Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y gwyliedydd. HYDREF, 1835. [Rhif. 150. MARWOLAETH Y CYFIAWN. îlreg^tl) A DRADDODWYD YN EGLWYS DINBYCH, AR DDYDD SUL, AWST l, 1835, AR YR ACHLYSUR O FARWOLAETH Mr. WILLIAMS, O GOEDACCAS, YR HWN A HUNODD YN YR IESU GORPHENAF 19, 1835. NüMERI XXÜÌ, 10. "Marw a wnelwyf o farwolaeth yr union, a bydd- ed fy niwcdd fel yr eiddo yntau." Pa fath bynag fyddo y bywyd a dreul- iwn, nid oes neb, mi feddyliwn, mor gwbl amddifad o reswm a dynoliaeth ag i beidio dymuno diwedd tangnefeddus yn yr awr olaf; ac i beidio dymuno o leiaf, y pryd hyny, edrych yn ol, heb gnofëydd cyd- wybod—ac y'mlaen, heb arswyd—ac i brofi dymuniad tra hysbys Balaam ang- hysson yn fy nhestyn: " Marw a wnelwyf o farwolaeth yr union, a bydded fy niw- edd fel yr eiddo yntau." Anghyssonedd dinystriol, ond rhy gyffredin, yw dymuno diwedd y cyfiawn, heb ymbarotôi ar ei gyfer; a Ilefaru iaith crefydd, heb feddu ei ffydd, ei sancteiddrwydd, na'i hufudd- dod. O bob cyfeiliornadau ymarferol, nid oes hn mor hawdd ei wrthbrofi, ac etto yr un hior anhawdd ei orchfygu, a hwn; sef, nad T/w parotöad erbyn marwolaeth mewn un »«odd yn angenrheidiol, neu y gellir, heb 1n math o berygl, ei oedi—bod amser iiiaith etto o'n blaenau, a marwolaeth ym öihell oddi wrthym—y cymmeradwyir bywyd o ddiwydrwydd, yn lle bywyd o 8ancteiddrwydd—ac y ceir yn niwedd y cwbl, fod deng mtynedd a thriugain o fyw öiewn pechod, un awr fe allai o edifeirwch, ftc yna tragywyddolfyd o ddedwyddwch, yn gysson â'u gilydd, ac â'r hyn a ofyn Duw oddi wrthym. Diau na fynem osod terfyn ì ras yr Hollalluog, nachau drws gobaith Jn erbyn un pechadur edifeiriol; eithr yr ydym yn gosod ger eich bronau yr unig barotöad diogel a phrydlawn erbyn angeu, HYDREF, 1835. ac yn eich rhybuddio rhag ei esgeuluso, na'i oedi. Dymunem ddeffroi, pe byddai bossibl, eich meddyliau a'ch galluoedd grymusaf at y gorchwyl pwysig hwnw. Dymunem ddarlunio i chwi Fywyd ei hun, fel gwawr tragywyddol ddydd, a phob awr i'w threulio mewn gwyliadwriaeth, gan " nas gwyddoch na'r dydd na'r awr y daw Mab y dyn." Dymunem, mewn gair, gyduno â lleferydd Duw ei hun, ac felly eich " dysgu i gyfrif eich dyddiau, fel y dygoch eich calonau i ddoethineb." I un a fo yn ymbarotôi erbyn ei gyfrif olaf, a'i ymadawiad â'r fuchedd hon, y mae dau beth yn anhepgorol angenrheid- iol. Ycyntafyw—bod wediderbynmadd- euant, a'i wneud yn gymmeradwy gyda Duw. Y llall—ei wneud yn gymmwys i fwynhau ei etifeddiaeth nefol. Mae y naill yn rhoddi iddo hawl o dderbyniad i wynfyd; a'r llall yn ei addasu i'r mwyn- had o hono. Mae y naill yn ei adferu i ffafr Duw, yr hyn, trwy bechod, yr ydoedd wedi colli ei hawl iddo; y llall, i'w ddelw, ag yr ydoedd hefyd wedi myned yn ol am dani. Gŵyr fod y naill tu hwnt i hawl dynol haeddiant; a'r lla.ll tu hwnt i gyr- haedd dynol allu. Am y naill, yn gystal a'r llall, y mae yn edrych, ac nid yn ofer, at Dduw yn unig. Trwy waed Crist y pwrcaswyd y gobaith o'i gymmeradwyaeth gyda Duw. Trwy Crist y mae yn cael ei gymmwyso i deyrnas ei Dad. Mewn geiriau ereill, trwy Grist, trwy ffydd, y mae yn cael ei lwyr waredu oddiwrth ei holl euogrwydd; trwy yr Yspryd, trwy ufudd-dod, y mae yn cael ei adferu y» o o