Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Wfr XIII.] AWST, 1836. [Rhif. 160. CANIADAU SOLOMON. CYFIEITHIAD NEWi'DD O'R HEBRAEG, YNGHYD AG EGLURHADAU BYRION. Eglurhad ar y geìriau talfyredig yn nechreu yr Odlau. P—ch. Pbiodferch. I Ll. Llancesau. AWDL VIII. Pen. 5. 2. a 6. 1. ■bychwel y gwr yn yr hwyr, a chaiffei briod yn gorphwys; geilw, ond oeda hi agor- yd iddo. Pan ddel at y drws, caiff ef wedi ymadael; â allan i'w geisio; a gwylwyr y ddinas a rydd ammharch iddi. Ar ol hyn, à at ferched Jerusalem; rhydd iddynt orchymyn\amdano, a darluniad ohono: mynegant eu parodrwydd. i'w chwilio gydag hi. I*—ch. 2. Myfi a gysgais; ond fy nghalon a ddeffrodd: Llais fy anwylyd yn curo: " Agor imi, fy chwaer, j Fy nghyfeilles, fy nghlomen, fy nihalog; Canys fy mhen sy'n llawn o wlith; Fy ngwallt, o ddefnynau'r nos." 3. " Diosgais fy mhais, podd y gwisgaf hi? Golchais fy nhraed, podd y diwynaf hwynt?" 4. Fy anwylyd a estynodd ei law trwy'r twll; A'm hymysgarodd a gyffrodd tuagatto: 6. Cyfodais I i agoryd i'm hanwylyd, A'm dwylaw a ddiferasant fyr; A'm bysedd, fyr yn rhedeg arhyd mynybrau'r clo. 6. Agorais I i'm hanwylyd ; Ond fy anwylyd gan gilio a aeth heibio: Fy enaid a aeth allan o'i herwydd : Ceisiais ef, ond nis cefais ef; Galwais arno, ond nis attebodd íi. 7. Cafodd fi y gwylwyr sy'n ogylchu yn y ddinas; Tarawsant fi, archollasant fi : Dugodd wylwyr y caerau fy ngorchudd oddiarnaf. 8. Tynghcdaf chwi, ferched Jerusalem, Os cewch fy anwylyd, Am y peth a ddywedwch wrtho,— " Mai claf o gariad wyf fi." Awst, 1836- F f