Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr XII.] TACHWEDD, 1835. [RlIIF. 151, " I'r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf 'iddo fwyta o'r manna cuddiedig, ac a roddaf iddo gareg locn, uc ar'y gareg enw néwydd wedì ei ysgrifenu, yr hwn nid edwyn neb, ond yr hwn sydd yn ei dẁr&jra."—Dat. 2. 17. Dyma un o'r addewidion cysurus hyny a roddwyd gan ein Harglwydd bendiged- ig i eglwysi Asia dan erlidigaetbau. Ond ni chyfyngir y benditbion am barai y sonir ytna iddynt hwy yn unig yn yr oes bòno, ond dichon pob gwir Gristion eu mwynliau yr awrhon trwy yr holl fyd. I'r diben o sylwi ar y geiriau, cawn, trwy gytnmorth yr Yspryd Glân, ystyried, I. Darluniad o'r bobl at ba rai y dan- fonir y geiriau. II. Y bendithion a addewir iddynt. I. Darluniad o'r bobl at ba rai y dan- fonir y geiriau. 1. Lleferir y geiriau wrth yr hwn sydd yn gorchfygu. Y dyn, yr hwn a etyb i'r darluniad hwn, sydd un a ŵyr fod gelyn- ion ysprydol yn ei wrthwynebu. Canfu fod byd, cnawd, a Satan, yn cyduno i wrthwynebu iachawdwriaeth ei enaid : os ymdrecha. i fod yn sanctaidd yn y byd hwn, ac yn ddedwydd yn y byd a ddaw, rhaid iddo ymbarotôi i wneuthur gweddill ei fywyd yn ystod gysson o ryfel a gwyliad- wriaeth. Ychydig o honom a ŵyr yn brof- iadol am hyn : yr ydym yn clywed am el- ynion ysprydol, ond y mae y rban fwyaf o honom heb wybod am cu dichellion. Bu- om byw yn y byd, ac yn ymdrafferthu yn ei helynt, ond ni theimlasom ei fod yn niweidiol i lwyddiant ein henaid, neu yn rhwystro ein laith i'r nefoedd; ac ni chawsom boen mawr gan chwantau y cnawd. Gwir yw ein bod yn cynnwys meddyliau llygredig o'n mewn, ond darfu i ni briodoli y pethau hyn i wendid ein cnawd, ac ni thynasant un deigr o'n llyg- aid, ac ni roisant ddim poen i'n calonau. Eglur yw oddiwrth y pethau hyn, nad yw geiriau y testyn yn 'perthyn i ni. Ni ddarfu i ni gymmaint a gweled gelyn, ac TACHWEDI), 1835. am hyny nid oes i ni hawl i wobr yr hwn a ryfelodd, ac a orchfygodd. 2. Ond y mae 'r gair gorchfyga yn ar- wyddo fod brwydr wedi bod. Dangosir yma fod y Cristion yn gwrlhwynebu ar- ferion llygredig y byd, ac yn rhyfela yn wrol yn erbyn Satan. Arwydda hefyd fod rhyfel yn mynwes y Cristion: a pha frwydr sydd debyg i hon? Mae 'r cnawd yn rhyfela yn erbyn yr yspryd, a'r yspryd yn erbyn y cnawd. Mae pechod yn rhy- fela yn erbyn gras, a gras yn erbyn pech- od: yma yr ymleddir brwydr boenus a gwastadol, ac yma yr ennillir coron y fuddugoliaeth yn y diwedd. Yr ymdrech barhaus hon â'r un drwg a wna ragor rhwng plant Duw a dyniou ereill. Mae'r naill yn ymfoddloni mewn pechod, tra y mae'r llall yn ymegn'io yn ei erbyn hyd eithaf ei aìltt, ac yn gwedd'io am ras i orchfygu. llyn a ddeogys ein bod yn ddidwyll yn ein profles grefyddol; hyn a ddengys fod ein deall wedi ei oleuo, fod ein cydwybod o ochr Duw, fod ein calon- au wedi cu cadarnhau â gras, a bod eg- wyddor o fywyd newydd ac ysprydol wedi ei phlanu o'r nefoedd yn ein calonau. 3. Ond nid ydym i aros yma. Dengys y testyn fod y Cristion yn gorchfygu gelyn- ion ei enaid ; ac nis gellir gwasgu Ityn yn rhy agos at ein meddyliau. Y gwirionedd agynnwys sydd o'r pwys mwyaf i'n tragy- wyddol heddwch, ac etto nid oes un gwit- ionedd ag yr ydytn mor dueddol i'w ang- hoíìo, ac mor hawdd genym ei anghredu. O ba le y daeth yr amry wiol gyfeiliornad- au sydd yn ein mysg? A yw yrefengyl mor anhawdd i'w deall? Nac ydyw. Y gel- yn a hauodd yr efrau hyn yn eglwys Crist y'mhob oes. Twyllir dynion ganddo y gall- ant fyw mewn pechod yma, ac yn augeu s s