Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr XIII.] TACHWEDD, 1836. [Bhif. 163. CANIADAU SOLOMON. CYFIEITIIIAD NEWYDD 0'R HEBRAEG, YNGHYD AG EGLURHADAÜ BYRION. Eglurhad ar y geiriau talfyredìg yn nechreu yr Odlau. P—ch. Priodferch. I M. Merched Jerusalem. I P—B. Priodfab. AWDL XI. Pen. 7. 11. a 8. 4. Gioáhodda 'r Briodferch ei Hanwylyd i ddyfod i'r wlad er ymweled à'u gwinllan- oedd. O fawr awydd i'w gyfeillach parhaus, dymuna pe byddai iddi 'n frawd ieuanc, cymdeitlias yr hon a allai gael bob amser. Dywed fel yr erys yn ei gocl, a thyngheda ferched Jerusalem na chyffrocnt ef. P—CH. 11. Tyred, fy anwylÿd, awn i'r maes, Noswcithiwn yn y pentrefydd, 12. Boregodwn i'r gwinllanoedd; Edrychwn os torrodd allan y winwydden, A agorodd y blodeu, A flodeuodd yr aflgnewull. Yno rhoddaf fy mheraiddlýs iti, 13. Y peraiddlysiau a roddant arogledd: Ac uwch ein drysau mai pob gwerthfawr flodeu; Rhai newydd a hen, fy anwylyd, a drysorais iti. Pen. VIII. 1. Pwy a'th rydd megis brawd imi, Yn sugno bronau fy mam ? Ceisiwn dy gael yn yr heol, cusanwn di hefyd; Ac ni ddirmygent fi : 2. Arweiniwn di, dygwn di i dy fy mam; Dysget fi, diodwn di â gwin, A beraroglir a sugn yr aflgnewull. 3. Ei aswy sydd o tan fy mhen, A'i ddeheu a'm coíleidia. 4. Tynghedais chwi, ferched Jerusaiem, Na chyffroech ac na ddeffroech Y cariad, hyd oni fyno. Yn yr awdl flaenorol, gwelsom fel yr ewyllysiai'r Briodferch encilio o ddadwrdd y byd. Ei hawydd i ymadael oedd fawr; ac er ei rhwystro y pryd hyny gan ferch- ed Jerusalem, a chan ei Phriod, etto ni roddodd heibioei bwriad ; ac ynia hi a erfyn ar ei hanwyiyd i fod yn gydymaith iddi, Tyred, fy anwylyd, awn i'r maes, &c. Nid yw ymdriniaeth fydol yn gyfaill i dduwioldeb. Mae achosion daear yn dueddol i TACHWEDD, 1830. S S