Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr Xlv.] IONAWR, 1837. [Rhif. IGö. BUCHEDDAU ENWOGION YR EGLWYS. JEROM O PRAGUE. Yr oedd cfc yn ŵr boneddlg, wedi ei eni yn ninas Prague, wedi cael ei feithrin ẅewn dysg yn y Brif Ysgol hòno, ac wedi cael gradd Athraw yn y Celfyddydau yno, 4e ar ol hyny ym mhrif ysgolion Paris, Cologne, Heidelberg, a Rhydychain. Y mae hyn yn dangos ei fod wedi teithio i umryw wledydd, a chael ei hynodi a'i barchu fel gwr o ddysg, gartref ac oddi cartref. Y mae yn debygol mai oddeutu y flwyddyn 1408 y dechreuodd efe arddel ar gyhoedd yr athrawiaeth yr oedd John Huss yn ei chyhoeddi: ac yr oedd mewn dysg yn rhagori ar ei gyfaill oedd yn dra pharchus ganddo. Tra bu yn Lloegr,.yr oedd wedi mynu holl lyfrau Wickliff yn ysgrifenedig, ac amryw gopiau o honynt, y mae yn debygol: ac fe'u dygodd hwynt gyd âg ef i Prague. Bu yr ysgrifeniadau hyny yn fendithiol iddo ef, a Huss, er na ddarfu iddynt fedru myned mor bell a Wickliff, mewn gwrthwynebiad i draws- sylweddiad yn enwedigol. O herwydd ei ymdrech duwiol ym uihlaid y gwirionedd, hyd yr oedd yn ei adnabod, ac o herwydd ei fod yn gyfaill mor agos, ac yn gynnorthwy wr mor ffydd- lon i Mr. Huss, efe a fu yn nôd i lid a dig- ofaint y gwyr ysgeler a rhith grefyddol, oedd yn blaenori y'Nghyngor Constance. Yn Ebrill, 1415, efe a gafodd ẁys i ym- ddangos yno; a chyn diwedd y mis yr oedd wedi cyrhaedd yno mewn ufudd-dod i'w galwad. Ond wedi iddo gael hysbys- rwydd am ei anwyl gyfaill, ei fod yn garcharor caeth; na chai efe mo'i weled; ac nad allai efe fod er dim cynnorthwy iddo; ond ei fod yntau hefyd yn llwyr debygol o gael ei roddi mewn dalfa gan- ddynt; efe a ymroddodd i gilio ymaith. Aeth yu ol hyd Iberlingen; ac oddi yno IONAWR, 1837. efe a ysgrifenodd lythyr at yr Ymerawd- wr a'r Cyngor, i ddymuno nawdd-lythyr ganddynt. Cafodd un oedd yn rhoi iddo genad i ddyfod i Constance, ond nid i ddy- chwelyd. Ar hyny efe a barodd i bapur- yn o'i ardystiad gael ei osod i fynu mewn lleoedd cyhoedd, y'mha un yr oedd yn dat- gan y gwnai efe ymddangos yn Constauce, os cai ond nawdd-lythyr addas. Wedi hyny efe a gychwynodd tua Bohemia: ond mewn lle a elwir Hirsaw efe a gafodd ei ddal, a'i ddwyn yn garcharor caeth, dan heiyrn, a'r Duc Lewis yn ei arwain wrth gadwyn hir i ddinas Constance. Ac yno, fel y mae yn alarus i'w adrodd, efe a gaf- odd ei orchfygu i'r fath radd, gan fygyth- ion yr Ymerawdwr a'r Cyngor, gan rith- ewyllyswyp da, a chan ei Iygredd ei hun, hyd oni chacd ganddo, mewn eisteddfod gyhoedd, Medi 23, 141ô, ddarllen dad- gyfíësiad, ym mha un yr oedd yn proffesu ymwrihodiad àg athrawiaethau Wickliff a Huss, a derbyniad llawn i holl egwydd- orion Eglwys Rhufain! Fel hyn y mae darostyngiad Mr. Jerom dduwiol yn rhoi i ni wers, er ein dysgu i gydnabod mai gweìltyn gwan yw y dyn^oreu. Ar ol i'r Cyngor gael gan Jerom y dad- gyffesiad hwn, hwy a'u gorchymynasant yn ol i'r carchar, ond gan ganiatau iddo ryw fesur mwy g ryddid ynddo nag o'r blaen. Ond, Och! os oedd ei górph tan rwymau ysgafnach, y mae i ni le i feddwl fod ei enaid tan y llwyth tryrnaf o euog- rwydd a therfysg. Nid oes genym ddim hanes neillduol am helyntoedd a gofidiau ei feddwl; ond y mae yr adferiad a'r ad- nerthiad tra hynod a gafodd, yn rhoi prawf am ei gystudd a'i gyfyngder, ac am ei waredigaeth trwy ras. Pa un ai trwy lid a dygasedd noeth ac ymroclcledig y bu