Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWÝLIEDYDD Llyfr XII.] AWST, 1835. [Rhif. 148. îlregŵ " Gwnewch i chwi gyfeillinn o'r mammon anghyfiawn: fel, pan fo eisieu arnoch, y'ch derbyniont i'r tragywyddol bebyll."—Luc 16. 9. Yn y rhau flaenorol o'r bennod hon, cawn ddarluniad o anífyddlondeb rhyw oruchwyliwr i'w feistr. Aincanodd y dyn hwn gael elw mawr trwy anonestrwydd: Ond yn Ue hyny syrthiodd i dlodi, fel y bu gorfod iddo roddi ei swydd i fynu. Yn yr ftmgylchiad yma, meddyliodd am ry w ddy- *"ais i wellhau ei hun, gan faddeu i ddyled- wyr ei feistr rhyw gyfran o'u dyled, fel Wrth hyny yr ennillaieu fiafr, gan obeithio y byddent yn dirion wrtho, wedi iddo gael e> fwrw allan o'i oruchwyliaeth. ** Mae l'îant y byd hwn yn gallach yn eu cen- hedlaeth na phlant y goleuni:" hyny yw, ^ae dynion yn dangos mwy o ddoethineb J'n trin eu matterion bydol na phlant Duw Jtt ymdrin â phethau ysprydol. Ein Harglwydd Bendigedig yn y tes- *iin, er mwyn cymhwyso y ddammeg at Rydwybodau ei wrandawyr, a ddywed, G wuewch i chwi gyfeillion o'r mammon ^Hgbyfiawn: fel, pan fo eisieu arnoch, y'ch derbyniont i'r tragywyddol bebyll." Ni chanmolodd ei feistr anghyfiawnder ei tvas, ond ei gallineb yn darparu gogyfer â ^ydd cyfyngder. Wrth geisio egluro y geiriau hyn, ym- ofynwn, yn gyntaf, Pa beth sydd i'w dde- ^ll wrth y " mammon anghyfiawn." Mammon sydd air yn yr iaith Syriaeg, ÿn arwyddo cyfoeth neu elw. Cymhwysir y gair anghyfiawn yn dra phriodol i lioll ^rysorau y bywyd hwn. Nid oes i ni feddwl fod cyfoeth yn ddrwg ynddynt eu Hunain: rhoddion haelioni Duw ydynt, ac fel y cyfryw y maent yn dda: ond pan y gelwir hwynt yn anghyfiawn, hyny sydd <un fod llawer yn arfer anghyfiawnder wrth eu mwynhau. Nid ydym i gasglu oddi- yma, fod yr holl rai cyfoethog yn y byd Uwn yn anghyfiawn, neu yn annuwiol. AWST, 1835. Er mai nid Uawero'r mawrion, nid llawer o rai boneddigion a alwyd; etto bu rhai o'r cyfryw ym mhob oes yn flodeuog yn eglwys Dduw. Edrychwch ar Abraham, Joseph, Dafydd, a Solomon. Dengys y siamplau hyn fod yn bossibl i ddyn fod yn gyfoethog ac yn dduwiol ar yr un pryd. Gelwir cyfoeth, " mammon anghyfiawn," am fod Uawer yn eu caeltrwy anghyfiawn. der. Mae rhai mor dwyllodrus fel nad ydynt yn gofalu pa fodd y maent yn eu casglu. '* Gwreiddyn pob drwg yw ar- iangarwch." Er mwyn elw halogant y Sabbotb, a thwyllant eu cymmydogion mewn masnach. " Yr hwn sydd yn enwi enw Crist, ymadawed àg anghyfiawnder." Gelwir cyfoeth hefyd y " mammon ang- hyfiawn," am ei fod yn cael ei ddefnyddio i'r dibenion gwaethaf, megis meddw-dod, glythineb,aphobanghymmedroldeb. Pan edrychir ar olud fel rhoddion Duw, yn tywys i ddedwyddwch a defnyddioldeb, y mae 'r perchenog yn eu mwynhau gydâ bendith Duw; ond os anghofir y ífynon o ba un y tarddant, a'r diben i ba un y rhoddwyd hwynt; pan hyderir arnynt fel y daioni penaf; yna y maent yn meithrin balchder, hunanoldeb, anghof o Dduw, a dideimladrwydd o bethau ysprydol. Lla- wer o'r rhai sydd yn meddu ar gyfoeth helaeth, a roddant dystiolaeth eglur fod eu calonau yn glynu wrthynt, gan eu cyf- rif y rhan oreu ar eu helw. Gosodent i fynu eu mammon yn lle Duw, a rhoddant iddo y parch a'r gwasanaeth dyledus i Dduw yn unig. Mae hyn yn eilun-addol- iaeth flieiddiaf, a rhaid iddo yru Duw i eiddigedd. Yn olaf—Gelwir oyfoeth yma y " mam- mon anghyfiawn," am ei fod yn siomi y disgwyliadau hyny a barodd cyn ei gael. F f