Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Uyfr XIII.] GORPHENAF, 1836._________[Rhif. 151). CANIADAU SOLOMON. CYFIEITHIAD NEWVDD O'R HEBRAEG, YNGHYD AG EGLURHADAÜ BYRI0N. F.ylurhad ar y geiriau talfyredig yn nechreu yr Odlau. P—b. Priodfab. I P—ch. Priodferch. AWDL VII. Pen. 4. 1. a 5. 1. Oo8odir allan yn hon ddarluniad o'r Briodferch gan ei Phriod, o'r adnod gyntaf hyd y bymthegfed. Yna gwahodda 'rferch y mab ifwynhau danteithion ei ardd: gwrendy'r Priodfab, a daw ifwyta eiffrwythau. P—b. 1. Wele di yn hardd, fy nghyfeilles, wele di yn hardd: Dy lygaid yn glomenaidd rhwng dy lywethau; Dy wallt fel diadell o eifr, Y rhai a ddisgleiriant o fynydd Gilead; 2. Dy ddannedd fel diadell y cnciíion, Y rhai a ddisgynant o"r olchfa, Y rhai sydd oll yn gymharedig, Ac heb un amddifad yn eu plith; 3. Fel edau ysgarlad dy wefusau, A'th enau yn harddwych; Fel darn o rimon dy rudd, Rhwng dy lywethau : 4. Fel twr Dafydd dy wddf, A adeiladwyd er arfdý ; Mil o darianau a grogir ynddo, Holl estylch y dewrion: 5. Dy ddwyfron fel dau o lydnod, Gefeilliaid gafr, yn pori ymysc y lili. 6. Hyd oni anadlo'r dydd, ac y cilio'r eysgodau, Af erof i fynydd y murr, ac i fryn y thus. 7. Wyt oll yn hardd, fy nghyfeilles; A dûfan nid oes arnat. 8. Gyda mi o Libanon, y ddiweddi, Gyda mi o Libanon, tyred: tEdrych o ben Amana, O ben Shenir a Hermon, O lochesau'r llewod, O fynyddoedd y llewpardiaid, GORPHENAF, 1830. B "