Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr XII.] MEDI, 1835. [Rhif. 149. yrrgrtf). " Wele, yr wyfyn sefyll icrth y drws, ac yn curo." Dat. 3. 20. Hon yw un o'r adnodau mwyaf hynod 5n yr holl Ysgrythyr Lân, fel darluniad o ymostyngiad, amynedd, achariad Duw yn Nghrist. Bydded i'r Yspryd Glân fen- dithio yn helaeth ein myfyrdod arni, fel y caffom achos i gofio am y gair yma dros tlragywyddoldeb:—" Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws, ac yn curo." Y drws Jw calon pechadur; a phwy sydd yn sef- yll yma, ac yn curo! Ymddengys ei fod yn rhyw un yn llefaru gyd âg awdurdod. Os edrychwn ar yr wythfed adnod o'r bennod gyntaf o'r llyfr hwn, ni a welwn y geiriau, " Myfi yw Alpha ac Omega, y dechreu a'r diwedd, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd, a'r hwn oedd, a'r hwn sydd ì ddyfod, yr Hollalluog." Yn yr adnodau canlynol, cewch ddarluniad o'r Person rhyfeddol yma, megys yr ymddangosodd efe i St. loan. " A phan welais ef, mi a syrthiais wrth ei draed ef fel marw. Ac efe a osododd ei law ddeheu arnaf fi, gan ddywedyd wrthyf, Nac ofna; myfi yw y cyntaf a'r diweddaf: a'r hwn wyf fyw, ac a fum farw; ac wele, byw ydwyf yn oes oesoedd, Amen; ac y mae genyf agoriadau uffern a marwolaeth." Os cydmarwn yr adnodau hyn â'r 6ed adnod o'r 44 bennod o Esaiah, " Fel hyn y dywed yr Ar- glwydd, brenin Israel a'i waredydd, Ar- glwydd y lluoedd, Myfi yw y cyntaf, diw- eddaf ydwyf fi hefyd; ac nid oes Duw ond Myfi;" efe, yr hwn sydd yn dywedyd yn Esaiah, " Myíì yw y cyntaf, diweddaf ydwyf fi hefyd ; ac nid oes Duw ond myfi," yw yr hwn sydd yn llefaru yn y Datgudd- iad, " Myfi yw Alpha ac Oinega, y de- chreu a'r diwedd:" ac yn ganlynol, Jeho- fah yr Hen Destament yw Iesu y Testa- ment Newydd. Onid yvr yn wirionedd diddadl, gan hyny, fod yr adnodau hyn yn brawf digonol o Dduwdod ein Harglwydd medi, I8:ìr>. bendigedig. Medrwn yn awr ateb y cwestiwn — Pwy sydd yn sefyll wrtli ddrws calon dyn, ac yn curo, gan ddeisyî caelagoriad? sef, Iesu Grist, tragywyddol Fab Duw! Mae'n curo megys un ág awdurdod ganddo, yn disgwyl am wran- dawiad. A yw yn onnod iddo ef, yr hwn yw ein Creawdwr, ein Cynnaliwr, a'n Prynwr, gael y drws yn agored iddo ef ? A yw yn ormod parch, meddaf, iddo ef, yn erbyn pa un y gwrthryfelasom, gan haeddu yn gyíiawn fod byth dan ei lid, ond daeth i lawr i wisgo ein natur, ac i farw yn ein lle, gael yr holl galon yn deml iddo ef ei hun? Daeth i'r preseb, i'r groes, ac i'r bedd, er ein mwyn ; ac yn awr y mae yn ymostwng i guro wrth ddrws y galon, gan ddisgwyl cael dyfod- iad i mewn i deyrnasu yno. Pa ymddar- ostyngiad a welir yma? Y Creawdwr yn ymbil ar y creadur! Duw yn deisyf ar ddyn ! y Gwaredwr yn erfyn ar bechadur! Ac am ba beth ? Fel y byddai i'r creadur dderbyn cymmod â'r Creawdwr; fel y byddai i ddyn gael cjmdeithas â Duw; fel y byddai i bechadur roddi croesaw i'r Ceidwad, megys ei arweinydd, ei gyfaill, a'i briod anwyl oi hun! " Os clyw neb fy llais i," medd yr Iesti, " ac agoryd y drws, mi a ddeuaf i mcwn ato ef, ac a swpperaf gyd âg ef, ac yntau gyda niin- nau." Moi hyfryd y mae 'r geiriau hyn, dan y gyffelybiaeth o wledd, yn darlunio tiriondeb ein Harglwydd bendigedig tu ag at y rhai a wrandawant ei lais, ac a agor- ant y drws iddo, gan ei dderbyn ef i'r galon: dangosant fod anwyldeb mawr rhwng Crist a'r eneidiau sydd yn eidder- byn: y mae efe gyda hwynt yn eu holl ymarweddiad, yn sylwi arnynt, yn gwylio drostynt, yn gofalu am danynt, ac j n cyd- ymdeimlo â hwynt yn eu holl wasgfeuon; Kk