Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

6> FJanesion, ^-c. od o'r diniweid, ac er mai crwydryn yd- oedd, dywedir na ofynodd ef erioed am eiusen. Ewyllys nodedig.— Yn ddiweddar bu farw hen foneddiges yn Weymouth, yr hon na bu erioed yn briod, a gadawodd ei holl eiddo yn gyfartal rhwng pump o'i nithoedd, ac y maent i fwynhau eu cyfran tra y parhaont heb briodi. Y mac cyfran yr hon a briodo i fyned y-D gyfartal rhwng y gwyryfon ; ac os bydd iddynt oll briodi, ynabydd yr holl eiddoi fyned iŵr oberth- ynas iddynt. Marwolaeth ddisyfyd.—Yn ddiweddar cafwyd y Parch. Mr. Betty, o Sandbach, Swydd Gaerlleon, yn farw yn ei barlawr, gan ei forwyn. Hi a'i gadawodd ef y noswaith o'r blaen, fel arferol, yn eistedd yn ei gadair yn darllen, ac a aeth i'w gwely; a phan aeth hi i'r parlawr y boreu hwnw, cafodd ef wedi syrthio o'i gadair ar y llawr, mewa llewygfa, fel y raeddyl- ir, yn hollol farw. Efe oedd Feistr Ysgol Rad Rammadegol Sandbach, ac yr oecld uwchlaw 60 mlwydd oed. Digwyddiad anffodus.—Fel yr oedd tri morwr, perthynol i long o'r Iwerddon, yn llwytho glo yn ddiweddar yn Loughor, gosodasant grochan yn llawn o bŷg ar dân oedd newydd ei enyn yn y caban, ychydig cyn myned i orphwys, a chauasant y drws ar eu holau ; ond erbyn y boreu, galarut adrodd, cafwyd y tri yn gorwedd yu feirw yn eu gwelyau. Ychain anghyffredin.—Mewn ffair yn ddiweddar yn Sheffield, dangoswyd dau ŷch byw, gan gigydd o Bakewell, yr hwn a'u prynodd am y swm anferth o £126, gan uu Mr. Swaffield, o Chatsworth, yr hwn hefyd a'u magodd ac a'u porthodd ar fferm i Dug o Devonshire. Un o'r ychain oedd o'r rhyw corn byr, a phwysai 2730 pwys. Yr ŷch ara'.l oedd o'r rhy w Aiban- aidd, a phwysai 2296 pwys. Yr anifeil- iaid rhagorol hyn a ystyrid gan feirniaid deallus mewn anifeiliaid yn ddigytì'elyb mewn cyfiuniad, tewder, a thyliant per- ffaith. Mr. Swaffield a'u cymmerodd, cyn eu gwerthu i'r cigydd, i arddangosfa ani- feiliaid amaethyddol Balcewell, ile y teil- yngasant y gwobr cyntaf a'r ail, a'r lle eu cyhoeddwyd yn ddau o'r ychain rhagoraf a welwyd erioed yn y parth hwnw o'r ■wlad. Mr. Swaffield sydd frodor o Swydd Dorset. Siwgr—Y mae yn ddiddadl y bydd i siwgr a wneir o gnau y gastan-wydden (chesnut) ddyfod yn fuan i gymmaint bri a'r siwgr a wneir o'r bcctrool. Y mae peth o'r sylwedd a dynir o honynt wedi gwneuthur yn ol 14 pwys o bob cant, yr hyn sydd fwy na'r hyn a dynir o'r un faint o'r bect root. Eira.—Yn ol pob hanes a wyddys am dano, y gawod eira fwyaf a fu yn Lloegr erioed oedd yn 1614. Llyfr plwyf Watton Gilbert a ddy wed, iddi ddechreu odi Ion- awr löfed, ac iddi barhau i odi bob dydd hyd Mawrth 12. Damwain.—Fel yr oedd Mr. Barnbrook, masnachydd ŷd a bragwr, o'r Amwythig, ynghyd â bachgen bychan (nai iddo) yn dychwelyd adref mewn cerbydyn o Pon- tesbury, dychrynodd y ceffyl, a rhedodd y cerbydyn i ben y clawdd, a dymchwelodd —pryd yr aeth pen Mr. Barnbrook o dan draed y ceffyl, yr hwn a wnaeth yr asgwrn yn chwilfriw, yr hyn hefyd a achosodd ei farwolaeth yn y fan. Y bachgen, yr hwn nad oedd ond saith mlwydd oed, a ddy- chrynodd i'r fath raddau, fel y rhedodd, tan waeddi, am o gylch tair milltir tua chartef, cyn i neb eioddiweddyd, a'r pryd hyny nis gallasai ddywedyd pa beth a ddigwyddodd. Arwydd o Barch. — Yn ddiweddar an- rhegodd plwyfolion Llanidloes, Swydd Drefaldwyn, eu l'archedig Beriglor, John Davies, âg amryw lestri arian, gwerth £70, er dangos eu parch i'w Gweinidog, yr hwn sydd yn eu gwasanaethu yn ii'ydd- lon er's 50 uilynedd. Digwyddind angeuol. — Merch ieuangc, y'ngwasanaetb Mt. Watkis, cyfreithiwr, Amwythig, a gyf.irfyddodd â'i hangeu feí y caníyn:—Gadawodd Mr. Watkis ddryll llwythog yn y tý, a rhyw fodd neu gilydd gymmeiodd y gwas afael ynddo, heb ddeall ei fod yn llwythog; a thra yr oedd ei flioen tu ag at y forwyn, taniodd. a'i gynnwysiad a aeth i'w hymysgaroedd, a bu farw yn ebrwydd. Yìnddygiad anweddus.— Dygwyd dyn o'r enw Huglies, ynghyd à'i ddau nai, ger bron Hedd ynadon Ynys l*'ôu, am yin- ddwyu yn anweddaidd tu ag at, a maeddu merch ieuaingc, yr hon oetid yn feichiog o'r hynaf, gyd â'r diben o beri iddi ymys- gario. Denwyd hi gan Hughes i'w gyf- arfod ef mewn lle neillduol, gael iddynt drefnu yr amser i gyhoeddi gostegion eu priodas, a phan y gwnaeth ei hymddang- osiad, ymosodcdd y tri arni, ac a'i trôed- iasant, h\d nes iddynt ei hymddifadu o bobteimlad, ac a'i gadawsant yn y cyflwr hwnw. Bu yn gorwedd am rai dyddiau mewn cytlwr tra gotidus; ond dywedodd yr Ynadon eu bod hwy yn analluog i ym-