Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y cjWYLIEDYDD LlyfR XIII.] IONAWR, 1836. [Rhif. 153. ** Ac yr ydwyffinnau yn dywedyd i ti, mai ti yw Pctr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys; aphyrth uffern nis gorchfygant hi."—Mat. 1G. 18. apostol y geiriau, a'r llawnder sydd yn-, ddynt. Gellir cyfieitliu y geiriau o'r iaith "wreiddiol fel y canlyn:—" Ti yw Crist, Mab y Duw, y üuw byw," gan arwyddo ei fod yn unig Fab yr unigwir a'r bywiol Dduw. Mewn atebiud i'r gyffes hon yr atebodd yr lesu, gan ddywedyd, " Gwyn dy fyd di, Simon mab Jona: canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd." Gall dyn gyfranu gwybodaeth y byd hwn, gall dyn gyfranu hyd yn nod wybodaeth o bethau ysprydol; ond y mae yn gwbl an- alluog i gyfranu ffydd. Ni ddichon cig a gwaed wneuthur hyn: " Dy holl blant a fyddant wedi eu dysgu genyt ti," medd y prophwyd: ac nis heuir had bywyd tragy- wyddol yn y galon ond gan allu Duw Yspryd Glân. Rhoddir anrhydedd y gwaith mawr a bendigedig hwn iddo ef, megys y dywed yr apostol, " Trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hyny nid o honoch eich hunain : rhodd Duw ydyw." Wedi ei alw ef yn wynfydedig trwy ddcrbyn y rhodd werthfawr hon, aeth ein Harglwydd bendigedig y'mlaen i ddywedyd, " Ti yw Petr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys; a phyrth uífern nis gorchfygant hi." Nid yw yn angenrheidiol i mi fynegu yma mai ar yr adnod hon y mae Eglwys Rhufain yn haeru ei bod yn benaf ac yn anffaeledig. Yn ol esponiad y Pabyddion o'r gair hwn, ordeiniodd ein Harglwydd St. Petr yn Ben yí eglwys yn ei le ei hun ar y ddaear, gan roddi awdurdod rhyfeddol iddo ef, ac i'w ganlynwyr, hyd ddiwedd y byd. Yr ydym yn gwadu fod y geiriau yn tros- glwyddo y cyfryw awdurdod a blaenor- iaeth i Petr; eithr pan y dywedodd ein Harglwydd, " Ar y graig hon yr adeiladaf Ar yr amser yma, pan y mae Eglwys Rhufain yn ceisio dyrchafu ei phen yn uchel yn y deyrnas hon, y'mha un y caf- odd ei dal i lawr yn isel am ddyddiau lawer, y mae yn ddyledswydd ar bob aelod o'r wladwriaeth yn ol ei allu i fod yn hysbys o'r athrawiaethau am ba rai y dadleuir. Nid fy meddwl yw fod yn rhaid iddo ymryson ynghylch pethau o ychydig bwys, ond yn syml, gyd â'r Bibl yn ei law, a gweddi daer am ddysgeid- iaeth yr Yspryd Glân, fod yn ddyled- swydd arno chwilio yn fanwl y pyngciau mwyaf am ba rai y mae dadl rhwng yr Eglwysi, fe! na chaffo ei arwain o amgylch gan bob awel dysgeidiaeth, ac fel y gallo roddiateb iereiilam y gobaithsydd ynddo. Yr ydym wedi byw cyhyd mewn cyflwr diogel, fel y mae llawer o honom yn hollol anwybodus o'r prif achosion ag a barodd i'n tadau ymadael âg Eglwys a wnaeth air Duw yn ddirym trwy eu traddodiadau eu hunain. Ffrwyth yr anwybodaeth hon yw, fod dynion yn rhyfygu haeru mai dim yw y gwahaniaeth rhwng y ddwy Eglwys, heb ystyried pe byddai hyn yn wir fod y grefydd Brotestanaidd yn ymraniad sas gellirei amddiffyn. Ein Harglwydd ben- digedig, yn y bennod o ba un y cyrnmer- wyd y testun, " a ofynodd i'w ddisgybl- ion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i, Mab y dyn? A hwy addywedasant, Rhai, mai Ioan Fed- yddiwr, a rhai mai El'ias, ac ereill mai Jeremias, neu un o'r prophwydi. Efe a ddywedodd ẃrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi? A Simon Petr a, atebodd ac a ddywrdodd, Ti yw y Crist, Mab y Duw byvv." Mae y geiriau hyn yn gyffes ffydd mwyaf hynod ytl yr holl Ysgrythyr Lân, os ystyriwn yr amser y llefarodd yr IONAWR, 1830.