Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr XIII.] MAWRTH, 1836. [Rhif. 155. CANIADAU SOLOMON. CYFIE1THIAD NEWYDD O'R HEBRAEG, YNGHYD AG EGLURHADAU BYRION. Eglurhad ar y ÿeiriau talfyredig yn nechreu yr Odlau. B—S. BüGEILES. | B. BüGAIt. AWDL II. Pen. I. 6. 7. Cyfnewidir yr aralleg yma ; mae V gàn yn fugeilgerdd berffaith. Dymuna V Fu- geilea wybod am gyrchfan y JBugail, a chyfarwyddir hi i'w gael allan. Gwel Ioan x. B—s, 6. Mynega imi yr hwn a garfy enaid, Pa le y bugeili, Pa le yr ymorweddi ganol dydd : Canys pam y byddaf fel un cuddiedig, Wrth ddiadellau dy gymdeithion? B. 7. Os na wyddost, cerdd, y decaf o'r gwragedd ; Dos allan, cerdd yn ôl traed y praidd; A pbortha dy fynnod, Wrth bebyll y bugeiliaid. 6. Chwennych y Fugeiles wybod y lle ag y porthai ei chariad a'i hanwylyd ei braidd ynddo, a'r man y gorweddai ei ddiadell ganol dydd, fel y gallai gael ei gyf- eillach. Nid ei hewyllys oedd bod hebddo, ac nid ymfoddlonai ar gymdeithas ei gymdeithion, sef y rhai a fugeiliant o'i amgylch ; nis gallai oddef bod yn guddiedig oddiwrtho tuhwnt i'w diadellau hwynt, ond ei dymuniad oedd dyfod at ei Phriod. Llesiol ac hyfryd ar brydiau yw cyfeillach brodyr yn y ffydd, ond ni wna ddim o'r tro i fod yn lle cyfeillach y Brawd henaf, y Bugail da. Cymmundeb y Saint sydd felus, ond cymmundeb â Duw sydd lawer mwy melus a llawer mwy gwerthfawr. 7. O gariad tuagatti y Bugail a'i cyfarwydda. Dywed wrthi am gerdded arhyd ôl traed y praidd. Fel hyn y deuai i'r man ag ydoedd yn chwennych. A gorchy- myn iddi borthi ei mynnod wrth bebyll ei fugeiliaid, lle y cafai ei gymdeithas. Yr un yw 'r ffordd i bawb tuagat cyfranogi ymborth a gorphwysfa i'r enaid, ffordd yr hen dduwiolion er dechreuad y byd; a gorchymyn y nefoedd y w, Sefwch ar yffyrdd ac edrychwch, a gofynwch am yrhen Iwybrau, lle maeffordd dda, a rhodiwch ynddi, a chewch orphwysdra i'c/t eneidiau. Jer. 6. 10. Pebyll y bugeiliaid a allant ar- wyddocau Eglwysi gwir weinidogion, y rhai a bregethant yr Efengyl yn ei hyspryd a'i phurdeb. Dyma 'r Ueoedd y teilynga ein Harglwydd bresenoli ynddynt. I. B—s. 6. 'Rhwn gâr fy euaid, d'wed i mi, Pa le gwnai di fugeilio, Pa le gorphwysi ganol dydd, Y rhoi dan gudd dy eiddo ? MAWRTH, 1B36. r