Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD Llyfr XIV.] CHWEFROR, 1837. [Rhif. 166. BUCHEDDAU ENWOGION YR EGLWYS. POLYCARP, ESGOB SMYRNA. Ychydig a wyddis mewn cydmariaeth am. fuchedd y tad hwn yn yr Eglwys Gristionogol. I " ogoneddu Duw" trwy ei " farwolaeth" ydoedd yr hynodrwydd a fwriadwyd iddo ef; ac am hyny, nid oes genym fawr o hanes am ddim yn am- gylchiadol ond am ei farwolaeth. Gan- wyd Polycarp oddeutu diwedd teyrnasiad Nero; y mae yn debygol mai ei le gened- igol ydoedd Smyrna, ond nid oes sicrwydd o hyn; ac y mae yn hollol anadnabyddus pwy ydoedd ei rieni. Pan oedd yn dra ieuangc, gwerthwyd ef fel caethwas i fon- eddiges o radd uchel yn Smyrna, enw yr hon oedd naill ai Calista neu Calisto. Yr oedd y foneddiges hon yn hynod am ei Christionogrwydd, ei duwioldeb, a'i hel- usen. Gan hyny, gellid disgwyl nad yd- oedd gwasanaeth yn nhý un oedd yn cael ei llywodraethu gan y fath egwyddorion yn iau drom. Yniddygodd ei feistres tu ag ato gyda thiriondeb, a dygodd ef i fynu jpewn dull crefyddol, o dan ofal Buco- fhs, yr hwn ydoedd y pryd hyny yn Esgob effro a diwyd Smyrna. Dywedir i'r foneddiges hon, ar ei marwolaeth, ad- ael ei holl eiddo i Polycarp ; ac er ei fod yn swm mawr, etto nid ydoedd ond prin yn ddigonol i gyflawni y bwriadau elus- engar yr ydoedd Polycarp wedi eu ffurfio yn ei galon, pan gafodd yn ei feddiant y moddion hyn i wneuthur daioni. Gwnaed ef yn ddiacon ac yn egwyddorwr o dan Bucolus; a chan iddo fod yn hynod o zelog a ffyddlon yn y dyledswyddau hyny, ar farwolaeth Bucolus, pennodwyd efi'r swydd esgobawl yn ei le, a chyssegrwyd ef iddi gan yr apostolion eu hunain. Y Wae yn dra thebygol i Polycarp dderbyn y pennodiad hwn yn ol cyngor St. loan, i'r hwn yr oedd wedi bod yn ddisgybl CHWEFROR, 1837. ffyddlon, a'r hwn a'i hoffai yn fawr iawn. Trwy holl ystod ei fy wyd ni thrôdd erioed oddiar y llwybr o ddyledswydd ac athraw- iaeth yr oedd yr apostol wedi ei hyfforddi ynddi—flyddlondeb ag oedd yn fwy can- moladwy, gan ei fod wedi ei amgylchu ar bob ochr gan heresiau deniadol. Y mae enwau Cerinthus, Ebion, Marcion, a Va- lentinus, yn hynodol fel dynion ag oedd- ynt, hyd yn nod yn y dyddiau boreuol hyny, ac mor agos i ffynonell gwirionedd dwyfol, trwyeu cyfeiliornadau, yn llygru ei ffrydiau cyntaf, ac yn tynu llawer o bobl ar eu hol. Safodd Polycarp yn gad- arn yn erbyn yr ymgeisiadau hyn i lygru y gwirionedd cyntefig, gan haeru yn erbyn pob gau athrawon symlrwydd yr athraw- iaethau a draddodwyd iddo gan dystion a gweinidogion yr Arglwydd. Ni thyb- iodd yn beth dibwys i ddadleu dros y gwirionedd, hyd yn nod yn y ddadl atn yr iawn amser o gadw y Pasc. Yr oedd y ddadl ar y pwngc hwn yn cynnyddu yu fawr y pryd hyn rhwng yr Eglwysi de- heuol a dwyreiniol; ac aeth Polycarp i Rufain i ymddiddan â'r blaid wrthwyn- ebol, ac yn fwy enwedigol âg Ánicetus, yr hwn ydoedd y pryd hyny yn Esgob Rhufain. Cynnaliodd lawer cynnadledd gyd âg Anicetus, ac er mai y diwedd yd- oedd, bod i bob un ddal yn ei farn, etto yr oedd eu cymdeithas o'r natur fwyaf hedd- ychol a chyfeillgar; " Cadwodd pawb ei arferiad ei hun (medd Milner) heb uu- rhyw rwyg yn y cariad oedd rhyngddynt, yn wirioneddol nac yn ymddangosiadol: penderfynwyd y mater yn fuan rhyng- ddynt, fel y dylai pob mater sydd heb fod yn hanfodol i dduwioldeb." Tra yr oedd yn fihufain, ymosododd i wrthwynebu hereei Marcion, yr hwn oedd