Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr XIII.] RHAGFYR, 1836. [Rhif. 164. CANIADAU SOLOMON. CYFIEITHIAD NEWYDD O'R HEBRAEG, YNGHYD AG EGLURHADAU BYRION. Eglurltad ar y geiriau talfyredig yn nechreu yr Odlau. P—ch. Priodferch. I M. Merched Jerusalem. I P—B. Priodfab. AWDL XII. Pen. 8. 5-14. Gofyn merched Jerusalem pwy esgynai o'r anialwch gyd â'i hanwylyd. Attéb y Priod, gan gyfarch ei Briodferch, a dywed p'le y cafodd hi, §-c. Hithau a gais gymmwynas ganddo, a darlunia rym ei gariad; sonia hefyd am chwaer ag oedd ganddynt, a chanlyn ymddiddan am dani, ac am winllanoedd afeddent. M. 5. Pwy yw hon a esgyn o'r anialwch, Gan bwyso ar ei hanwylyd? P—b. Dan yr afallen y'th gyfodais; Yno'r esgorodd arnat dy fara, Yno 'r esgorodd yr hon a'th ytnddug. P—CH. 6. Gosod fi fel nôd ar dy galon, Fel nôd ar dy fraich : Canys cryf fel angeu yw cariad, Cyndyn fel y bedd yw eiddigedd ; Ei farwor sydd farwor tân— Tàn ysol Ion. 7. Dyfroedd lawer nis gallant ddiftodd cariad; Ië, afonydd nis boddant ef. Pe rhoddai gwr holl sylwedd ei dý am gariad, Gan ddirmygu dirmygid ef erddo.------ 8. Chwaer sydd ini, un fecban yw, A bronau nid oes ganddi. Beth a wnawn i'n chwaer, Yn y dydd y dywedir am dani. P—B. 9. Os mur yw hi, adeiladwn arni balas arian; Os drws yw hi, cauwn hi âg ystyllod cedrwydd. Ch. 10. Myfi wyf fur, a'm bronau fyddant fel tyrau; Yna byddaf yn ei olwg, Fel un wedi cael tangnefedd. P—cH. 11. Gwinllan sydd gan Solomon yn Bol-hamon; Rhoddodd y winìlan i warcheidwaid; Pob un a ddwg o'i fí'rwyth werth mil o arian; RHAGFYR, 1836. Y y