodd atebion manwl a llafurus i'r holl ofynion a ofynwyd iddo, gan gefnogi ei opiniynau trwy yr ysgrythyr, a Jlawer o ddyfyniadau o'r tadau, yr hyn a brawf ei fod yn dra hyddysg yn eu hysgrifen- iadau, ac w_edi ei ddonio â chôf hynod o gryf. Fel hyn yr ysgrifeilodd draethawd manwl, yr hwn aellirei weled yn Merth- yrdraith Fox. Fe allai nad anfuddiol fyddai dyfynu, fel engraifft, ei ateb i'r pummed cwestiwn a deugain. " Yn y pummed cwestiwn a deugain," meddai, " lle y gofynwch, Pa un a ddarfu i mi erioed addaw trwy lw, neu wneuthur unrhyw gytundeb neu gyngrair âg unrhyw berson, neu berson- au, y byddai i mi yn wastad ddal ac am- ddiffyn unrhyw benderfyniadau, neu erthyglau, a ymddangosai i mi, ac i'ra cyngreirwyr, yn iawn ac yn gysson â'r ffydd? ac a ewyllysiwch i mi sicrhau i chwi ddull a ffurf y cyfryw opiniynau a