Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr XII.] RHAGFYR, 1835. [Rhif. 152. l$ttqett). " A'r bugeiliaid a ddychwelasant, gan ogoneddu a moliahnu Duw am yr holl bethau a glywsent ac a welsent."—Luc 2. 20. Y mae yr amser yma, sef y Nadolig, wedi bod o oes i oes yn amser o lawenydd yn y byd Cristionogol. Amcanaf, trwy gymmorth yr Yspryd Glân, ddangos oddi- wrth y testun natur y llawenydd sydd ym mynwes y credadyn am enedigaeth yr Arglwydd Iesu Grist. Ac wrth sôn am dano, gweddiwn am i ni gael ei brofi bob un o honorn yn bersonol. 1. Y mae yn llawenydd llawn o ddi- olchgarwch : " A'r bugeiliaid a ddychwel- asant, gan ogoneddu a moliannu Duw." Wrth glywed y "newyddion dao lawen- ydd mawr" am enedigaeth yr Iesu yn y preseb tlawd—ac wrth feddwl fod y plent- yn bychan hwn yn Dduw cadarn, ac yn Dad tragywyddoldeb, wedi ymddangos yn y cnawd—nis medr y Cristion lai na go- goneddu a moliannu Duw am yr hyn a welodd ac a glywodd. Y mae yn teimlo ei galon yn llawn o ddiolchgarwch, yr hwn nis dichon efe ei draethu mewn geir- iau, ond yr hwn a fedr ei fynegu trwy ddagrau o ddiolchgarwch yn gwlychu y preseb lle y gorwedd y baban, trwy gan- iadau o fawl yn cyduno âg anthem y llu nefol, a'r weddi wresog yn dyrchafu o waelod calón lawen a diolchgar, a'r fod ei fuchedd, yn gystal â'i wefusau, yn gysson â'r gân angylaidd, ac âg amcan genedig- aeth y Prynwr, i gyhoeddi, í« Gogoniant i Dduw yn y Goruchaf, ar y ddaear tang- nefedd, i ddynion ewyllys da." Oblegid " ymddango&odd Mab Duw, fel y dattodai weithredoedd diafol." 2. Y mae yn llawenydd difrifol. Y mae yn trigo yn y galon yn fwy nag yn y genau; yn amlygu ei hun trwy wèn felus sirioldeb tawel, yn hytrach na thrwy chwerthiniad ynfyd y grechwen gnawdol. Y mae yn annhebyg i rodres gwag y byd, RHAGFYR, 1835. yn tori allan mewn ofer-siarad; ond megys afon fawr, rhy ddwfn i fod yn trystio, a rhy lawn i fod yn berwi, llifa y'mlaen mewn modd distaw nes cymmysgu ei thònau pur a thawel âg afon dwfr y by w- yd, sydd yn tarddu o dan orseddfaingc Duw a'r Oen. Y mae hyn yn dra gwir- ioneddol am Iawenydd y Cristion am en- edigaeth y Ceidwad mawr, yr hwn sydd yn sobr a difrifol; oblegid, pa fodd y gall y credadyn fod yn ysgafn pan y cofia efe fod yr hwn, am enedigaeth pa un y lla- wenycha, wedi ei eni er ei fwyn, i fywyd o ílinder didor, ac i angeu o ing anghyd- marol a gwarth. Dichon y byd anghofio, ond nis dichon efe, mai ei bechodau ef a dynodd Fab Duw i lawr o fynwes y Tad, acoorsedd y nefoedd, i breseb Bethlehem, ac i groes Calfaria! Ac wrth ddwys fyfyrio ar ei holl boenau oddi yno i'r bedd er cyflawni gwaith mawr ein prynedigaeth, y mae yn llawenhau am ei enedigaeth, ond llaweuhau y mae mewn dychryn; y mae dagrau o alar yn gymmysgedig â dagrau o lawenydd diolchgar; a thra y mae efe yn gogoneddu ac yn moliannu Duw arn eni Ceidwad iddo ef, y mae yn taer weddio hefyd rhag iddo, trwy ofer ymarweddiad, byth glwyfo cariad, neu ddianrhydeddu enw yr Iesu, yr hwn a ymostyngodd i breseb ar y ddaear i'w ddyrchafu ef i or- sedd yn y nefoedd yn dragywydd. 3. Y mae yn llawenydd yn hoflì ym- daenu, ac yn dymuno i bawb o amgylch gael bod yn gyfranog o hono. Nid yw fel llawenydd hunanol plant y byd hwn, lle mae dedwyddwch un dyn mor fynych yn alar dyn arall: ond y mae Uawenydd y Cristion yn cynnyddu wrth ei daenu ar led yr holl fyd, ac y mae ei yspryd yn lloni wrth weled a chlywed fod pechaduriaid Yy