Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWYLIEDYDD. Llyfr XIII.] MAI, 1836. [Rhif. 157. CANIADAU SOLOMON. CYFIEITHIAD NEWYDD 0*R HEBRAEG, YNGHYD AG EGLURHADAU BYRI0N. Eglurhad ar y gair talfyredig 'yn nechreu yr Odlau. P—CH. Priodferch. AWDL V. Pen. 3. 1-5. Gosodir yr eglwys allan yma dan yr olygiad o wraig wedi colli ei phriod: y mae'n myned allan yn y nos i'w geisio, yn cyfarfod â gwylwyr y ddinas, yn ei gael ac yn dangos ei dymuniad am ei barhaus gymdeithas. P—ch. 1, A.r fy ngwely yn y nos, Ceisiais yr hwn a garodd fy enaid ; Ceisiais ef, ond nis cefais ef. 2. Codaf nawr ac ogylchaf yn y ddinas : Trwy yr heolydd a thrwy yr ehangleoedd ; Ceisiaf yr hwn a gar fy enaid.— Ceisiais ef, ond nis cefais. 3. Cafodd fì y gwylwyr sy'n ogylchu yn y ddinas: —" A welsoch yr hwn a gar fy enaid ?" 4. Ni thrarawyais ond ychydig oddiwrthynt, Hyd oni chefais yr hwn a garodd fy enaid. Deliais ef, ac nis gollyngais ef yn rhydd, Hyd oni ddygais ef i dý fy mam, Ac i ystafell yr hon a'm hymddugodd. 5. Tynghedaf chwi, ferched Jerusalem, Ynghydag iyrohod ac ewigod y maes, Na chyffroch ac na ddeffroch Y cariad hyd oni fynno, 1—5. Mae'r wraig wedi colli ei phriod; y credadyn, gymdeithas ei Arglwydd. Hi a ymdrechodd atn dano yn y dirgel; ond nis cafodd. Un oedd ag a hofTai ei henaid : am hyny nis gallai fod yn esmwyth hebddo. Aeth allan " i heolydd y ddinas;'" ond methodd ei gael: cyfarfu'r " gwylwyr," gweinidogion y gair, a gofynodd idd- ynt am ei chariad: " A welsoch yr hwn a garfy enaid?" Ymddengys iddi gael rhyw gyfarwyddiadau ganddynt; canys dywed wedi hyn iddi lwyddo yti ei hymdrech; cafodd ef. Pan fetho 'r credadyn adferu gwedd wyneb Duw, dylai fyned at y rhai öy'n gwylio dros eneidiau. Fe anrhydedda üuw ei sefydliad ei hun, y weinidog- aeth; achub y rhai a gredant trwy jfolineb pregethu.—Yn ol ei gael, daliodd a dug- MAI, 183G. R