Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr XIII.] CHWEFROR, 1836. [RHIF. 154. CANIADAU SOLOMON. CYPIEITHIAD NEWYDD O'R HEBRAEG, YNGHYD AG EGLURHADAU BYRION. RHAGYMADRODD. Bernir gan y dysgedig mai nid un gân barhaus yw 'r llyfyr hwn, ond y cynnwys amryw odlau byrion; ac ystyr ei enw, Cân y Caniadau, meddynt, yw nid y benaf o ganiadau, ond rhes o ganiadau; oherwydd hyn, fel y tybiant, yw arwyddocàd y gair gwreiddiol. Hawdd yn wir yw canfod mai felly y mae yn iawn eu hystyried, am nad oes un cyssylltiad angenrheidiol rhyngddynt à'u gilydd. Cyfarfyddwn ynddynt yn aml a chyfnewidiadau hollol yn yr olygwel, yn y cydmariaethau, ac yn sefyllfa 'r rhai a ymddiddanant. Ambellwaith y lle y dygir iddo yw palas brenhinol, a'r breuin a'r frenhines ydynt y rhai y cenir amdanynt. Bryd arall ar- weinir ni i'r wlad, i fysg y praidd, a'r ymddiddan sydd rhwng y bugail a'r fugeiles. Y cyfnewidiadau hyn a'r fath a eglur-ddangosant nad un gerdd reolaidd ydynt, ond amryw wedi eu crynhoi ynghyd. Ymdrechwyd eu dosparthu yn ol eu hystyr; plebynag y cyfnewidia'r pethau a soniwyd, yno y gwneir y rhaniad. Dyma'r drefn a gymerwyd er sefydlu eu terfynau.—Y rhaniad i bennodau ac adnodau sydd waith diweddar, ac yn waith dynion dysgedig yn unig. Cyfrifir hefyd fod y rhan fwyaf, os nid y cwbwl o'rodlau hyn, wedi eu hysgrifenu mewn arallegau neu gyffelybiaethau dammegol, yn debig i'r rhai a arferwyd yn aml gan ein Harglwydd ei hun; ac nid, fel y tybia rhai, yn ddarluniadol o Solomon a'i wraig; er y gall fod yn rhai ohonynt ryw gyfeiriadau at hyn hefyd. Dychymyg ac nid peth wedi cymmeryd lle yn wirioneddol yw ei sylfaen. O'r un ansawdd yd- ynt a dammeg y mab afradlon, dammeg y winllan, ac amryw eraill. Aralleg ddammegol yw dychymyg o hanes neu ddigwyddiad er gosod allan wirioneddau ysprydol. Er na choffeir dim o'r Uyfyr hwn yn y Testament Newydd, etto nid oes un achos i ammeu ei ddwyfoldeb. Yr un cyffelybiaethau am Grist ac am ei eglwys a arferir ynddo, ag a ddefnyddwyd gan ragflaenor ein Harglwydd, a chan ei Apostolion. loan iii. 29. 2 Cor. xi. 2. JSph. v. 22. Y mae hefyd yn un o'r Uyfrau byny ag a gyfenwid, yr ytgrythyrau, y rhai a dderbyniasant gymeradwyaeth Crist, ac am y rhai y tystiolaetha 'r Apostol eu bod o ysprydoliaeth Duw. Yn y gwaith canlynol .ymdrechwyd i wneuthur cyiieithiad llythyrenol o'r Heb- raeg; y mae mor Iythyrenol fel na chymmysgir, ond yn anfynych iawn, hydynoed drefn y geiriaa; gosodir hwynt yn gyffredin air yngair. Gwnaed hyn i'r diben i gadw, hyd ag a ellir, y rhediad prydyddol sydd ynddynt; ac er dangos i'r Cymro mor gywir ac mor addas y gwna 'r Gymraeg osod allan iaith gair Duw. Tebygol na fedd y byd un dwy iaith mor gyffelyb i'w gilydd. Adchwanegwyd nodau byr- ion er amlygu sylwedd ysprydol yr amrywiol odlau. Gobeithir y bydd i'rymdrech hwn gael ei goroiri à bendith, y bydd i wybodaeth gywir gael ei chyfranu trwyddo, ac y bydd iddo fod yn achos er cynhyrfu eraill i ymroddi euhunain i'r gwaitb, pwysfawr o egluro i'r Cymro uniaith ddirgeloedd ac anhawsderau 'r gair bendigedig. CHWEFROR, 183C E