Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr XIII.] HYDREF, 1836. [Rhif. 162. CANIADAU SOLOMOJY. CYFIEITHIAD NEWYDD O'R HEBRAEG, YNGHYD AG EGLURHADAU BYBION. Eglwhad ar y geiriau talfyredig yn nechreu yr Odlau. / P—ch. Priodferch. I M. Merched Jerusalem. I P—lî. Priodfab. AWDL X. Pen. 7. 1—13. Y Briodferch, ar fyned i'w gardd, a gipir ymaith gan ei hawydd mewn brys fcl cerbydau Aminadab. Ond dymuna merched Jerusalem ei dychweliad a'i chyfeill- ach. Pan ofyn iddynt beth a welent ynddi, attebant, y gwelent ynddi yr hyn sydd gyfattebol i ganiadau y minteioedd, y rhai a adroddant. I'r diben Vw throi yn ol, cyfarch y Priodfab hi: hithau o'i atteb yn gariadus. P—CH. 1. I'r ardd ysgythredig yr oeddwn yn disgyn, I edrych am íl'rwythau'r dyft'ryn, I edrych a dorrodd allan y winwydden, A flodeuodd y pren rimon; 2. Nis gwyddwn; fy enaid a'ra gosododd Fel cerbydau Aminadab. M. Dychwel, dychwel, Salomes; 3. Dychwel, dychwel fel yr edryehom arnat. P—CH. Beth a welwch yn Salomes? M. ' Yr hyn sydd' ynol pibelliadau 'r mintcioedd. 4. Mor hardd dy draed mewn esgidiau, f'erch pendcíig; Llodrau dy forddwydydd t'el tlysau, Gwaith dwylaw 'r cywraint; 5. Dy wasg yn gwppan crwn, Na fetha mo'r gymmysgwin; Dy fol yn dwrr o wenith, Wedi ei amgylchu â lili; 6. Dy ddwyfron fel dau lwdn, gefcilliaid iyrches; 7. Dy wddf fel twr ifori; Dy lygaid fel y Uynoedd yn lleshon, Wrth borth Beth-rahbim; Dy drwyn fel twr Lihanon, Sy'n edrych tua Damascus; 3. Dy ben arnat fel Carmel; A gwallt dy ben fel porphor hrenin, Wedi ei glymu ar dylathau. HYDREF, 1836. o o